Ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Mae ymchwil yn yr Ysgol yn rhychwantu dylunio, y celfyddydau, crefftau, y dyniaethau a'r gwyddorau pensaernïol, ac rydym yn meithrin rhagoriaeth ar draws ein harbenigedd trawsddisgyblaethol. Cyrhaeddodd yr Ysgol safle rhif pedwar yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 o blith sefydliadau sy'n ymchwilio ym maes 'Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio.'
Clystyrir ein harbenigedd ymchwil i gyfres o 'Grwpiau Ymchwil ac Ysgolheictod' sy'n meithrin diwylliannau o gefnogaeth, creadigrwydd a chydweithio yn yr Ysgol: Dulliau Cyfrifiadurol ym maes Pensaernïaeth; Ymchwil Dylunio ac Ymarfer Proffesiynol; Ynni, Yr Amgylchedd a Phobl; Hanes, Treftadaeth a Chadwraeth; Trefolaeth. Yn ein portffolio o ymchwil a ariennir ceir amrywiaeth gyfoethog o gydweithrediadau gydag ystod o wahanol ysgolion pensaernïaeth, felly hefyd gydag ystod o ddisgyblaethau a phrifysgolion yn y DU, Ewrop a ledled y byd.
Mae gennym gysylltiadau ymchwil cynhyrchiol gyda meysydd ymarfer, diwydiant, a'r llywodraeth, ac rydym yn cydweithio'n aml ar ymchwil gyda phartneriaid nad ydynt o’r maes academaidd. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chymunedau lleol gan ddefnyddio sgiliau ymchwil i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau a gweledigaethau ar gyfer newid. Rydyn ni'n ystyried ein cyfraniad i fywyd a datblygiad diwylliannol Caerdydd a Chymru yn rhan hanfodol o'n cenhadaeth.
Mae ein hacademyddion o fri rhyngwladol yn cefnogi cymuned ymchwil ôl-raddedig ffyniannus a bywiog sy'n adlewyrchu ehangder llawn ein harbenigedd.
Mae’r adroddiad ymchwil blynyddol hwn yn samplu prosiectau ymchwil hirdymor sy’n cael eu cynnal yn 2021 yn WSA. Mae rhai’n mynd rhagddynt, mae rhai wedi dod i ben eleni, ac mae eraill wedi’u lansio’n ddiweddar.