Ewch i’r prif gynnwys

Grwpiau a themâu ymchwil

Mae ein harbenigedd wedi'i drefnu'n saith grŵp ymchwil ac yn dau thema cyffrwd.

Grwpiau ymchwil

Effeithiau newid yn yr hinsawdd: Gorffennol i’r Dyfodol

Ymchwilio i ddatblygiadau ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, a sut a pham mae newidiadau yn digwydd yn y system hinsawdd.

Ein Cefnfor Byw

Rydyn ni’n ymchwilio i newidiadau yn ein cefnfor deinamig yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol a'r berthynas gymhleth â chymdeithasau dynol.

Daear Hyfyw

Rydyn ni’n astudio sut mae prosesau daearegol, cemegol a biolegol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn siapio’r ffordd y mae bywyd yn esblygu ar y Ddaear.

Peryglon a Risgiau Amgylcheddol

Meithrin gwydnwch yn erbyn peryglon amgylcheddol drwy ymchwil, addysg a phartneriaethau sy'n cyd-fynd â Fframwaith Sendai y Cenhedloedd Unedig

Prosesau Magmatig

Rydyn ni’n astudio sut mae magma’n ffurfio ac yn esblygu a sut mae’n cael ei gludo o fantell y Ddaear i'r arwyneb, gan gynnwys y peryglon folcanig cysylltiedig.

Mwynau ac Ynni

Rydyn ni’n dod ag ymchwilwyr ynghyd i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o fetelau sy'n hanfodol ar gyfer economi sero net.

Tectoneg a Geoffiseg

Rydyn ni’n trin a thrafod cwestiynau sylfaenol am y prosesau tectonig sy'n ffurfio ein planed o'r fantell ddofn i arwyneb y Ddaear.

Themâu ymchwil

Drilling for palaeoclimate research at Stakishari, Tanzania

Geowyddoniaeth i Affrica

Cefnogi’r gwaith o gyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn Affrica drwy bartneriaethau ac ymchwil gydweithredol.

Labordy ar gyfer Elfennau Hybrin a Chemeg Isotopau EARTH Caerdydd

Yn arbenigo mewn dadansoddiadau manwl iawn o elfennau hybrin ac isotopau i fynd i'r afael â chwestiynau mawr ym maes y geowyddorau a thu hwnt.