Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ymchwil yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg

Mae ein hymchwil sy'n arwain y byd yn darparu datblygiadau mewn gwybodaeth sylfaenol, effaith mewn ymarfer clinigol a gwelliannau mewn ansawdd bywyd.

Uchafbwyntiau

Optom

Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad yn y gwaith o sicrhau argaeledd therapi cornbilen sy'n arbed golwg, drwy’r GIG yng Nghymru

Mae therapi arbed golwg o'r enw therapi croesgysylltu’r cornbilen wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio i drin cleifion mor ifanc ag 11 oed sy’n dioddef o gyflwr Ceratoconws.

Close up of an eye

Darganfod bôn-gelloedd yn cynnig gobaith newydd i bobl â chlefyd llygaid sych

Bu ymchwilwyr o Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o dîm o wyddonwyr sydd wedi darganfod sut i gynhyrchu chwarennau dagrau bychain o fôn-gelloedd aml-botensial dynol (iPs) er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau clefyd llygaid sych.

Image of Head of the clinic performing eye test on patient

Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd

Mae Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr academaidd fwyaf clodfawr y DU – gwobr Pen-blwydd y Frenhines – am ei hymchwil arloesol a’i thriniaethau ar gyfer problemau golwg mewn plant sydd â syndrom Down.

Small boy having eye test

Ymchwilwyr yn cymryd y cam cyntaf tuag at brawf geneteg ar gyfer golwg byr yn ystod plentyndod cynnar

Mae ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd a Bryste wedi dyfeisio prawf a allai helpu i adnabod plant sydd â risg o ddatblygu cyflwr llygad cyffredin iawn.

Maggie story

Dangosir nad yw asesiadau traddodiadol o sgrinio llygaid yn effeithiol mewn ysgolion arbennig

Mewn adroddiad arloesol a ysgrifennwyd ar y cyd gan Dr Maggie Woodhouse, ceir rhagor o dystiolaeth sy’n honni nad yw asesiadau traddodiadol o sgrinio llygaid mewn ysgolion arbennig yn effeithiol wrth geisio canfod diffygion ar y golwg ymysg plant ag anableddau dysgu.

NHS Research

Athro yn yr Ysgol yn un o gyd-awduron adroddiad arloesol am gyfranogiad i ymchwil llygaid gan y GIG

Mae’r Athro Marcela Votruba, o’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, wedi cyd-ysgrifennu adroddiad ymchwil sydd wedi datgelu bod cleifion gyda clefyd y llygaid bellach yn cael mwy o gyfle nag erioed i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil y GIG.

Woman having eye test

Astudiaeth yn awgrymu bod addysg yn achosi golwg byr

Cyswllt rhwng yr amser sy’n cael ei dreulio mewn addysg a golwg byr