Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith llawer o ymchwilwyr blaenllaw a chyfleusterau safonol.
Mae graddau ymchwil yn canolbwyntio ar astudio annibynnol. Yn wahanol i fyfyrwyr sy’n cael eu dysgu, byddwch yn gweithio gyda’ch goruchwylwyr i ganfod eich anghenion astudio. Mae rhai graddau ymchwil yn cynnwys elfennau dysgu sy’n canolbwyntio ar ymddygiad ymchwil neu’r wybodaeth fanylach sy’n angenrheidiol i’ch prosiect.
Yr Academi Ddoethurol
Bydd yr Academi Ddoethurol yn eich cefnogi trwy gydol eich astudiaethau. Byddwn yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr i chi er mwyn cefnogi eich ymchwil a'ch datblygiad gyrfaol. Mae gennym hefyd gyllid ar gyfer digwyddiadau a hyfforddiant. Yma, byddwch yn rhan o gymuned ôl-raddedig fywiog.