Israddedig
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn iaith a diwylliannau, rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau gradd anrhydedd sengl a chyd-anrhydedd i ddewis o'u plith.
Ein cyrsiau
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Cerddoriaeth ac Iaith Fodern (BA) | R753 |
Cyfieithu (BA) | Q910 |
Cyfieithu gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor (BA) | Q912 |
Cymraeg ac Iaith Fodern (BA) | R757 |
Gwleidyddiaeth ac Iaith Fodern (BA) | R756 |
Hanes ac Iaith Fodern (BA) | R752 |
Ieithoedd Modern (BA) | R750 |
Ieithyddiaeth ac Iaith Fodern (BA) | R755 |
Tsieinëeg Fodern (BA) | R751 |
Ieithoedd a diwylliannau
Byddwch chi’n datblygu lefel uchel o hyfedredd yn yr iaith neu’r ieithoedd o’ch dewis, yn ogystal â dealltwriaeth gynhwysfawr o’r diwylliannau sy’n dylanwadu arnyn nhw neu’n cael eu dylanwadu ganddyn nhw.
Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel Elfennol neu lefel Elfennol Uwch felly peidiwch â phoeni os nadydych chi’n meddu ar brofiad blaenorol o astudio eich dewis iaith neu gymhwyster Safon Uwch yn y pwnc.
Dyma'r ieithoedd rydyn ni’n eu haddysgu ar hyn o bryd, er y bydd y cyfuniadau o’r ieithoedd sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar y radd fyddwch chi’n ei dewis.
Os byddwch chi’n dewis astudio ein rhaglen Ieithoedd Modern (BA), cewch chi ddewis hyd at 2 iaith, oni bai eich bod yn dewis Tsieinëeg, lle na fydd modd ei hastudio ag iaith arall.
Archwiliwch strwythurau ein BA mewn Ieithoedd Modern, gan gynnwys y modiwlau byddech chi’n eu hastudio fesul iaith.
Cyfuno ieithoedd â phynciau eraill
Mae gradd gydanrhydedd yn opsiwn perffaith os hoffech chi gyfuno eich diddordebau, p’un ai drwy barhau gyda phwnc rydych chi eisoes wedi'i astudio neu drwy roi cynnig ar rywbeth newydd. Rydyn ni’n cynnig rhaglenni cydanrhydedd mewn pynciau yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Ar hyn o bryd, gyda Ffrangeg, Tsieinëeg neu Sbaeneg yn unig y mae modd cyfuno'r rhain.
Os byddwch chi’n dewis astudio rhaglen gydanrhydedd, byddwch chi’n treulio'r drydedd flwyddyn dramor, naill ai'n gweithio ac/neu'n astudio.
Cyfieithu
Rydyn ni hefyd yn cynnig cyrsiau cyfieithu arbenigol a fydd yn rhoi sgiliau cyfieithu ymarferol a phroffesiynol a hyfforddiant iaith fanwl i chi, ynghyd â’r cyfle i sicrhau meistrolaeth ragorol ar ddwy iaith fodern*. Mae ein graddau mewn Cyfieithu ar gael ar sail astudio rhaglen 3 neu 4 blynedd.
Archwiliwch strwythurau ein rhaglenni cyfieithu, gan gynnwys y modiwlau fydd yn rhan o'ch hastudiaethau.
Pam astudio ieithoedd gyda ni?
Felly, rydych chi eisiau astudio ieithoedd ond heb fod yn siŵr pa brifysgol sy'n iawn i chi? Os byddwch chi’n dewis astudio gyda ni, byddwch chi’n ymuno â chymuned fywiog ac amlddiwylliannol.
Byddwn ni’n gefn ichi drwy gydol eich astudiaethau. Mae eich llesyn bwysig i ni, a thrwy gydol eich amser gyda ni, bydd gennych chi diwtor personol wrth law i ateb unrhyw gwestiynau.
Nid yn unig hynny – mae Prifysgol Caerdydd wrth galon prifddinas fywiog Cymru. Rydyn ni’n hyderus y byddwch chi'n mwynhau’r hyn sydd gan y ddinas i'w gynnig, o leoedd gwych i fwyta ac yfed, i’r holl theatrau, sinemâu, mannau gwyrdd, a llawer iawn mwy.
Cyfleoedd am gyllid
Rydyn ni’n cynnig bwrsariaethau i roi cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr israddedig sydd fel arfer yn byw yn y DU neu o gefndiroedd incwm is. Mae'r arian hwn ar gael ar ben y grantiau cynhaliaeth a’r benthyciadau a ariennir gan y wladwriaeth.
Archwiliwch strwythurau ein rhaglenni ieithoedd modern neu cyfieithu, gan gynnwys y modiwlau byddech chi’n eu hastudio yn dibynnu ar yr iaith/ieithoedd rydych chi'n dewis.