Ymchwil
Mae ein gwaith ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yn gwneud darganfyddiadau newydd ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein byd.
Cefnogir ein hymrwymiad i ragoriaeth drwy grwpiau ymchwil cryf, y cyfleusterau diweddaraf a phartneriaethau allweddol.
Ystyriodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 fod 94% o’n hallbynnau ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol neu’n arwain y byd, gan olygu ein bod yn 4ydd yn y DU am Systemau’r Ddaear a Gwyddorau Amgylcheddol.
Mae ein hymchwilwyr yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sylweddol sy’n wynebu gwaith ymchwil ym maes Gwyddorau’r Ddaear, gan gynnwys:
- deall prosesau magmatig a hydrothermol
- dynameg y biosffer, yr hydrosffer a’r geosffer
- chwilio am adnoddau naturiol
- newid byd-eang
- yr Anthroposen
- esblygiad hirdymor y Ddaear a’i systemau planedol.
Cyfle i chi ddarllen erthyglau, llyfrau, adroddiadau a phapurau cyfrwng Saesneg gan arbenigwyr Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr.