Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio a Datblygu Gofodol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol na gradd benodol i'w astudio, ond bydd angen i chi ddangos diddordeb a dealltwriaeth o'r pwnc.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Video containing details on MSc Spatial Planning and Development. School of Geography and Planning.

Nod yr MSc Cynllunio a Datblygu Gofodol yw eich rhoi ar ben ffordd i fod yn gynllunydd da.

briefcase

Cydnabyddiaeth broffesiynol

Wedi'i hachredu'n llawn gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig – gan ddarparu mynediad at aelodaeth.

location

Cyfle i ennill profiad ymarferol

Cyfle i weithio ar brosiectau byw gyda chleientiaid go iawn megis awdurdod cynllunio neu asiantaeth, gan elwa ar brofiad ystod o siaradwyr gwadd o gwmnïau.

tick

Rhoi hwb i’ch gyrfa

Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i rolau cynllunio a datblygu mewn sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, er mwyn creu lleoedd cryfach, bywiog a llewyrchus.

structure

Astudio hyblyg

Gellir astudio ar batrwm amser llawn neu ran-amser; mae hyn yn rhoi'r dewis i chi gwblhau'r radd mewn blwyddyn neu weithio'n rhan-amser a'i chwblhau mewn dwy flynedd.

Ein MSc mewn Cynllunio a Datblygu Gofodol (wedi'i achredu gan RTPI a RICS) yw'r man cychwyn delfrydol ar gyfer eich gyrfa fel cynllunydd neu syrfëwr a bydd yn datblygu ac yn cryfhau eich sgiliau cynllunio a datblygu craidd, sy'n berthnasol ac yn gymwys i ystod o raddfeydd gofodol. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddamcaniaethol, y ddirnadaeth feirniadol a'r galluoedd ymarferol i chi gyflawni eich dyheadau a chyfrannu'n gadarnhaol at arferion a pholisïau cynllunio a datblygu, yn y DU a thu hwnt.

Mae cynllunio a datblygu yn aml yn cael eu gwneud mewn cymdeithasau amrywiol, ac weithiau anghyfartal neu anghyfiawn, a gall fod yn destun dadlau ac ymdrech. Dyma pam, wrth ennill y sgiliau arbenigol y bydd eu hangen arnoch i lwyddo, byddwn hefyd yn eich helpu i feithrin eich barn broffesiynol a bod yn sensitif i heriau moesegol, gwleidyddol ac amgylcheddol ehangach. Byddwn yn eich grymuso i gwestiynu'r sefyllfa sydd ohoni a herio eich meddwl eich hun i ffurfio a mynegi casgliadau annibynnol.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar gynllunio a datblygu mewn economïau marchnad uwch, yn enwedig yn y DU ac yn Ewrop. Ond, mae gwaith archwilio cynllunio a datblygu'r rhaglen yn gymharol, ac mae'r sgiliau a addysgir yn berthnasol mewn llawer o gyd-destunau cynllunio.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

 

Academic requirements: 

Typically, you will need to have either: 

  • a 2:2 honours degree in a relevant subject area such economics, geography, architecture, sociology, engineering, politics and history, or an equivalent international degree 
  • a university-recognised equivalent academic qualification
  • or relevant professional experience evidenced by a reference. The reference must be provided by your employer to evidence that you currently work in an area relevant to the programme. This should be signed, dated and less than six months old at the time you submit your application.  

English Language requirements:

IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent. 

Application deadline:

We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible. 

Selection process: 

We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer. 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Mae'r MSc Cynllunio a Datblygu Gofodol yn rhaglen ran-amser dros ddwy flynedd.

Mae wedi'i rhannu'n ddwy ran:

  • Mae rhan un yn cynnwys rhaglen addysgu o fodiwlau gorfodol a dewisol dros bedwar semester.

  • Mae rhan dau yn cynnwys traethawd hir unigol. Byddwch yn dewis eich pwnc mewn ymgynghoriad ag aelodau o staff. Rhaid i'r pwnc fod yn gysylltiedig â chynllunio. Os ydych chi’n fyfyriwr o wlad y tu allan i'r DU, gall y traethawd hir ganolbwyntio ar fater cynllunio yn eich gwlad chi. Agwedd bwysig ar broses y traethawd hir yw cael y myfyriwr i fyfyrio ar yr hyn sy'n gysylltiedig ag ymchwilio i bwnc cynllunio.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy asesu?

Y dulliau asesu a ddefnyddir yw: traethodau, adroddiadau, gwaith prosiect, posteri, dyddiaduron myfyriol a chyflwyniadau llafar.

Bydd traethodau ac adroddiadau'n cael eu defnyddio’n benodol i brofi eich gwybodaeth graidd a'ch pwerau dadansoddi. Byddan nhw’n caniatáu i chi ddefnyddio gwybodaeth a geir yn ystod y modiwlau mewn darnau o waith gwerthuso polisi neu ddatblygu cynaliadwy ar waith.

Bydd gwaith prosiect a dyddiaduron myfyriol yn arbennig o bwysig wrth brofi sgiliau pwnc wrth gynllunio.

Bydd cyflwyniadau seminar, dadleuon a phosteri yn eich annog i ddatblygu ac egluro eich dealltwriaeth o wybodaeth graidd (er mwyn amddiffyn safbwynt dadl) ac yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau cyfathrebu.

Sut y caf fy nghefnogi?

  • Mynediad i labordy 40 cyfrifiadur pwrpasol gyda pherifferolion o safon uchel gan gynnwys; argraffu laser ar gyfrif rhwydwaith, argraffu lliw fformat mawr, argraffu lliw maint A4.

  • Cyfleusterau GIS/gweithfan/mynediad at gyfleuster mapio digidol digimap Edina.

  • Technegydd cyfrifiadurol penodol.

  • Labordy 30 cyfrifiadur mynediad agored ychwanegol yn Adeilad Morgannwg.

  • Llyfrgell ragorol ar gyfer y maes Cynllunio, sy’n cynnwys tua 12,000 o lyfrau, 280 o gyfnodolion a gwariant sylweddol ar stoc bob blwyddyn.

  • Mynediad at gronfeydd data rhyngwladol ar-lein/cyfleusterau llyfrgelloedd cyfrifiadurol.

  • Cynllun tiwtor personol manwl a chynhwysfawr gyda chynnydd yn cael ei adolygu mewn cyfarfodydd rheolaidd â'ch tiwtor personol.

  • Adborth ysgrifenedig ar asesiadau.

  • Cymorth iaith Saesneg, os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf.

  • Mynediad at gyfleusterau adnoddau Dyslecsia.

  • Cymorth os ydych chi’n gweithio/cael eich asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Cyflwyno sgiliau proffesiynol yn ystod yr wythnos ymsefydlu i roi hyfforddiant i chi ar ddefnyddio cyfrifiaduron, sgiliau cyflwyno ac ati.

  • Gallu defnyddio Blackboard ym mhob modiwl i gael gwybodaeth am fodiwlau ac adnoddau dysgu.

Adborth

Byddwch yn cael cyfle i adolygu eich cynnydd yn rheolaidd gyda'ch tiwtor personol. Byddwch hefyd yn cael adborth ysgrifenedig ar bob asesiad.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy gan gynnwys:

  • Sgiliau dadansoddi, gan gynnwys sgiliau ymchwil
  • Sgiliau cyfathrebu, yn enwedig ysgrifennu adroddiadau a chyflwyniadau
  • Rheoli amser
  • Sgiliau TG
  • Gweithio mewn tîm
  • Defnyddio'r broses polisi cynllunio
  • Cyfraith cynllunio (rhagarweiniol)
  • Cynllunio safleoedd
  • Arfarnu datblygiad mewn perthynas â chynllunio

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £21,200 £2,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Gellir trefnu nifer o ymweliadau astudiaethau maes yn ystod y cwrs. Rydyn ni’n rhoi cymhorthdal rhannol i'r teithiau hyn ond dylech ganiatáu ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae graddedigion y cwrs hwn yn gwneud yn eithriadol o dda yn cael y swyddi y maent yn dymuno eu cael. Mae mewnbwn a gynigir i’r radd gan bobl sy’n gweithio yn y maes hefyd yn ei gadw’n berthnasol. Rydych hefyd yn elwa o wneud cysylltiadau gwych.

Prif gyrchfannau cyflogaeth graddedigion yw sefydliadau cynllunio tref a rhanbarthol y DU a'r UE, gan gynnwys awdurdodau lleol a rhanbarthol, asiantaethau llywodraeth genedlaethol, cwmnïau ymgynghori cynllunio preifat a sefydliadau gwirfoddol. Mae gennym hefyd fyfyrwyr a gyflogir yng Ngogledd America ac Awstralia.

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Gwaith maes

A number of field study visits may be arranged during the course. We partly subsidise these trips but you should allow for travelling and subsistence expenses.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Geography and planning, Politics


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.