Ewch i’r prif gynnwys

UA 15 Archaeoleg

Rydym ni’n un o’r adrannau archaeoleg hynaf yn y DU a dathlon ni ein canmlwyddiant yn 2020. Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth yn y gwyddorau archeolegol ac mewn ymchwil maes, cadwraeth, arferion treftadaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Sgoriodd Archaeoleg yng Nghaerdydd GPA cyffredinol o 3.40, gan ein gosod yn 9fed yn y DU. Rydym yn 5ed am effaith ac yn 6ed am ein cynnyrch ymchwil. Pennir bod 90% o’n hallbynnau ymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hyn.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm46.0%48.0%6.0%0.0%0.0%
Allbynnau41.5%48.7%9.8%0.0%0.0%
Effaith75.0%25.0%0.0%0.0%0.0%
Amgylchedd12.5%87.5%0.0%0.0%0.0%

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar dair thema o bwys: Ffyrdd o Fyw Pobl ac Anifeiliaid, y Byd Materol, a Gwyddor ac Ymarfer Treftadaeth. Cynhelir y gwaith hwn ledled y byd ac mae ffocws penodol ar ogledd-orllewin Ewrop a'r Canoldir. Nifer o grwpiau sy’n cynnal y rhain.

Ymhlith y prosiectau ymchwil y mae effaith y Goncwest Normanaidd ar iechyd a maeth, y berthynas rhwng bodau dynol, arteffactau, lle ac amser, a chadwraeth haearn treftadaeth sy’n amrywio o arteffactau bach i longau megis yr SS Great Britain a’r Mary Rose.

Mae gwaith maes a chasglu data yn rhan bwysig o'n hymchwil ac ymhlith y prosiectau diweddar y mae Çatalhöyük (Twrci), Bryngaerau Lippe (Yr Almaen), Bornais (De Uist), Caer y Lleng Rufeinig yng Nghaerllion a Phrosiect Treftadaeth CAER (Caerdydd) sydd wedi ennill gwobrau. Yn y prosiect hwn, rydyn ni’n gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn yr Ysgol Hanes ac aelodau o'r gymuned leol.

Mae cyllid yn hymchwil yn hanu o ystod o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Historic Environment Scotland a ffynonellau Ewropeaidd gan gynnwys cymrodoriaethau megis rhai Marie Curie-Sklodowska.

Mae gwaith maes a chasglu data yn rhan bwysig o’n hymchwil ac yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig a thramor. Ymhlith ein prosiectau ar hyn o bryd y mae Çatalhöyük (Twrci), Caerau, Dinas Powys (Cymru), Bryngaerau Lippe (Yr Almaen), a phrosiect Treftadaeth CAER. Yn y prosiect hwn, rydyn ni’n gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn yr Ysgol Hanes ac aelodau o'r gymuned leol.

Mae gennym labordai eang sy’n cynnwys offer dadansoddi, delweddu a chyfarpar maes, ac mae’r rhain ar gael i staff a myfyrwyr. Rydyn ni wedi uwchraddio ac ehangu ein cyfleusterau a'n hoffer i roi hwb i arloesedd ym maes ymchwil.

Mae gan ein staff rôl bwysig o ran cynghori amgueddfeydd, unedau archaeoleg, llywodraethau ac asiantaethau ynghylch rheoli treftadaeth yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Edrychwch ar sut mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â heriau byd-eang cyfredol a’r rhai sy'n dod i'r amlwg yn ogystal â chyfrifoldebau cymdeithasol sy'n ymwneud ag arferion treftadaeth, a gwella'r sylfaen ymchwil, yr economi a chymdeithas.

Candelabrum paint detail

Ymchwil yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Mae ein hymchwilwyr yn archwilio a rhannu eu hangerdd am gymdeithasau a chredoau crefyddol y gorffennol, o’r cyfnod cynhanes hyd heddiw.

Setting sun

Effaith ymchwil yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Diogelu gwaith haearn treftadaeth rhag effeithiau andwyol rhwd a gwella gofal bugeiliol ar gyfer cymunedau crefyddol.