Credwn fod disgleirdeb yn dod o weithio gyda'n gilydd, rhannu syniadau, a chefnogi ein gilydd. Rydyn ni’n gweithio gyda'n myfyrwyr i roi’r addysg brifysgol orau bosibl, nid yn unig er eu budd eu hunain, ond er budd ein cymunedau a'n byd.
Dewch i fod yn rhan o rywbeth mwy
Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n arwain y byd mewn ffordd wahanol.
Ers mwy na chanrif, rydyn ni wedi hyrwyddo ysbryd blaengar, gan ymlafnio dros newid a mynnu rhagor. Rydyn ni wedi dyfeisio technolegau ynni amgen, wedi datblygu triniaethau arloesol newydd sy'n targedu ystod o glefydau marwol ac wedi dylanwadu ar welliannau cymdeithasol ac economaidd i bobl Cymru.
Heddiw, mae angen yr un ysbryd yn fwy nag erioed.
Er bod prifysgolion eraill yn dadlau o blaid cyflawni unigol, yma ein cennad yw dod â phobl o gefndiroedd amrywiol at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.
“Cynigiodd Prifysgol Caerdydd gydbwysedd imi, sef trylwyredd academaidd a bywyd y ddinas.”
Mae’r darpar entrepreneuriaid hyn yn credu bod busnes moesegol yn un o brif ysgogwyr newid yn y byd – ac mae rheoli arian ac adnoddau yn effeithiol yn chwarae rhan hanfodol yn y gymdeithas.
Dysgwn gyda'n gilydd
Ar y cyd y bydd dysgu gwych yn digwydd.
Byddwch chi’n cael addysg ysbrydoledig o safon a gydnabyddir gan fwy na 40 o gyrff proffesiynol. Gall ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr eich helpu bob cam o'r ffordd, gan eich helpu i ddefnyddio eich doniau a thurio'n ddyfnach i'r pynciau sy'n eich cyffroi.
Boed drwy leoliadau gwaith, opsiynau astudio dramor, chyfleoedd dysgu iaith gan gynnwys astudio yn y Gymraeg, ac interniaethau ar y campws, byddwn ni’n eich grymuso i herio'r byd.
Ffynnu yng Nghaerdydd
Mae campws Cathays, ar stepen drws canol y ddinas, yn gyfuniad gwych o’r hen a’r newydd: lleolir adeiladau rhestredig hardd ochr yn ochr â chyfleusterau modern a phwrpasol. Cewch fynediad rhwydd i'n llyfrgelloedd 24 awr, mwy na 2,500 o leoedd astudio, a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr—cartref ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, lleoedd astudio a darlithfeydd.
Ar gampws Parc y Mynydd Bychan mae’r ysgolion canlynol: deintyddiaeth, gofal iechyd a meddygaeth. Mae myfyrwyr yn yr ysgolion academaidd hyn yn elwa o fod yn rhan o drydydd ysbyty addysgu mwyaf y DU, ac mae hyn yn cefnogi eu hastudiaethau ac yn eu paratoi at y dyfodol.
Ymchwil o bwys
Yr ymchwil gryfaf bob amser yw’r ymchwil sy’n digwydd yn sgil cydweithio.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, cewch y cyfle i weithio ochr yn ochr â'n harbenigwyr yn eu maes sy'n rhannu eich angerdd dros greu newidiadau parhaol.
Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'n gilydd ar draws disgyblaethau ac mewn partneriaeth â byd diwydiant a'r llywodraeth i wneud y gwaith a wnawn yn fwy trwyadl ac yn fwy cyffrous a chraff, a hynny er mwyn effeithio ar y byd mewn ffyrdd go iawn a chreu gwaddol. Mae 90% o’n holl ymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF, 2021).
Rydyn ni ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd ein hymchwil, ei heffaith, a’r amgylchedd ymchwil.
Lansio eich gyrfa
Rydyn ni’n rhoi cymorth gyrfaol a chyflogadwyedd ichi o'r diwrnod cyntaf un, gan eich helpu gyda phopeth, boed ysgrifennu CV neu’n gyfweliadau neu ddod o hyd i brofiad gwaith ac interniaethau.
Mae gennym dros 1,000 o gyfleoedd i chi eu harchwilio ar ein bwrdd swyddi ar-lein, ac mae ein myfyrwyr wedi cymryd lleoliadau gyda mwy na 100 o gyflogwyr.
Pan fyddwch chi'n graddio o Brifysgol Caerdydd, byddwch chi'n ymuno â rhwydwaith byd-eang o fwy na 210,000 o raddedigion sy'n defnyddio eu doniau a'u harbenigedd er budd y gymdeithas.
Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n gwneud rhagor o astudiaethau, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill megis teithio.
Campws ichi fanteisio arno
O blith y dinasoedd, mae Caerdydd yn rhagori.
Mae’n ddigon mawr i gynnwys yr holl gyfleusterau y byddech chi'n eu disgwyl mewn prifddinas, ond mae hefyd yn ddigon agos-atoch i gadw ei naws, ei chymeriad a'i chynhesrwydd unigryw.
Mae'n ddinas sy’n falch o’i hamrywiaeth, mae ganddi uchelgais mawr a chalon fwy byth.
“Mae fy mhrofiadau yng Nghaerdydd wedi dangos imi mai cydweithio yw’r allwedd i greu effaith ystyrlon.”
Mae Kavetha’n gobeithio rhagori ym maes ffiseg, a bydd hi’n dechrau rhaglen gwyddonydd graddedig yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol.
Cymerwch y cam nesaf
Ffynonellau
- Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2021
- Canlyniadau arolwg Canlyniadau Graddedigion 2020/21 a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)
- 2il Undeb Myfyrwyr gorau'r DU yn ôl Whatuni Student Choice Awards 2023
- 1st ddinas fwyaf cyfeillgar yn y DU yn ôl Condé Nast Traveller Readers' Choice Awards 2023
- Top 12 yn y DU am gyflogadwyaeth yn ôl Safle Cyflogadwyedd y Brifysgol Fyd-eang, Times Higher Education 2024