Ewch i’r prif gynnwys

UA 28 Hanes

Ers REF 2014, yr uned hon yw'r 11eg fwyaf yn y panel. Rydym wedi ehangu ein harbenigedd yn ddaearyddol ac yn fethodolegol drwy gynnwys ymchwil mewn crefydd a diwinyddiaeth. O effaith gymunedol, megis cynyddu cyfranogiad diwylliannol a gwerth cymunedol drwy Brosiect CAER, i effaith ehangach drwy hyrwyddo dealltwriaeth o drawsblannu organau ymhlith Mwslimiaid Prydain, adlewyrchir ein hunaniaeth ryngddisgyblaethol drwy'r cyflwyniad cyfan.

Rydym yn y 17eg safle yn y DU ar gyfer pŵer ymchwil - arwydd o raddfa ac ansawdd ein cyflwyniad. Ystyrir bod 90% o'n hamgylchedd ymchwil yn ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren % 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm32.041.026.01.00.0
Allbynnau26.441.429.72.50.0
Effaith50.025.025.00.00.0
Amgylchedd25.065.010.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae'r uned hon yn rhan o’r Ysgol Hanes Archaeoleg a Chrefydd lle rhennir safonau cyffredin o ran gonestrwydd disgyblaethol, deialog ryngddisgyblaethol, ac ymrwymiad ar y cyd i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae ein tri grŵp ymchwil (Hanes, Hanes yr Henfyd a Chrefydd), yn cynhyrchu ymchwil sy'n berthnasol yn fyd-eang ac sy’n seiliedig ar faterion a phryderon lleol. Mae'r sylfaen amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol hon i'r uned wedi parhau’n elfen ganolog o’n gweithgarwch ymchwil drwy gydol cylch y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, ac mae'n parhau i lywio ein strategaeth ymchwil ar gyfer y dyfodol.

Ein nod yw datblygu arbenigeddau sy'n cael eu cydnabod yn fyd-eang ac sy'n berthnasol yn lleol. Mae ein cryfderau rhyngddisgyblaethol, traws-uned yn cynnwys Hanes Trawswladol a Thrawsddiwylliannol, Byd yr Iwerydd, Cymru a'r Byd, Hanes Cymdeithasol Meddygaeth,Hanes a Lle Presennol Islam, Rhyfela o Gyd-destunau Hynafol i Fodern, a Chrefydd o Safbwyntiau Trawsranbarthol.

Ein hamcan ers REF 2014 yw creu diwylliant ymchwil sy'n galluogi ac yn meithrin lle mae ceisiadau rheolaidd ac o safon uchel am gyllid, llythrennedd grant a chymorth ymchwil yn rhan arferol o waith pob aelod o staff ar draws cyfnodau gyrfa. Mae'r gwaith o gyfuno ac ehangu'r uned yn ystod y cyfnod hwn wedi cael ei arwain gan ymrwymiad parhaus i gynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf sy'n seiliedig ar egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym wedi llwyddo i gydweithio’n rhyngwladol ar raddfa ehangach i gysylltu ein hymchwil ar draws y byd yn ogystal â pharhau i fod â chysylltiad agos â materion lleol a chenedlaethol. Mae’r fenter Gwyddorau-Dyniaethau yn enghraifft o hyn sydd wedi cynhyrchu ymchwil sy’n berthnasol yn fyd-eang ac sy'n rhychwantu STEM a'r Dyniaethau trwy weithdai yn Ewrop a Gogledd America, gan weithio'n agos gyda chynrychiolwyr yn y gymuned feddygol (GIG).

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein haneswyr yn gwthio ffiniau o fewn a thu hwnt i'r ddisgyblaeth, gan lunio partneriaethau yng Nghymru, y DU, ac yn fyd-eang, gan greu effaith barhaol ymhell y tu hwnt i'r byd academaidd.

stock shot muslims praying

Rhoi gwybod i Fwslimiaid am roi organau

Mae Dr Mansur Ali yn helpu cyd-Fwslimiaid i archwilio agwedd eu ffydd at y gweithdrefnau achub bywyd hyn.

Candelabrum paint detail

Ymchwil yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Mae ein hymchwilwyr yn archwilio a rhannu eu hangerdd am gymdeithasau a chredoau crefyddol y gorffennol, o’r cyfnod cynhanes hyd heddiw.

Setting sun

Effaith ymchwil yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Diogelu gwaith haearn treftadaeth rhag effeithiau andwyol rhwd a gwella gofal bugeiliol ar gyfer cymunedau crefyddol.