Cyrsiau trosi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig
Cyflymwch newid yn eich gyrfa trwy astudio pwnc nad yw’n gysylltiedig â’ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol.
Manteision cwrs trosi
Yn ogystal â’ch cefnogi chi gyda newid llwybr gyrfa, mae nifer o fanteision i astudio cwrs trosi ôl-raddedig, gan gynnwys:
- parhau i astudio ar lefel ôl-raddedig
- datblygu sgiliau newydd a dealltwriaeth o bwnc newydd
- ehangu eich sgiliau
- cynyddu eich hyder yn eich gallu i gael swydd mewn maes penodol
- dilyn galwedigaeth sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau ac sy'n fwy rhoi mwy o foddhad i chi.

Rhoddodd y cwrs trosi gyfle i mi newid cyfeiriad yn fy ngyrfa a symud o faes busnes i gyfrifiadura heb unrhyw wybodaeth flaenorol.
Cyrsiau trosi sydd ar gael
Rydym yn cynnig y cyrsiau trosi canlynol, lle nad oes angen gwybodaeth ymlaen llaw neu radd yn y pwnc:
Cyfrifiadura (MSc)
Cyfrifiadura gyda Lleoliad (MSc)
Cyfrifiadura a Rheoli TG (MSc)
Cyfrifiadura a Rheoli TG gyda Lleoliad (MSc)
Peirianneg Meddalwedd (MSc)
Dewch i edrych o gwmpas ein campws, cwrdd â myfyrwyr a staff, a chael blas ar sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd.