Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres o weminarau ar lywio polisïau

Yn rhan o’n cyfres o weminarau ar lywio polisïau, gall academyddion gynnig gwybodaeth arbenigol am eu meysydd ymchwil i lywio polisïau ar yr heriau cyfoes sy'n wynebu cymdeithas.

Ac yntau wedi’u paratoi gan gadw llunwyr polisïau mewn cof, mae’r holl gweminarau’n canolbwyntio ar ddadl gyfredol benodol ym maes polisi. Ynddynt, bydd ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhoi cyflwyniad byr ar yr hyn y mae’r ymchwil yn ei ddweud wrthym, a bydd ymarferydd allanol yn rhoi ateb byr. Ar ôl hynny, bydd sesiwn holi ac ateb, yn unol â rheolau Chatham House.

Gweminarau diweddar

Mae fideos o’n gweminarau diweddar (heb y sesiynau holi ac ateb) ar gael i'w gwylio isod.

Pan na fydd modd cael deupen llinyn ynghyd: gwerthuso ymateb polisïau i'r argyfwng costau byw

Llywio polisïau: Gwerthuso ymateb polisïau i'r argyfwng costau byw – YouTube

Yn y sesiwn hon, mae Cian Siôn o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn trafod y pwnc ‘Pan na fydd modd cael deupen llinyn ynghyd: gwerthuso ymateb polisïau i'r argyfwng costau byw’. Bydd y sesiwn yn tynnu sylw at y ffactorau sy'n gyfrifol am y wasgfa ddiweddaraf ar gostau byw ac yn taflu goleuni ar effaith ddosraniadol polisïau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd hefyd yn ymchwilio i effeithiolrwydd tebygol y mesurau hyn o ran lliniaru'r effaith ar gyllidebau aelwydydd yng Nghymru.

Steffan Evans o Sefydliad Bevan sy’n cynnig yr arbenigedd a’r dystiolaeth.

Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Llywio Polisïau gyda Phrifysgol Caerdydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – YouTube

Wrth i ddiwydiant y DU chwilio am atebion sero net, mae'r gweminar hwn ar led-ddargludyddion cyfansawdd yn dwyn ynghyd yr Athro Max Munday o Ysgol Busnes Caerdydd, Chris Meadows, sy’n arbenigo yn y diwydiant, a’r lluniwr polisïau rhanbarthol Peter Davies o Gyngor Sir Fynwy er mwyn trafod sut y gall technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd lywio cymdeithas.

Bydd y panel yn esbonio sut mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd – CSconnected – yn helpu i sicrhau mai Caerdydd yw arweinydd y DU ac Ewrop ym maes ymchwil drosi i dechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Yn y sesiwn hon, dan gadeiryddiaeth y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, byddwn yn trafod sut mae ymchwilwyr a’r diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i ateb y galw ymhlith defnyddwyr drwy ddatblygu ymchwil academaidd hyd nes y gellir ei chyflwyno mewn ffordd ddibynadwy a chyflym i’r amgylchedd cynhyrchu.

Gweithredu Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais yng Nghymru

Cyfres o weminarau ar lywio polisïau – Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais – YouTube

Yr Athro Jonathan Shepherd CBE sy’n trafod Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais. Dyma gyd-strategaeth iechyd cyhoeddus i atal trais. Mae'n dibynnu ar y defnydd strategol o wybodaeth gan sefydliadau iechyd a gorfodi'r gyfraith i wella rhaglenni plismona ac atal trais yn y gymuned. Mae'r model wedi’i roi ar waith yn eang ar draws Lloegr ac mewn dinasoedd yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, De Affrica, De America a Jamaica.

Bydd Jonathan Drake, Cyfarwyddwr yr Uned Atal Trais, yn ymuno â'r Athro Shepherd. Tîm aml-asiantaeth bach yw'r Uned Atal Trais, a'i nod yw atal trais ledled Cymru drwy ddefnyddio dull iechyd cyhoeddus. Mae'r uned yn gwneud gwaith sy’n amrywio o gomisiynu gwasanaethau'n uniongyrchol, er mwyn dargyfeirio pobl ifanc oddi wrth drais, i ymchwilio i’r hyn sy'n gweithio i atal mathau gwahanol o drais.

The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge

Cyfres o weminarau ar lywio polisïau – The Welsh Criminal Justice System

Yr Athro Richard Wyn Jones a Dr Robert Jones o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sy’n trafod eu llyfr newydd, ‘The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge’.

Yn y sesiwn hon, bydd ein hacademyddion yn trafod system cyfiawnder troseddol Cymru a’i sefyllfa unigryw. Mae gan Gymru ei llywodraeth a'i senedd ddatganoledig ei hun. Serch hynny, nid oes system cyfiawnder yng Nghymru sy’n cyfateb i rai’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae cyfrifoldebau helaeth sefydliadau datganoledig Cymru'n sicrhau eu bod o reidrwydd yn chwarae rhan sylweddol ym maes cyfiawnder troseddol. O ganlyniad, mae system cyfiawnder troseddol Cymru’n gweithredu ar draws 'ymyl danheddog' y pwerau a’r cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli a'r rhai sydd ar gadw. Y llyfr hwn yw’r un cyntaf i roi esboniad academaidd o’r system hon. Mae'n dangos nid yn unig fod canlyniadau Cymru ym maes cyfiawnder troseddol ymhlith y gwaethaf yng ngorllewin Ewrop, ond y byddai sail gyfansoddiadol bresennol y system yng Nghymru’n ei gwneud yn amhosibl bron iawn i geisio mynd i'r afael â'r problemau hyn, hyd yn oed pe bai’r ewyllys yn bodoli i wneud hynny. Mae’r llyfr, sy’n seiliedig ar ddata swyddogol a chyfweliadau manwl, yn un heriol y mae mawr ei angen, a bydd unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru’n awyddus i’w ddarllen.