Lab Byw
Cynlluniwyd y Labordy Byw i annog a chefnogi rhagor o ymgysylltu â, chymunedau lleol, diwydiant a’r proffesiynau, yn ogystal â chyd-academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt.
![Living Lab](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2602649/WSA-24-Feb-2022-Bute-Print-Size-67-Cropped.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Dwy brif nodwedd y Labordy Byw yw amlbwrpasedd a hygyrchedd. Gellir mynd i mewn i'r ystafell hynod hyblyg hon yn hawdd o fynedfa flaen adeilad Bute ac mae'n cynnig offer AV o ansawdd uchel, allfeydd pŵer y gellir eu symud, nenfwd a chanddo fariau i gynnal offer ychwanegol, ac ystafell arsylwi gyfagos. Mae’n lle delfrydol i ddefnyddio ymchwil dulliau cymysg mewn digwyddiadau sy’n gofyn am, ystafell hynod hyblyg a chanddi ystafell-fechan hunangynhwysol yn rhan ohoni, am gyfnodau hir o amser.
Defnyddir y Lab ar gyfer gweithdai rhyngweithiol, grwpiau ffocws, astudiaethau amgylcheddol ac arsylwi. Bydd yn chwarae rhan barhaus wrth greu cyfleoedd newydd i wella effaith ein hymchwil ryngddisgyblaethol.
Lleoliad
Ystafell 0.62 Llawr Gwaelod Isaf (dde), adeilad Bute