Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau ôl-raddedig ar y gweill

Os na allwch chi ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, dyma ragor o wybodaeth am y cyrsiau ôl-raddedig fydd yn dod yn fuan.

Mae'r rhaglenni gradd hyn yn cael eu datblygu o hyd, ond os oes gennych chi ddiddordeb, cyflwynwch y ffurflen a byddwn ni’n rhoi gwybod ichi pryd y cewch ymgeisio.

Sylwer y bydd y rhaglenni weithiau yn newid yn ystod y broses ddatblygu, neu efallai na fyddan nhw’n cael eu datblygu.

Cyrsiau ar y gweill

Diben yr MSc hwn yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau ichi ddatblygu eich dealltwriaeth o'r mecanweithiau niwrofiolegol y tu ôl i gyflyrau niwroseiciatrig a throi'r rheini'n well diagnosis, rheolaeth a thriniaeth ar gyfer y cyflyrau hyn.

Byddwch yn caffael gwybodaeth ddamcaniaethol trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau a dysgu annibynnol. a sgiliau ymarferol trwy symud rhwng labordai ym maes genomeg, modelau in-vitro a delweddu a symbylu ymennydd dynol in-vivo.

Yn ogystal â gwybodaeth sylfaenol yn y modiwlau craidd, byddwch yn teilwra eich profiad dysgu i'ch diddordebau trwy ddewis modiwlau opsiynol.

Hyd yr astudio

12 mis.

Dull astudio

Amser llawn.

Gofynion mynediad

Gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol neu radd ryngwladol gyfatebol Bydd ymgeiswyr â gradd anrhydedd 2:2 yn cael eu hystyried ar sail unigol.

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf

Cofrestrwch a byddwn ni’n rhoi gwybod ichi pryd y cewch ymgeisio.

Cofrestrwch nawr

Cysylltwch â ni

Dewch i wybod rhagor am fod yn fyfyriwr ôl-raddedig gyda ni, cysylltwch â'n timau ôl-raddedig.