Cyrsiau cyfrwng Cymraeg
Mae gennym hyd at 100 cwrs gradd mewn meysydd pwnc amrywiol sydd ar gael yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn i’n argymell i unrhyw siaradwr Cymraeg sy’n ymgeisio i astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd dderbyn y cynnig i astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Fyddwch chi ddim yn ‘methu allan’ ar unrhyw gyfleoedd eraill ar y cwrs - os rhywbeth, cyfleoedd ychwanegol sydd o astudio’n Gymraeg. Mae’r darlithwyr a'r tiwtoriaid Cymraeg i gyd yn hyfryd ac yn hynod o gefnogol.
Pynciau
Medrwch astudio cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau canlynol:
Modiwl Dinesydd Caerdydd
Dyma fodiwl 5 credyd, anffurfiol.
Cewch ddysgu am y ddinas a’r Gymraeg yng nghyd-destun yr ardal, y brifysgol, yn ogystal ag amlddiwylliannedd cyfoethog Caerdydd.
Dyna gyfle gwych i:
- gymdeithasu trwy ddysgu mewn grŵp
- adnabod myfyrwyr blwyddyn gyntaf o bob rhan o'r brifysgol
- wneud y mwyaf o’ch Cymraeg
Mwy na dim ond cyrsiau
Byddwn yn eich cefnogi i astudio yn Gymraeg a phrofi bywyd Cymraeg yng Nghaerdydd.