Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn Optometreg

Ffarmacoleg Feddygol
Myfyrwyr Ffarmacoleg Feddygol

Lluniwyd ein Llwybr rhan-amser at radd mewn Optometreg ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwneud cais i astudio gradd.

Addysgir y modiwlau gyda’r nos ac ar y penwythnos. Byddwch chi’n astudio mewn cyd-destunau sy’n hamddenol ac yn gefnogol. Ar ôl astudio’r llwybr byddwch chi’n gallu gwneud cais i astudio Optometreg gyda Blwyddyn Ragarweiniol (MOptom) (B514).

Sut mae’n gweithio

Mae'r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau. Mae hyn yn cynnwys dau fodiwl craidd gorfodol, sy'n cynnwys 20 o gredydau yr un, ynghyd â modiwlau opsiynol ychwanegol a fydd yn gyfwerth ag 20 o gredydau.

Bydd angen 7 TGAU, graddau A-C/9-4 ar yr ymgeiswyr. Dylai'r rhain gynnwys gwyddoniaeth ddwbl, neu ffiseg a gwyddor arall, mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.

Modiwlau’r llwybr

Modiwlau craidd

Modiwlau dewisol

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch chi ddisgwyl cwblhau'r llwybr cyn pen blwyddyn, ond gallwch chi gymryd rhagor o amser os bydd angen.

Cost

Rhagor am gyllid ac arian.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr hwn cysylltwch â:

Llwybrau at radd