Ansawdd a pherfformiad ymchwil
Mae effaith fyd-eang i'n hymchwil, a phrofir ei ansawdd yn gyson drwy ein perfformiad mewn asesiadau cenedlaethol.
Fe osodon ni darged i sichrau lle yn y 10 uchaf yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF), y broses ar gyfer asesu ymchwil mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU. Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2014 ac fe lwyddon ni godi 17 safle a chyrraedd y 5ed uchaf allan o holl brifysgolion y DU.
Darllen canlyniadau a dadansoddiadau REF 2014 yn llawn.
Mae ein cyflwyniadau ar draws 27 o'r 36 Uned Asesu'n adlewyrchu ein hymchwil arloesol a rhyngddisgyblaethol, sy'n amrywio o Feddygaeth Glinigol i'r Gyfraith i Beirianneg a Cherddoriaeth.
Y fframwaith hwn yw olynydd Ymarfer Asesu Ymchwil 2008. Yn hwnnw roedd 33 o'r 34 maes ymchwil a gyflwynwyd gennym yn cynnwys cyfanswm sylweddol o ymchwil 4*, sef y dyfarniad uchaf posibl.