Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ymchwil yr Ysgol Seicoleg

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws sbectrwm seicoleg i fynd i’r afael â heriau o bwys sy’n wynebu’r gymdeithas a’r amgylchedd. Mae’r astudiaethau achos hyn yn amlygu rhai yn unig o’r meysydd lle rydyn ni’n cael effaith gadarnhaol o ran ein hymchwil.

Sensory Room

Canllaw ystafell synhwyraidd - cefnogi dysgu a lles plant awtistig

Mae'r Canllaw yn darparu awgrymiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer defnyddio ystafelloedd synhwyrau gyda phlant awtistig.

Mesur ymddygiadau ailadroddus drwy gydol oes

Young child lining up cars on a sofa.

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru Prifysgol Caerdydd wedi creu holiadur sy'n fesur a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymddygiad ailadroddus.

Mae'r Holiadur Ymddygiad Ailadroddus (RBQ-3) wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn ymarfer clinigol ar draws y byd, gan ymchwilwyr a'r boblogaeth gyffredinol yn ogystal.

Mae ymddygiad ailadroddus yn rhan o'r meini prawf diagnostig ar gyfer awtistiaeth ac maent yn cynnwys ymddygiad echddygol, arferion, ymatebion synhwyraidd, diddordebau â ffocws, a ffafriaeth o ran cadw cysondeb. Mae’n bwysig nodi bod eraill yn y boblogaeth gyffredinol yn enwedig plant ifanc, pobl sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, a chyflyrau niwroseiciatrig yn dangos yr ymddygiadau hyn hefyd.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ar ymddygiad ailadroddus ers 2007. Cafodd yr Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus gwreiddiol (RBQ-2) sy’n cael ei lenwi gan riant a'r Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus 2A (RBQ-2A), fersiwn hunan-adrodd ar gyfer pobl ifanc ac oedolion eu datblygu ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Durham a Phrifysgol Newcastle. Mae'r RBQ-3 yn fersiwn newydd, gwell.

“Mae'r RBQ-3 yn adnodd pwysig ar gyfer helpu i ddeall yn well batrwm ymddygiadau ailadroddus ymhlith pobl awtistig, yn ogystal ag yn y boblogaeth ehangach.”
Dr Catherine Jones Reader and Director of Wales Autism Research Centre

Holiadur Ymddygiad Ailadroddus - 3 (RBQ-3)

Mae datblygiad yr RBQ-3 wedi'i arwain gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n disodli RBQ-2 ac RBQ-2A. Cafodd ei lunio mewn ymateb i geisiadau clinigwyr ac ymchwilwyr am ddau welliant i'r mesurau presennol:

  1. Roeddent eisiau holiadur 'oes' a allai fesur ymddygiadau ailadroddus drwy gydol oes, gyda chwestiynau a oedd yn briodol i blant ac oedolion.
  2. Roeddent eisiau un mesur y gellid ei ddefnyddio ar gyfer hunan-adrodd ac ar gyfer adrodd gan eraill (e.e. gan riant neu roddwr gofal).

Mae'r Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus 3 (RBQ-3) yn cyflawni'r ddau faen prawf hyn a bydd yn galluogi mwy o hyblygrwydd i glinigwyr sydd am ddeall proffil unigolyn o ran eu hymddygiad ailadroddus.

Bydd hefyd yn agor mwy o gyfleoedd i ymchwilwyr sydd am fesur ymddygiad ailadroddus, yn enwedig mewn astudiaethau hydredol. Gall y fersiynau hunan-adroddiad ac adrodd-gan-eraill eu defnyddio gyda'i gilydd wrth gymharu atebion mwy nag un hysbysydd.

Two people having a conversation

Lawrlwythwch yr holiadur

Bu galw mawr am yr holiaduron ymddygiad ailadroddus yn rhyngwladol ac maent wedi'u cyfieithu i lawer o ieithoedd. Mae'r RBQ-3 ar gael ar hyn o bryd mewn Tsieinëeg, Almaeneg, Perseg a Sbaeneg.

Gall clinigwyr, ymarferwyr, ymchwilwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn cael mynediad i'r RBQ-3 ei lawrlwytho am ddim. Mae copïau blaenorol o'r RBQ-2 a'r RBQ-2A hefyd ar gael drwy'r un ddolen.

Gallwch hefyd gael mynediad i'r RBQ-2, RBQ-2A a'r RBQ gwreiddiol trwy gydweithwyr y tîm ym Mhrifysgol Newcastle.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau allweddol

Cynnwys dan sylw

CUCHDS Ymchwil

Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru

Hyrwyddo dealltwriaeth wyddonol o awtistiaeth i greu newid cadarnhaol.

colab Arloesedd

Gwobr i system sy'n nodi arwyddion awtistiaeth – SIGNS

Mae system sy'n helpu gweithwyr meddygol proffesiynol i nodi arwyddion awtistiaeth mewn plant wedi ennill gwobr ar gyfer arloesedd.

euro map Rhyngwladol

Ail-lansio ffilm 'The Birthday Party' mewn pedair gwlad Ewropeaidd.

Mae ffilm hyfforddiant, sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o arwyddion awtistiaeth, yn cael ei hail-lansio'n swyddogol mewn cydweithrediad arloesol gyda phedair gwlad Ewropeaidd.

A firefighter carrying equipment walks away from a fire engine toward a building.

Gwella’r broses o wneud penderfyniadau yn y gwasanaethau brys

Mae ein hymchwil arloesol wedi gwella sut mae’r gwasanaethau brys yn meddwl, yn ymddwyn ac yn ymateb mewn sefyllfaoedd brys.

Silhouette of child holding hands with adults

Mabwysiadu Gyda’n Gilydd: cynorthwyo gyda mabwysiadu'r plant sy'n aros hiraf

Mae ein hymchwil wedi cryfhau gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru drwy ddod o hyd i gartrefi parhaol i blant sydd fel arfer yn aros hiraf am deulu.

Birthday Party logo

Gwella asesu ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth

Mae'r ffilm Parti Pen-blwydd yn adnodd hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen i adnabod arwyddion awtistiaeth mewn plant.

Plastic in ocean

Lleihau gwastraff plastig untro

Roedd ein hymchwil yn sail ar gyfer newid polisi Llywodraeth y DU o godi tâl am fagiau plastig defnydd untro a chwpanau coffi untro.

Wind farm

Gosod ymgysylltu â'r cyhoedd ar flaen y gad o ran newid polisi amgylcheddol

Roedd ein hymchwil yn gyrru penderfyniadau llunwyr polisïau drwy ddatgelu cefnogaeth gyhoeddus gref i rai o'r newidiadau mawr sydd eu hangen er mwyn i'r DU gyrraedd ei tharged sero net.

Family together

Integreiddio gwybodaeth am ffrwythlondeb i fynd i'r afael ag argyfwng cyfradd geni Japan

Mae ein hymchwilwyr wedi gwella gwybodaeth am ffrwythlondeb yn Japan i helpu i gynyddu ei chyfradd genedigaethau sy'n gostwng.

Helpu plant i ffynnu yn yr ystafell ddosbarth

Gweithio gyda phlant ac addysgwyr i helpu disgyblion i gael y gorau o'u hamser yn yr ysgol.

Prosiectau eraill

Dyma rai o’n prosiectau ymchwil eraill sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas.

Visual Vertigo image

Persistent Postural Perceptual Dizziness (visual vertigo) project

We are a team of researchers who aim to understand, diagnose and treat visual vertigo using virtual reality.

Thorns

Thorns and flowers

The Thorns and Flowers project explores the use of an arts and drawing workshop to understand the infertility experiences of Black and Minority Ethnic Women.

IVF

Seize the future

Seize the future is an online app to support people who do not manage to conceive with fertility treatment.

Audio device

Turn an Ear to Hear

How hearing-impaired listeners can exploit head orientation to enhance their speech intelligibility in noisy social settings.

MOCHA

Moments of Change for pro-environmental behaviour shifts (MOCHA)

Achieving pro-environmental lifestyle changes through understanding and harnessing ‘moments of change’ in life circumstances.

Workers on a boat at sea

Taclo her blinder ar y môr

Sut mae ein hymchwil am flinder wedi helpu gwella polisïau a chreu systemau mwy diogel ar gyfer morwyr.

Kangia - Ilulissat Icefjord, Greenland

Annog gweithredu ar newid hinsawdd

Mae ymchwil wedi datgelu bod yna ‘rwystr llywodraethu’ o ran gweithredu ar newid hinsawdd.