Ewch i’r prif gynnwys

Seicoleg Iechyd Meddwl (MSc)

  • Hyd: 1 year
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
Psychology students
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Datglowch eich meddwl, datblygwch eich gwybodaeth am iechyd meddwl, a thrawsnewidiwch eich rhagolygon gyrfaol gyda'r rhaglen drosi seicoleg arloesol hon.

tick

Achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)

Rydym wedi gwneud cais am achrediad gyda'r BPS ac rydym yn disgwyl i'r cwrs hwn gael ei achredu mewn pryd ar gyfer y derbyniad cyntaf o fyfyrwyr.

tick

Y posibilrwydd o gyflymu eich gyrfa ym maes seicoleg ar ôl cyflawni gradd amherthnasol

Mae'r rhaglen hon yn eich galluogi i ddechrau eich taith gyrfa mewn seicoleg ar ôl blwyddyn o astudio yn unig.

structure

Ffocws ar seicoleg iechyd meddwl a'i gymwysiadau

Un o'r ychydig raglenni trosi seicoleg yn y DU sydd â ffocws ar iechyd meddwl.

certificate

Staff sy’n flaenllaw ym myd ymchwil yn cyfrannu at gynllunio a chyflwyno cyrsiau

Mae'r rhan fwyaf o'n staff addysgu yn ymchwilwyr ymarferol ac, mewn sawl achos, arbenigwyr arweiniol yn eu meysydd.

rosette

Ymhlith y 10 prifysgol uchaf

Rydym yn y deg uchaf ar gyfer seicoleg yn y DU (Complete University Guide, 2024).

globe

Mae 95% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae ein hymchwilwyr yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf dybryd sy'n wynebu cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnig cyfle i chi gyfrannu at waith arloesol a chael mewnwelediadau amhrisiadwy o gymwysiadau seicolegol yn y byd go iawn.

Mae astudio seicoleg yn ymwneud â deall sut mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Ar y rhaglen drosi hon, sy’n flwyddyn o hyd, byddwch chi’n palu’n ddwfn i'r wyddoniaeth y tu ôl i ymddygiad dynol ac iechyd meddwl. Byddwch chi’n archwilio popeth o seicoleg gymdeithasol a sut rydyn ni’n rhyngweithio ag eraill i sut mae ein hymennydd yn gweithio, i gyd gyda ffocws ar iechyd meddwl. Byddwch chi’n dysgu gan arbenigwyr sy'n ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw yn eu meysydd, gan roi cyfleoedd ymchwil i chi ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol ac ymarferol – o gasglu data a dadansoddi canlyniadau i gynnal asesiadau a gwerthusiadau achos.

Penllanw eich rhaglen fydd traethawd hir a gwblheir dros dri mis yn yr haf. Bydd hwn yn brosiect ymchwil manwl lle gallwch chi ddangos y sgiliau rydych chi wedi'u dysgu dros y flwyddyn. Bydd pwnc y traethawd hir yn cynnwys elfen iechyd meddwl.

Mae'r rhaglen yn gwrs trosi felly ni fydd angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch am seicoleg i wneud cais. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd gennych y sgiliau angenrheidiol i ddechrau ar eich taith yrfaol mewn unrhyw faes seicoleg, ond efallai y bydd gennych fantais wrth wneud cais am yrfaoedd sy’n cynnwys elfen iechyd meddwl.

Mae'r MSc Seicoleg a'r MSc Seicoleg Iechyd Meddwl yn rhaglenni tebyg. Y gwahaniaeth rhyngddyn nhw yw bod yr MSc Seicoleg yn cynnwys lleoliad gwaith proffesiynol yn yr haf, ond llai o fodiwlau sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl, tra bod yr MSc Seicoleg Iechyd Meddwl yn cynnwys traethawd hir iechyd meddwl dros yr haf a modiwlau iechyd meddwl arbenigol. Mae’n bosibl y bydd yr ymgeiswyr hynny nad oes ganddyn nhw lawer o brofiad ymarferol o seicoleg yn ffafrio’r MSc Seicoleg oherwydd y lleoliad gwaith yn yr haf, ac efallai y bydd y rhai sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl ac sydd eisoes wedi cael profiad ymarferol o waith iechyd meddwl yn ffafrio’r MSc Seicoleg Iechyd Meddwl. 

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Seicoleg

Dewch i astudio mewn amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, wedi'i lywio gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4007
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif i ddangos eich bod wedi cyflawni gradd C/4 mewn TGAU Mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol.
  3. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  4. Datganiad personol, a ddarperir fel PDF, sy'n cynnwys y cwestiynau canlynol fel penawdau:
  • Sut ddatblygodd eich diddordeb a'ch dealltwriaeth o seicoleg ac iechyd meddwl? (200 gair).
  • Sut ydych chi'n gwybod mai MSc Seicoleg Iechyd Meddwl yw'r radd iawn i chi? (150 gair).
  • Beth ydych chi'n dymuno ei gyflawni gyda'ch MSc mewn Seicoleg Iechyd Meddwl? (150 gair).

O fewn eich atebion i'r cwestiynau, rhowch fanylion neu eglurwch:

  • Unrhyw gyrsiau/modiwlau ar faterion seicolegol rydych chi wedi'u cwblhau neu unrhyw lyfrau rydych chi wedi'u darllen ar seicoleg a/neu iechyd meddwl sydd wedi'u gweld yn arbennig o ddiddorol;
  • P'un a ydych wedi bod yn rhan o rôl seicolegol neu sy'n gysylltiedig â seicolegol naill ai mewn ffordd â thâl neu wirfoddol (e.e. addysgu, cwnsela, gwaith cymorth), ac yn enwedig a yw hyn yn ymwneud ag iechyd meddwl;
  • Sut rydych chi wedi arsylwi effaith neu botensial seicoleg o fewn y rôl honno;
  • A sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r wybodaeth am seicoleg ac iechyd meddwl yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rydym yn ystyried ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl.

Broses ddethol

Mae lleoedd ar y cwrs yn gystadleuol a rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr yr ystyrir eu bod fwyaf tebygol o lwyddo ar y cwrs ac elwa ohono. Bydd tystiolaeth ar gyfer y potensial i wneud yn dda ar y cwrs yn cael ei chymryd o gymwysterau blaenorol a'r datganiad personol a ddylai ddangos profiad blaenorol yr ymgeisydd o seicoleg neu dystiolaeth o ddiddordeb mewn Seicoleg. 

Bydd ceisiadau'n cael eu sgorio yn seiliedig ar y meini prawf a restrir uchod a bydd cynigion yn cael eu gwneud i'r ymgeiswyr sy’n sgorio uchaf nes bod y cwrs yn llawn.

Gwneud cais ar gyfer MSc Seicoleg ac MSc Seicoleg Iechyd Meddwl

Mae MSc Seicoleg ac MSc Seicoleg Iechyd Meddwl yn rhaglenni tebyg ac yn aml mae gan ymgeiswyr ddiddordeb yn y ddau. Os ydych yn dymuno gwneud cais i'r ddau gwrs, cyflwynwch ddau gais ar wahân, un ar gyfer pob rhaglen. Efallai y byddwch yn derbyn cynnig ar gyfer y ddwy raglen, dim ond un, neu ddim un o’r ddwy.

Byddwn yn ceisio hwyluso pethau i ymgeiswyr sy'n dymuno newid rhaglenni ar ôl derbyn cynnig (cyn i'r rhaglen ddechrau) ond ni ellir gwarantu hyn oherwydd cyfyngiadau o ran capasiti. Unwaith y bydd y rhaglen wedi dechrau, mae’n annhebygol iawn y byddwn yn caniatáu i fyfyriwr newid gan fod strwythurau'r cyrsiau yn ymwahanu'n gynnar.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid oes gofyn i fyfyrwyr gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) neu ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau gwiriadau DBS ar gyfer rhai lleoliadau proffesiynol.

Os ydych yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer/dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffywiau
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs amser llawn, blwyddyn o hyd yw hwn, sy’n dechrau yn yr hydref. Byddwch yn cyflawni cyrsiau a addysgir yn ystod y ddau semester cyntaf. Yn y semester olaf (yr haf), byddwch yn gwneud traethawd hir.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Cam a addysgir
Yn y semester cyntaf, byddwch chi’n dysgu am gydrannau sylfaenol seicoleg, fel seicoleg ddatblygiadol a chlinigol, seicoleg wybyddol a chymdeithasol, a dulliau ymchwil mewn gwyddorau clinigol. Yn yr ail semester byddwch chi’n cwblhau eich astudiaethau craidd a hefyd yn cymryd rhan mewn modiwlau iechyd meddwl arbenigol. 

Cam y Traethawd Hir
Yn ystod misoedd yr haf, byddwch chi’n ymgymryd â thraethawd hir lle byddwch chi’n gweithio mewn grwpiau ac yn unigol i gwblhau prosiect ymchwil newydd. Bydd pwnc eich traethawd hir yn cynnwys elfen iechyd meddwl.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

  • Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae ein tîm addysgu, sydd o fri rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil ddiweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am seicoleg a chynnig enghreifftiau a senarios cyfredol, go iawn.
  • Mae'r rhan fwyaf o’r modiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, addysgu mewn grwpiau bach (seminarau a thiwtorialau), a sesiynau ymarferol. Mewn darlith, bydd y darlithydd yn rhoi trosolwg o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl (yn ogystal â chyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a bod yn fyfyriol). Caiff darlithoedd eu recordio a byddant ar gael yn fuan ar ôl eu traddodi i helpu gydag eglurder a dealltwriaeth o'r pwnc. Mewn seminarau a thiwtorialau, cewch gyfle i drafod syniadau, cymhwyso cysyniadau, a chyfnerthu eich dealltwriaeth yn y pwnc. Mewn sesiynau ymarferol, byddwch yn gallu cymhwyso'r technegau a'r theori rydych chi wedi dysgu amdanyn nhw a chael profiad o gynnal arbrofion.
  • Yn eich traethawd hir, byddwch chi’n gweithio mewn grwpiau bach gyda goruchwyliwr i gwblhau prosiect ymchwil newydd. Byddwch chi’n defnyddio'ch grŵp i gynhyrchu syniadau a thrafod materion cyffredinol sy'n ymwneud â phwnc eich traethawd hir yn ogystal â chael syniadau unigol.

Sut y caf fy asesu?

Mae tasgau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl. Gallwch chi ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau unigol a grŵp.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd. Os cewch broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol bob tro yw’r person cyntaf y dylech gysylltu ag ef gan y bydd yn gallu eich cyfeirio at ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol i fyfyrwyr drwy law’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr fel y bo'n briodol.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff cymorth academyddion proffesiynol y Tîm Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu e-bost yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar yr holl waith cwrs. Bydd hyn yn cael ei roi mewn digon o amser i'ch hysbysu sut i gwblhau'r darn nesaf o waith cysylltiedig. Fe'ch anogir hefyd i siarad â'ch tiwtoriaid os oes angen arweiniad ychwanegol arnoch ar sut i wella.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Dangos gwybodaeth systematig a dealltwriaeth feirniadol o ddamcaniaethau a chysyniadau seicolegol allweddol a'u datblygiad hanesyddol, gyda ffocws ar iechyd meddwl.
  • Gwerthuso damcaniaethau a chysyniadau seicolegol yn feirniadol, gan ddefnyddio tystiolaeth empirig i gefnogi dadansoddi a dadlau, o fewn a thu hwnt i faes seicoleg, gyda ffocws ar iechyd meddwl.
  • Dangos gwybodaeth systematig a dealltwriaeth feirniadol o berthnasedd a chyfyngiadau ymchwil seicolegol mewn cyd-destunau yn y byd go iawn ac ar draws diwylliannau a chymunedau.
  • Dangos gwybodaeth arbenigol am batrymau ymchwil allweddol, gan gynnwys dulliau meintiol ac ansoddol, materion moesegol, offer digidol, a thechnegau ystadegol priodol, i ymchwiliadau seicolegol.

Sgiliau Deallusol:

  • Cymhwyso a gwerthuso ystod o dechnegau ymchwil yn feirniadol, gan gynnwys dulliau meintiol ac ansoddol, a thechnegau mesur, i ymchwilio i gwestiynau, gan ddefnyddio offer digidol/electronig a dulliau ystadegol priodol.
  • Dangos defnydd effeithiol o sgiliau ymchwil gwyddonol i ddylunio arbrofion moesegol gadarn ac asesiadau beirniadol o gwestiynau ymchwil gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol.
  • Cynllunio a chynnal prosiect ymchwil yn annibynnol gan ddefnyddio theori ac ymchwil empirig.
  • Gwerthuso'n feirniadol i lefel arbenigol sut mae ffactorau seicolegol yn dylanwadu ar ymddygiad mewn ymchwil, gyda ffocws ar iechyd meddwl.
  • Syntheseiddio theori seicolegol ac ymchwil empirig i gynnig ymyriadau therapiwtig ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer unigolion sydd â chyflyrau iechyd meddwl. 

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Dangos sut mae cymhwyso egwyddorion moesegol arbenigol mewn ymchwil seicolegol ac ymarfer proffesiynol, gyda ffocws ar iechyd meddwl.
  • Myfyrio ar gymhwysiad theori ac ymarfer seicolegol a gwerthuso hyn.
  • Cyfleu syniadau seicolegol cymhleth a'u gwerthusiad yn glir, gan ddefnyddio fformatau llafar, ysgrifenedig a digidol, wrth ystyried amrywiaeth a goblygiadau moesegol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Casglu gwybodaeth a chreu syniadau’n annibynnol, gan gynnwys defnyddio ystod o offer digidol i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn briodol, gydag ymwybyddiaeth o'r gynulleidfa.
  • Cyfrannu at waith tîm mewn sefyllfaoedd sydd â ffocws iechyd meddwl, gyda'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cydweithio, gan ddangos sensitifrwydd i ffactorau rhyngbersonol a chyd-destunol.
  • Casglu, storio a defnyddio data yn effeithiol mewn ymchwil ac ymarfer seicolegol, a dangos gwerthfawrogiad beirniadol o wahanol dechnegau ar gyfer gwneud hynny.
  • Cyflwyno gwybodaeth gymhleth yn glir mewn amrywiaeth o gyd-destunau a thimau i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
  • Myfyrio ar gryfderau a gwendidau personol ar gyfer datblygiad parhaus.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £13,450 £2,500

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â'r cwrs hwn.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2025 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2025/26.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Bydd gyrfa mewn seicoleg ac iechyd meddwl yn eich herio ar sawl lefel. Bydd y rhaglen arloesol hon yn eich cefnogi i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau neu ddatblygu gyrfa yn y maes hwn, sy'n ehangu'n gyflym.

Mae cyflogwyr yn ffafrio graddedigion seicoleg oherwydd eu set sgiliau eang. Mae eich MSc Seicoleg Iechyd Meddwl yn adlewyrchu addysg prifysgol sydd nid yn unig yn datblygu sgiliau dadansoddol, meddwl beirniadol a llythrennedd ond hefyd sgiliau rhifedd a meintiol. Ar y rhaglen hon byddwch chi hefyd yn datblygu eich sgiliau gwaith tîm ac arwain drwy’r sesiynau ymarferol a'r traethawd hir, eich sgiliau cyfathrebu drwy gyflwyniadau llafar ac adroddiadau ysgrifenedig, yn ogystal â gwybodaeth broffesiynol arbenigol am iechyd meddwl, fel asesiadau ac ymgysylltu.  

Gall datblygu gyrfa mewn seicoleg ac iechyd meddwl fod yn werth chweil iawn. Gallech chi fod yn gweithio gyda rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan ddefnyddio eich sgiliau i helpu i leddfu'r anawsterau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Bydd yr MSc Seicoleg Iechyd Meddwl yn rhoi'r sail ddeallusol i chi ddechrau neu ddatblygu gyrfa mewn seicoleg, tra'n gwella eich gwybodaeth am iechyd meddwl.

Lleoliadau

Nid oes unrhyw leoliadau gwaith ar y rhaglen ond mae ’na amgylcheddau ac asesiadau dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith sy'n eich galluogi i brofi ac ymarfer sgiliau sy'n gysylltiedig â gwaith. Ar y modiwlau iechyd meddwl arbenigol, er enghraifft, byddwch chi’n cynnal asesiadau a gwerthusiadau o achosion, a bydd siaradwyr gwadd yn eich dysgu am ymarfer proffesiynol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Psychology


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.