Ewch i’r prif gynnwys

UA 10 Gwyddorau Mathemategol

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar hyrwyddo gwybodaeth fathemategol sylfaenol, sicrhau bod cymhwyso gwyddorau mathemategol mewn disgyblaethau eraill yn cael ei hyrwyddo, a sicrhau budd i’r gymdeithas trwy waith ymgysylltu â diwydiant, elusennau, a’r sector cyhoeddus.

Mae 98% o'n cyflwyniad cyffredinol gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Yn ogystal, ystyrir bod 96% o’n hallbynnau ymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren % 3 seren % 2 seren % 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm28.0702.00.00.0
Allbynnau23.473.03.60.00.0
Effaith50.050.00.00.00.0
Amgylchedd12.587.50.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Ers REF 2014, mae’r Ysgol wedi ehangu mwy na 50%, gan ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol newydd, ehangu ein portffolio o gyllidwyr a rhanddeiliaid, a helpu myfyrwyr PhD i sicrhau gyrfaoedd sy’n atgyfnerthu ein cysylltiadau academaidd a diwydiannol.

Symudon ni i mewn i’n hadeilad pwrpasol newydd – Abacws – ar y cyd â’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae’r adeilad gwerth £39 miliwn yn golygu y gallwn ni ehangu ymchwil ar y cyd mewn meysydd sy’n cynnwys mathemateg arwahanol, cyfuniadeg, optimeiddio a thebygolrwydd cymhwysol, a bydd hyn hefyd yn gwella’n gwaith ar y cyd â’r SYG.

Gan ganolbwyntio ar fàs critigol, cyrhaeddiad rhyngwladol, cydweithio ac ymrwymiad cryf i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ymhlith y prif lwyddiannau eraill ers REF 2014 y mae:

  • cynnal ethos sylfaenol o ryddid academaidd a mynd ar drywydd ymchwil er ei mwyn ei hun. Yn sgîl hyn, cefnogwyd penodiadau o bob cwr o’r byd gan arwain at wobrau rhyngwladol o bwys i 5 cydweithiwr.
  • rhaglen fywiog a sylweddol o ymwelwyr a siaradwyr sy’n arwain y byd, gan gynnwys pum enillydd Medal Fields a bron i 40 o enillwyr gwobrau rhyngwladol
  • manteision cymdeithasol sydd â chryn gyrhaeddiad rhyngwladol, gan gynnwys cymunedau mathemategol cynyddol yn Affrica, rhagor o effeithiolrwydd busnes gyda Crimtan ccc, a gwasanaethau clinigol gwell ar gyfer y GIG

Tyfodd ein hincwm ymchwil ers REF 2014, a chafwyd cynnydd mawr yn nyfarniadau grant yr Undeb Ewropeaidd (UE) a dyfarniadau Llywodraeth Cymru.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Darganfyddwch sut mae ein grwpiau ymchwil yn dangos effaith y gwyddorau mathemategol ar fywyd bob dydd.

Ambulance

Achub bywydau drwy ddefnyddio mathemateg

Mae modelu mathemategol arloesol yn sicrhau gwell deilliannau canser, amseroedd ymateb cynt gan y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaeth cyswllt GIG newydd.

MATHS Abacws Research Homepage pic

Ymchwil yn yr Ysgol Mathemateg

Yn ein hymchwil mae dadansoddiadau a hafaliadau differol, mathemateg gymhwysol, ffiseg fathemategol, ymchwil weithrediadol ac ystadegau.

Effaith ymchwil yr Ysgol Mathemateg

Our research demonstrates the impact mathematical sciences has on everyday life.