Ewch i’r prif gynnwys

UA 12 Peirianneg

Mae'r Ysgol Peirianneg yn ganolfan lwyddiannus, gefnogol a chynhwysol sy’n rhagorol o ran ysgolheictod ac effaith. Mae ein hymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a’r economi ar raddfa leol a byd-eang. Adlewyrchir hyn yn ein GPA cyffredinol o 3.35, gyda 96% o'n cyflwyniad cyffredinol yn cael ei ystyried gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r canlyniad hwn yn ein gosod yn y chwartel uchaf o ran y sefydliadau sy’n perfformio orau yn y DU.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm40.056.03.01.00.0
Allbynnau30.565.13.31.10.0
Effaith62.531.36.20.00.0
Amgylchedd37.562.50.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Adlewyrchir ein llwyddiant ers REF 2014 yn y gwaith sylweddol o ehangu trawsddisgyblaethol a chydweithio, penodiadau newydd a buddsoddiadau o bwys mewn cyfleusterau a seilwaith.

Rydyn ni wedi'n rhannu'n 3 adran gyda Grwpiau Ymchwil cysylltiedig ac, ers REF 2014, datblygwyd 5 maes ymchwil â blaenoriaethau rhyngddisgyblaethol ac 8 grŵp trawsddisgyblaethol sy'n ein galluogi i dargedu buddsoddiad yn fwy effeithiol a chynnig cyd-destun gweithio lle mae arbenigedd eang a helaeth yn cael ei ddwyn ynghyd i fynd i'r afael â heriau ymchwil rhyngddisgyblaethol pwysig. Ategir hyn gan gryn fuddsoddiad mewn seilwaith o bwys a ffocws ar ddatblygu cenhedlaeth newydd o arweinwyr ymchwil.

Er mai Adeiladau'r Frenhines yw ein cartref yn bennaf, mae'r Brifysgol yn darparu buddsoddiad newydd hanfodol ar gyfer peirianneg gyda buddsoddiad o £77m yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS, ENGIN a'r Ysgol Ffiseg), sef rhan o'r Hwb Ymchwil Drosi (TRH) gwerth £131m ar Gampws Arloesedd newydd gwerth £300m y Brifysgol.  Mae cyfleusterau diwydiannol unigryw oddi ar y safle hefyd ar gael i ymchwilwyr: Canolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy yng Nghastell-nedd Port Talbot a Labordy Mellt Morgan-Botti yng Nghaerdydd. Ers REF 2014, buddsoddwyd £33 miliwn o nifer o ffynonellau i wella ein labordai ymchwil a'n lleoedd cysylltiedig sy'n hybu’r gwaith o wella datblygiadau ymchwil yn ein meysydd blaenoriaeth.

Rydyn ni wedi sicrhau 639 o ddyfarniadau ymchwil gwerth £97 miliwn, sef cynnydd o 102% o'i gymharu â REF 2014. Cynyddodd gwariant incwm ymchwil i £79.6 miliwn yn ystod y cyfnod presennol, a chafwyd mwy na dwbl nifer y graddedigion PhD.

Rydyn ni wedi gwella a datblygu ein cysylltiadau byd-eang, gan gynnwys 54 o brosiectau (£10 miliwn) a ariannwyd o gynlluniau ariannu Ewropeaidd a mwy na 40 o brosiectau cydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol drwy gyllidwyr. Ar ben hyn, rydyn ni wedi cryfhau ein prosiectau cydweithio gyda byd busnes drwy ddyfarniadau ymchwil masnachol gwerth cyfanswm o £14.3 miliwn.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein hamgylchedd ymchwil bywiog wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o effaith ein hymchwil wrth i ni weithio i ddatrys heriau a nodir gan y diwydiant.

Gwneud y gorau o fanteision ffermydd gwynt y DU

Mae ein hymchwil yn helpu i foderneiddio trosglwyddo ynni ledled y DU ac Ewrop ac yn ein gwthio tuag at y targed o allyriadau carbon sero net.

Engineering researchers

Ymchwil

Darganfyddwch sut mae ein hymchwil o safon fyd-eang yn cael effaith.

Impact

Effaith ymchwil yr Ysgol Peirianneg

Cewch wybod am rai o'r ffyrdd y mae ein hymchwil yn newid y byd.