Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn Ieithoedd Modern: Japaneeg, Tsieinëeg, Portiwgaleg

Cardiff University student

Mae ein Llwybr at radd mewn Ieithoedd Modern wedi’i lunio ar gyfer oedolion sy’n dychwelyd i addysg ac sydd â’r potensial i gyfrannu’n uniongyrchol at radd sy’n werthadwy iawn.

Addysgir modiwlau gyda’r nos ac amser cinio, ac maent wedi cael eu rhoi at ei gilydd i ddiwallu anghenion y byd gwaith, a’ch galluogi i ddatblygu sgiliau ieithyddol sy’n werthfawr yn fasnachol. Byddwch yn dysgu am ddiwylliannau gwledydd eraill yn ogystal â’r ieithoedd a siaredir yno.

Byddwch yn cael eich addysgu gan diwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad helaeth o ddatblygu sgiliau iaith mewn oedolion ac sy’n ymroddedig i’ch helpu i lwyddo.

Sut mae’n gweithio

Mae'r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau.  Y nod yw rhoi’r sgiliau ieithyddol a’r paratoad deallusol sydd eu hangen arnoch i astudio gyda ni ar gyfer gradd mewn ieithoedd modern a bydd yn gwarantu cyfweliad i chi.

Rhaid canolbwyntio ar un iaith i fynd ymlaen i astudio un anrhydedd. Mae tair iaith y gallwch ddewis ohonynt:

  • Tsieinëeg
  • Japaneeg
  • Portiwgaleg

Rhaid i chi gymryd o leiaf 20 credyd yn eich iaith o ddewis.

Modiwlau craidd

Tsieinëeg

Japaneeg

Portiwgaleg

Modiwlau dewisol

Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth

Hanes a Chrefydd

Ieithoedd Modern

Ymddygiad Proffesiynol wrth Gyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (10 credyd)

Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl cwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd rhagor o amser os oes angen.

Y gost

Dysgwch fwy am y cyllid a'r arian sydd ar gael.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y llwybr hwn, ebostiwch eckart@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch +44(0)29 2087 5336.

Gallwch hefyd gysylltu:

Llwybrau at radd