Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni ôl-raddedig rhan-amser a addysgir

PG students studying in classroom

Mae llawer o'n hysgolion academaidd yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig rhan-amser. Mae'r rhain yn cynnig mwy o hyblygrwydd, er eu bod yn cynnig yr holl fuddion a chefnogaeth a gaiff myfyrwyr amser llawn. Mae cyfleoedd ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol.

Mae rhaglenni ôl-raddedig rhan-amser a addysgir fel arfer ddwywaith yn hirach na’r rhaglenni llawnamser, ond mae rhai eithriadau ar gyfer pynciau fel Cyfrifiadura a Pheirianneg.

Fel arfer, byddwch yn gwneud union yr un modiwlau sy’n ffurfio’r rhaglen llawnamser, ond yn gwneud hynny’n arafach yn ôl eich ffordd o fyw. Gweler y rhaglenni rhan-amser sydd ar gael ar y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth.

Mae astudio'n rhan amser yn wych i fi gan fod hyblygrwydd y modiwlau'n caniatáu gwell cydbwysedd rhwng y byd academaidd ac amserlen waith brysur. Mae rhannu'r cwrs dros ddwy flynedd yn golygu bod gen i amser i feddwl am fy maes ymchwil PhD a llunio cynnig cryf.

Amelia Baugh, MA Llenyddiaeth Saesneg

Manteision astudio'n rhan-amser

  • Cydbwyso astudio ag ymrwymiadau personol neu broffesiynol
  • Y gallu i weithio a chynnal incwm tra'n astudio
  • Yn lledaenu cost dysgu
  • Llwyth gwaith llai dwys
  • Cyfle i wella eich gyrfa
  • Mynediad llawn i wasanaethau cefnogi myfyrwyr a chyfleusterau campws
  • Cyfle i ddod i wybod am bwnc newydd a datblygu sgiliau newydd ynddo drwy wneud cwrs trosi

Cyllid

Yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwyster, a all roi sylw i hyd y rhaglen, mae gwahanol fenthyciadau, ysgoloriaethau, bwrsariaethau a grantiau ar gael i’ch helpu i ariannu eich addysg ôl-raddedig ran-amser. Mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael ar gyfer rhaglenni meistr llawn yn unig. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

Dysgu cyfunol

Mae opsiwn dysgu cyfunol ar gael ar gyfer rhai rhaglenni ôl-raddedig rhan-amser a addysgir. Mae dysgu cyfunol yn sicrhau cydbwysedd rhwng hwylustod dysgu ar-lein a manteision traddodiadol dysgu wyneb-yn-wyneb. Mae’r dulliau dysgu’n amrywio yn ôl gofynion y rhaglen benodol.

Cymorth ar gyfer astudio’n rhan-amser

Mae’r un gwasanaethau cymorth sydd ar gael i ôl-raddedigion llawnamser ar gael i ôl-raddedigion rhan-amser. Mae ein Tîm Cyswllt Myfyrwyr wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i bontio i fywyd yn y brifysgol. Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

Os ydych yn dychwelyd i ddysgu, mae ein Tîm Sgiliau Astudio Academaidd yn cynnal amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i helpu i wella technegau astudio. Mae cymorth hefyd ar gael i fyfyrwyr aeddfed a myfyrwyr sy'n rhieni.

Rhaglenni ôl-raddedig rhan-amser a addysgir sydd ar gael

Mae’r rhaglenni ôl-raddedig canlynol a addysgir ar gael i’w dilyn yn rhan-amser:

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni ôl-raddedig rhan-amser a addysgir, cysylltwch â’n timau ôl-raddedig.

Gallwch danysgrifio hefyd i gael ein cylchlythyr i ôl-raddedigion er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gyllid sydd ar gael, Diwrnodau Agored a mwy.