Ewch i’r prif gynnwys

UA 5 Gwyddorau Biolegol

Gwnaethom sicrhau sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd gyffredinol o 3.30, ac ystyriwyd bod 88% o’n gweithgarwch ymchwil naill ai’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.  Cawsom ein rhoi yn yr 8fed safle yn y DU ar gyfer Pŵer Ymchwil (arwydd o ansawdd a maint ein cyflwyniad). Mae ein hamgylchedd cefnogol a'n diwylliant o ragoriaeth ymchwil wedi’u gwreiddio’n ddwfn, ac mae sgôr o 3.50 ar gyfer amgylchedd yn arwydd o hynny.

Mae’r ffaith ein bod yn y 7fed safle yn y DU ar gyfer effaith yn adlewyrchu rôl hollbwysig ein hymchwilwyr yn y gwaith o fynd i’r afael â’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd. Mae enghreifftiau o’r heriau hyn yn cynnwys diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl, rheoli ecosystemau dŵr croyw iach a nodi ffyrdd gwell o ganfod, monitro a thrin HIV, y ffliw a SARS-CoV-2.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm42.046.012.00.00.0
Allbynnau30.849.419.00.80.0
Effaith64.335.70.00.00.0
Amgylchedd50.050.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae Ysgol y Biowyddorau yn ganolfan fywiog ar gyfer ymchwil fiolegol; yr hyn sy’n ei hysgogi yw ei chymuned ymchwil gynhwysol a chefnogol.

Ers REF 2014, bu cryn ddatblygiadau yn yr Ysgol, gan gynnwys:

  • creu ac arwain Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol (WRI) a’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau (MDI) newydd, a rhagor o rwydweithio â sefydliadau ymchwil presennol ym meysydd Canser, Niwrowyddorau a Chynaliadwyedd
  • buddsoddiad a thwf yn y Canolfannau Rhagoriaeth presennol gan gynnwys y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI) a Chanolfan Maes Danau Girang (DGFC), a chyfrannu ar raddfa fwy eang i Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI), Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE, a Chanolfan Ymchwil Biofecaneg a Biobeirianneg
  • sefydlu Canolfannau Technoleg dan arweiniad academyddion i sicrhau mynediad at adnoddau technolegol, offer ac arbenigedd cydweithredol o’r radd flaenaf; mae hyn wedi symbylu hyfforddiant, allbynnau ac effeithiau
  • buddsoddiad pellach o ran creu diwylliant ymchwil cynhwysol, bu i hyn gael ei gydnabod â Gwobr Arian Rhwydwaith Academaidd Menywod Gwyddonol Athena (SWAN) yn 2016, ac fe ddyfarnwyd ein bod yn haeddiannol ohoni o hyd yn 2020

Yn ystod cyfnod REF 2021, roedd cyfanswm yr incwm grant ar gyfartaledd yn £11.8 miliwn y flwyddyn, sef cynnydd o 25% ers y cyfartaledd o £9.4 miliwn y flwyddyn ar gyfer REF 2014. Ers REF 2014, mae Ysgol y Biowyddorau wedi recriwtio 21 o staff newydd (57% yn fenywod), wedi denu 12 o Gymrodyr, ac wedi mentora wyth o Gymrodyr ar ddechrau eu gyrfa i benodiadau academaidd parhaol â chyllid craidd. Mae'r rhain wedi cynnwys 17 (47%) o fenywod.

Yn ogystal, mae Ysgol y Biowyddorau wedi creu diwylliant ffyniannus ar gyfer addysg ôl-raddedig gyda myfyrwyr yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac yn cael eu cefnogi gan nifer o ffynonellau cyllid. Dros gyfnod REF 2021, mae 468 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi derbyn hyfforddiant, cynnydd sylweddol o’r 192 o ôl-raddedigion a gefnogwyd yng nghyfnod REF 2014.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein hymchwil wedi'i threfnu'n 4 is-adran sy'n ceisio darparu atebion newydd ar gyfer heriau byd-eang mawr a fydd yn cael effaith wirioneddol ar gymdeithas a'r amgylchedd.

Arloesi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â halogiad bacteriol

Mae ein hymchwil wedi helpu i leihau'r risg o halogiad mewn diwydiant, a hynny ar raddfa fyd-eang.

confocal microscope2

Ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau

Mae ein hadrannau ymchwil yn cael eu harwain gan ymchwilwyr sy’n enwog yn rhyngwladol ac mae aelodau o’r adrannau yn cynnig rhaglenni ymchwil dynamig.

Gwneud gwahaniaeth yn Ysgol y Biowyddorau

Our research is working to tackle major challenges facing our environment.