Effaith
Mae gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru ethos o 'greadigrwydd ar sail gadarn' yn ategu'r holl ymchwil ac addysg ac sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i ymgysylltu â phroblemau byd go iawn.
Cyflawnir ein heffaith drwy waith tîm mewnol a chydweithio â'r llywodraeth, diwydiant a chyrff anllywodraethol. Drwy'r cydweithrediadau hyn, nod ein hymchwil yw trawsnewid bywyd bob dydd mewn pedwar prif faes effaith: cynaliadwyedd ac ynni, perfformiad diwydiant, treftadaeth, lles cymunedau a chyfiawnder cymdeithasol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein hymchwilwyr wedi datblygu: dulliau fforddiadwy o ôl-osod tai yn gynaliadwy, meddalwedd i wella perfformiad y diwydiant, ymgysylltu â chymunedau i gryfhau eu rhagolygon, rhwydweithio gyda chymunedau yn ymgyrchu i achub adeiladau hanesyddol rhag cael eu dymchwel a'u datblygu, ynghyd â Chronfa Henebion y Byd a Llywodraeth Madhya Pradesh, strategaeth gadwraeth, canolfan ymwelwyr, a theithiau cerdded treftadaeth gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol India.
Mae tri phrosiect wedi aeddfedu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddod yn Astudiaethau Achos Effaith:
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.