Ewch i’r prif gynnwys

UA 23 Addysg

Gyda GPA o 3.55, rydym ni'n 3ydd yn y DU am ein hymchwil Addysg. Cawsom y sgôr uchaf posibl o 4.0 ar gyfer ein heffaith ymchwil. Rydym yn 5ed yn y DU am ein hallbynnau. Ar y cyfan, mae 90% o'n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhyngwladol-ragorol.

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar les, dysgu ac addysgeg plant a phobl ifanc o'r blynyddoedd cynnar i addysg broffesiynol, a marchnadoedd addysg, sgiliau a llafur.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm66.024.09.01.00.0
Allbynnau49.434.115.21.30.0
Effaith100.00.00.00.00.0
Amgylchedd75.025.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae ymchwil Addysg yng Nghaerdydd yn elwa ar ei lleoliad yn rhan o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ryngddisgyblaethol. Mae hyn yn hwyluso dadansoddiadau o gyd-gysylltedd prosesau cymdeithasol, emosiynol ac economaidd sy'n effeithio ar brofiadau a deilliannau addysgol o'r blynyddoedd cynnar hyd at fod yn oedolion.

Mae ein hymchwil addysg yn mynd i'r afael â thri maes eang sy'n gorgyffwrdd: lles, gwybodaeth, dysgu ac addysgeg plant a phobl ifanc, ac addysg, sgiliau a marchnadoedd llafur.

Er mwyn sicrhau bod ein hymchwil yn ddefnyddiol ac yn cael ei ddefnyddio, rydym yn ymgysylltu â thri phrif grŵp o fuddiolwyr: llunwyr polisïau, gweithwyr proffesiynol a chymunedau ehangach. Mae tystiolaeth o'n heffaith i’w gweld yn y ffyrdd niferus yr ydym wedi dylanwadu ar bolisïau addysg yng Nghymru a thu hwnt. Rydym hefyd wedi cefnogi athrawon ac ysgolion yn ogystal â chyfrannu at ddadleuon cyhoeddus am ddyfodol addysg.

Fe wnaethom oruchwylio dros 60 o fyfyrwyr doethurol i gwblhau eu hymchwil addysg, ac fe ddyrannodd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ysgoloriaethau i 29 o'r rhain.

Ategir y gweithgareddau gan fuddsoddiad ariannol sylweddol. Ers 2014, mae dros £25 miliwn wedi’i ddyfarnu ar gyfer ymchwil addysg. Mae hyn yn gynnydd o 60% o'i gymharu â'r cyfnod REF blaenorol. Mae SPARC, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd, sydd ar ein campws arloesiedd gwerth £300 miliwn, erbyn hyn yn darparu seilwaith o'r radd flaenaf ar gyfer llawer o ganolfannau ymchwil yr Ysgol sy'n canolbwyntio ar addysg.

Mae’r buddsoddiadau hyn yn galluogi ein hymchwilwyr i barhau i fod yn ymrwymedig i weithio gydag ymchwilwyr a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â'r heriau parhaus o ran sut i feithrin addysg a lles pob dinesydd, o blentyndod cynnar i pan maent yn oedolion.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae gan ein hymchwil hanes o effeithio ar ddadlau cyhoeddus, datblygu polisi ac arloesedd sy’n seiliedig ar ymarfer, tra bod ein hymchwilwyr yn gweithio’n rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau cyhoeddus eraill i roi newid bywyd go iawn ar waith ar gyfer materion a phroblemau cymdeithasol penodol.

Trawsnewid perthnasoedd ac addysg rhyw yng Nghymru, Lloegr, ac yn rhyngwladol

Mae gwaith yr Athro EJ Renold wedi sicrhau bod barn pobl ifanc yn ganolog i ddeddfwriaeth a pholisïau newydd.

A woman taking a photo on her mobile phone in a crowded street.

Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol, yn arloesol ac yn cael effaith. Rydym wedi ymrwymo i ymchwil ddamcaniaethol wybodus gyda ffocws polisi clir.

Three people sat on seats in a hallway

Effaith ymchwil Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Rydym yn falch o'n record o gael effaith ar ddadl gyhoeddus, datblygu polisi ac arloesiadau sydd yn seiliedig ar ymarfer.