Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud cais am lety

Rydym yn gwarantu llety i ddarpar fyfyrwyr israddedig sy’n astudio am y sesiwn academaidd lawn ac sydd wedi cael cynnig cadarn, ac i ôl-raddedigion sy’n cyrraedd ym mis Medi, cyn belled â bod ceisiadau’n cael eu cyflwyno mewn pryd.

Gallwch wneud cais i aros yn llety'r Brifysgol ar ôl i chi dderbyn cynnig i astudio yma. Gallwch wneud hyn drwy borth ymgeiswyr Prifysgol Caerdydd (SIMS). Bydd angen eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair arnoch. Cafodd y rhain eu hanfon atoch drwy ebost yn fuan wedi i ni gael eich cais.

Gall gymryd hyd at 48 awr o'r amser y gwnaethoch ddewis cadarn i astudio yma tan y byddwch yn gallu gwneud cais.

Llety i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr cyfnewid

Llety i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr cyfnewid

Sut a phryd y dylech wneud cais am ein llety israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig

Llety i ôl-raddedigion

Llety i ôl-raddedigion

Sut a phryd y dylech wneud cais am ein llety ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig.

Ganolfan Astudiaeth Ryngwladol

Ganolfan Astudiaeth Ryngwladol

Gwnewch gais am lety os ydych wedi derbyn cynnig gan y Ganolfan Astudio Ryngwladol ar gyfer un o'n rhaglenni i raddedigion

Llety haf i fyfyrwyr (arhosiad byr)

Llety haf i fyfyrwyr (arhosiad byr)

Mae llety hunanarlwyo ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod cyfnod yr haf gyda chyfraddau gostyngol ar gyfer arosiadau hir

Cyfnodau contract

Cyfnodau contract

Canllaw i ddyddiadau ein contractau llety, bydd dyddiadau swyddogol eich llety Prifysgol Caerdydd yn cael eu cadarnhau yn eich cynnig ystafell.

Sector preifat

Sector preifat

Os ydych chi'n newydd i'r ddinas, edrychwch ar sut i ddod o hyd i dai o safon yng Nghaerdydd drwy'r sector preifat a'r hyn y dylech fod yn chwilio amdano.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch gwneud cais neu ddyrannu ystafell, cysylltwch â:

Swyddfa Preswylfeydd