Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth (BSc Econ)

Pam astudio'r cwrs hwn

people

Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol

Manteisiwch ar gysylltiadau â senedd San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.

plane

Astudiwch Brydain a thu hwnt

Dysgwch am wleidyddiaeth ym Mhrydain a thu hwnt, a’r dylanwad sydd gan sefydliadau rhyngwladol.

book

Cewch brofiad o wleidyddiaeth ar waith

Dewiswch fodiwl a addysgir ar y cyd â San Steffan, sy'n cynnwys addysgu gan glercod Tŷ'r Cyffredin ac ymweliadau astudio.

academic-school

Cyfleoedd am leoliad gwaith

yddwch yn meithrin sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy amrywiaeth o gyfleoedd i ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid eraill.

Mae maes gwleidyddiaeth yn eich galluogi i archwilio'r modd y mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu ac yn gwerthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd, yn ogystal â chynnwys cysylltiadau rhyngwladol.

Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle i chi archwilio'r modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a thu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i'r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang i chi o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi.

Nod y radd hon yw ceisio rhoi dealltwriaeth ardderchog o wleidyddiaeth a llywodraeth i chi, gan roi i chi hefyd y sgiliau deallusol a chyfathrebu cysylltiedig a fydd o werth p'un a fyddwch yn gweithio i’r llywodraeth neu yn y sectorau preifat neu wirfoddol. Mae graddedigion Gwleidyddiaeth yn dilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o feysydd. Opsiwn pellach yw parhau i wneud astudiaeth ôl-raddedig.

Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 62 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £20,450 Dim
Blwyddyn dau £20,450 Dim
Blwyddyn tri £20,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Blwyddyn ragarweiniol yw’r flwyddyn gyntaf, a bydd dosbarth eich gradd yn cael ei seilio ar ganlyniadau blynyddoedd dau a thri.

Mae'r rhaglen yn cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol, sy'n eich galluogi i deilwra'ch gradd i adlewyrchu'ch diddordebau penodol. Nodwedd arbennig yw'r opsiwn o gael ysgrifennu traethawd hir yn eich blwyddyn olaf. Mae hyn yn uchel ei barch ymhlith cyflogwyr oherwydd mae'n dangos y gallwch chi ymgymryd ag ymchwil gwreiddiol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio modiwlau sy'n cyfateb i 120 credyd ym mlwyddyn un.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio modiwlau sy'n cyfateb i 120 credyd ym mlwyddyn dau.

Blwyddyn tri

Byddwch yn astudio modiwlau sy'n cyfateb i 120 credyd ym mlwyddyn tri.  Cewch gyfle i ysgrifennu traethawd hir sy'n eich galluogi i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymchwil.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
The History of Thought in International RelationsPL931120 Credydau
International Politics in the Nuclear AgePL932020 Credydau
Africa in International Thought and Practice: Colonialism, Anticolonialism, PostcolonialismPL932120 Credydau
Bombs, Bullets and Ballot-boxes: the Northern Ireland Conflict, 1969 to 1998PL932420 Credydau
Political Economy: Rationality in an Irrational World?PL932520 Credydau
Popular Culture and World PoliticsPL932820 Credydau
War and SocietyPL933120 Credydau
Cybersecurity: Diplomacy and Digital Rights in Global PoliticsPL933220 Credydau
A History of British IntelligencePL933320 Credydau
The Politics of Violence and KillingPL933520 Credydau
Justice, Legitimacy and International LawPL933620 Credydau
Latin American PoliticsPL933720 Credydau
Sex, Drugs and Public PolicyPL933820 Credydau
Visual Global PoliticsPL933920 Credydau
Politics in Practice: Work Placement ModulePL934020 Credydau
The Soul and the City: Plato's Political PhilosophyPL934120 Credydau
Crisis and Commitment in 20th Century Political ThoughtPL934320 Credydau
Be the Change: Governing without the StatePL934620 Credydau
The Politics and Governance of BrexitPL934720 Credydau
Representing DevelopmentPL934820 Credydau
The Politics of Populism in EuropePL935020 Credydau
Terrorism and (In)securityPL935120 Credydau
Radical Political TheoryPL935220 Credydau
Governing Global Public Health: Viral Pandemics, and the Global Drugs 'Epidemic'PL935320 Credydau
US Government and PoliticsPL937420 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 Credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 Credydau
Parliamentary Studies ModulePL938020 Credydau
International Relations DissertationPL938520 Credydau
Politics DissertationPL938620 Credydau
Elections in the UKPL938720 Credydau
Global International Organisation in World PoliticsPL939120 Credydau
Personality and PowerPL939220 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae darlithoedd yn cynnig strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau pwysig ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf berthnasol. Disgrifir y rhain ym meysydd llafur y cwrs.

Mae seminarau yn gyfle i ofyn cwestiynau a thrafod syniadau pwysig mewn amgylchedd grŵp bach. Eu pwrpas yw eich helpu i gyfuno'r wybodaeth a'r syniadau a gewch o ddarlithoedd a darlleniadau ac i archwilio materion yn feirniadol ac yn fanwl. Mae darlleniadau a chwestiynau penodedig yn sail ar gyfer trafod�� drwy gyfeirio eich sylw at agweddau perthnasol ar y pwnc ac at ffynonellau gwybodaeth amrywiol. Mae rhoi cyflwyniadau'n datblygu'ch gallu i gasglu, trefnu a chyfuno syniadau a gwybodaeth berthnasol ac i gyfleu'r rhain yn gryno ac yn rhesymegol. Mae trafodaethau dan law myfyrwyr a thiwtoriaid yn hogi sgiliau rhesymegol ac yn rhoi cyfle ichi ymarfer defnyddio dulliau, theorïau a chysyniadau gwahanol ar gyfer y pwnc dan sylw. Mae hefyd yn eich cyflwyno i wahanol ddehongliadau o ddigwyddiadau a syniadau gwleidyddol. Mae datrys problemau mewn grŵp yn helpu i ddatblygu sgiliau cydweithio.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Defnyddir cyngor blaenorol ac adborth ysgrifenedig (ar gyfer traethodau) i'ch helpu i ddeall beth sy'n ofynnol.

Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae seminarau wedi’u haddysgu yn y Gymraeg ar gael mewn modiwlau ym mhob un o Flynyddoedd 1, 2 a 3. Gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’u gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

  • Mae pob modiwl yn defnyddio gwefan Dysgu Canolog, sy'n Amgylchedd Dysgu Rhithwir ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy'r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunyddiau perthnasol ar gyfer y modiwl, megis deunyddiau amlgyfrwng, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig, grwpiau trafod, ac ati.
  • Mae gan Diwtoriaid Academaidd oriau swyddfa i fyfyrwyr gwrdd a thrafod unrhyw ymholiadau dysgu yn ogystal â'r cyfle mewn seminarau.
  • Mae gan yr Ysgol raglen eang o siaradwyr gwadd a darlithoedd gwadd ac anogir myfyrwyr i'w mynychu.
  • Bydd cyfle i chi fyfyrio ar eich cynnydd ac ar y sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy adran ar wefan Dysgu Canolog o'r enw Cynllunio Datblygiad Personol.
  • Ar ben hynny, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch cefnogi, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd gwych a chanolfannau adnoddau.

Sut caf fy asesu?

A range of assessment methods are used, including essays, examinations, presentations, portfolios and creative assignments.

Essays and examinations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments.

The optional final-year dissertation provides you with the opportunity to investigate a specific topic of interest to you in depth and to acquire detailed knowledge about a particular field of study, to use your initiative in the collection and presentation of material and present a clear, cogent argument and draw appropriate conclusions.

Feedback

We’ll provide you with frequent feedback on your work. This comes in a variety of formats including oral feedback during tutorials, personalised feedback on written work, feedback lectures, generic written feedback and feedback on tutorial performance.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Bydd y rhaglen radd hon yn caniatáu i chi ddatblygu nifer o sgiliau gwerthfawr. Bydd myfyrwyr sy'n cael dyfarniad gradd Gwleidyddiaeth Anrhydedd Sengl neu Gydanrhydedd yn gallu:

  • Casglu, trefnu a defnyddio tystiolaeth, data a gwybodaeth am amrywiaeth o ffynonellau;
  • Datblygu dadl resymol, cyfosod gwybodaeth berthnasol ac arfer barn feirniadol;
  • Myfyrio ar eu dysgu eu hunain a defnyddio adborth adeiladol;
  • Rheoli eu dysgu eu hunain yn hunanfeirniadol.
  • Cyfleu syniadau’n effeithiol ac yn rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Defnyddio technolegau cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer casglu a chyflwyno gwybodaeth;
  • Gweithio’n annibynnol, gan ddangos mentergarwch a’r gallu i drefnu eu hunain a rheoli amser;
  • Cydweithio ag eraill a chyfrannu at gyflawni nodau cyffredin.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2016/17, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae graddau mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn darparu sylfaen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd megis mewn cyrff anllywodraethol, datblygiad byd-eang, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth a chudd-wybodaeth mewn llywodraeth, newyddiaduraeth, ac ymchwil polisi, yn ogystal â bod yn sail ar gyfer pynciau mwy arbenigol sy’n cael eu haddysgu ar lefel ôl-raddedig.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Newyddiadurwr
  • Swyddog i’r Llywodraeth
  • Rheolwr
  • Cyhoeddwr
  • Cyfreithiwr
  • Banciwr
  • Cyfrifydd
  • Ymchwilydd Polisi
  • Gwas Sifil

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.