Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg
Mae ein gwaith ymchwil sy’n flaenllaw yn rhyngwladol yn datblygu gwybodaeth ac yn gwella ansawdd bywyd trwy lywio polisi cyhoeddus a chanlyniadau i iechyd.
Caiff ein themâu ymchwil eu cefnogi gan ganolfannau ymchwil, partneriaethau amlddisgyblaethol a thrwy gydweithio gyda’r diwydiant a’r trydydd sector.
Mae ein hymchwil yn rhychwantu maes seicoleg - o synaps i gymdeithas, ac mae’n mynd ar drywydd deg thema ryng-gysylltiedig.
Mae ein tudalen ysgoloriaethau PhD a ariennir yn rhestru cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig pan fydd cyllid ar gael.
Cymdeithasol, risg ac amgylcheddol
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil ar draws y ddisgyblaeth sy’n canolbwyntio ar y cydadwaith rhwng unigolion a’r hyn sydd o’u cwmpas.