Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn Ffarmacoleg Feddygol

Ffarmacoleg Feddygol
Myfyrwyr Ffarmacoleg Feddygol

Mae'r Llwybr tuag at radd mewn Ffarmacoleg Feddygol wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, a chanddynt ddiddordeb mewn dychwelyd i fyd addysg.

Byddai hwn yn llwybr delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn ymchwil fiofeddygol o fewn y diwydiant fferyllol neu mewn unrhyw faes biofeddygol arall.

Mae'r llwybr yn cynnwys gwerth 60 credyd o fodiwlau gofynnol. Caiff pob modiwl ei gwblhau gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Bydd angen i ymgeiswyr sy'n dymuno ymrestru ar y Llwybr at radd mewn Ffarmacoleg Feddygol feddu ar 5 o gymwysterau TGAU graddau A-C/9-4 gan gynnwys Mathemateg, Cymraeg/Saesneg a Gwyddoniaeth Ddwbl (neu Gemeg a Gwyddoniaeth arall) a Safon Uwch mewn Cemeg Gradd B neu uwch.

Modiwlau

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl cwblhau'r llwybr o fewn un flwyddyn, ond gallwch gymryd rhagor o amser os oes angen.

Cost

Gwybodaeth am gyllid ac arian.

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr hwn cysylltwch â:

Llwybrau at radd