Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Mathemateg

Mae ein hymchwil, sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, yn dangos effaith y gwyddorau mathemategol ar ein bywyd bob dydd.

Uned ymchwil-ddwys hirsefydlog yw Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd ac rydyn ni'n canolbwyntio ar hyrwyddo gwybodaeth fathemategol sylfaenol, hwyluso'r broses o gymhwyso’r gwyddorau mathemategol mewn disgyblaethau eraill, a rhoi budd cymdeithasol drwy ein cysylltiadau â byd diwydiant, elusennau a'r sector cyhoeddus.

Ein Hysgol

Mae Ysgol Mathemateg Caerdydd, sydd bellach yn adeilad newydd a chyffrous Abacws, wedi tyfu mwy na 60% ers 2014. Ynddi mae pum prif grŵp ymchwil ac mae pob un yn hynod o ryngwladol ac yn meddu ar gyllid ymchwil allanol sylweddol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd ar drywydd ymchwil er ei mwyn ei hun, boed yn ddamcaniaethol neu'n gymwysedig. Rydyn ni wedi croesawu 5 ymwelydd academaidd a siaradwr sydd wedi ennill Medal Fields, yn ogystal â mwy na thri dwsin o enillwyr gwobrau rhyngwladol a phrif siaradwyr yr ICM.

Ar y cyd â’n partneriaid strategol allanol rydyn ni’n cymhwyso mathemateg i heriau byd-eang gan gynnwys rheoli gofal iechyd, effeithiolrwydd busnes, a thwf cymunedau mathemategol yn Affrica. Mae ein hymchwilwyr yn cynnwys aelodau o Grwpiau Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ar gyfer pandemig Covid-19.

Cydweithio

Y ffaith bod yr Ysgol yn rhannu Abacws â Chyfrifiadureg a Gwybodeg yw’r cam diweddaraf yn y broses o gydweithio rhwng yr Ysgolion ac mae hyn hefyd yn cynnwys Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data'r Brifysgol , yr Ysgol Peirianneg, CUBRIC a'r Ysgol Meddygaeth. Mae Partneriaeth Strategol y Brifysgol â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ffrwyth mwy nag ugain mlynedd o gydweithio rhwng ystadegwyr a gwyddonwyr data Ysgol Mathemateg Caerdydd a'r SYG.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Gweithgarwch dynol, deallusol a chyffredinol yw mathemateg nad yw'n cydnabod rhwystrau o ran rhyw nac ethnigrwydd. Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo ein pwnc sy'n caniatáu i bob un ohonon ni fanteisio i’r eithaf ar ein cyfraniadau i'r gymuned fathemategol yn fyd-eang.