Ewch i’r prif gynnwys

Cymdeithaseg (BSc)

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Blwyddyn dramor neu ar leoliad

Ehangwch eich gorwelion; manteisiwch ar y cyfle i astudio dramor neu ar leoliad proffesiynol gyda blwyddyn ryngosod ddewisol.

star

Wedi’i arwain gan ymchwil

Datblygwch eich sgiliau ymchwil gyda chefnogaeth staff sy’n weithredol ym myd ymchwil; rhowch eich sgiliau ar waith mewn prosiect traethawd hir.

structure

Cymdeithaseg yn ei chyd-destun

Dysgwch am gymdeithaseg mewn amrywiaeth o gyd-destunau, fel globaleiddio, addysg, cyfryngau cymdeithasol, diwylliant a defnyddio, a chysylltiadau ethnig.

rosette

Rhagoriaeth ymchwil

Daeth ein hysgol yn 10fed yn y DU am ei hymchwil cymdeithaseg (REF 2021).

Mae cymdeithaseg yn ymwneud yn benodol ag astudio bywyd cymdeithasol fel y’i ceir mewn grwpiau, sefydliadau a chymdeithasau. Mae’n rhoi’r adnoddau hanfodol sydd eu hangen i ddeall pob agwedd ar ymddygiad cymdeithasol, o gymhlethdodau ryngweithiadau wyneb yn wyneb, sut mae gweithredoedd a chredoau unigol yn ffurfio ac yn cael eu llywio gan y byd o’u cwmpas, a sut mae grymoedd economaidd yn ffurfio ac yn cael eu llywio gan gymdeithas fyd-eang.

Caiff Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd ei nodweddu gan ymchwil drwyadl sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar dair brif elfen: sylfaen eang mewn damcaniaethau a chysyniadau cymdeithasegol craidd; dealltwriaeth gynhwysfawr o’r dulliau ymchwil sydd eu hangen i ddeall cysylltiadau cymdeithasol; ac ystod o fodiwlau arbenigol sy’n mynd i’r afael â phroblemau a materion sydd ar flaen y gad mewn trafodaethau academaidd.

Maes pwnc: Y Gwyddorau Cymdeithasol

  • academic-schoolYsgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4208
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid bod gennych:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,950 Dim
Blwyddyn dau £22,950 Dim
Blwyddyn tri £22,950 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai gwerslyfrau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol.

Os oes gennych liniadur, bydd gennych yr opsiwn o brynu meddalwedd am brisiau gostyngedig.

Bydd myfyrwyr sy'n dewis astudio dramor am semester yn eu hail flwyddyn yn parhau i dalu ffioedd dysgu i Brifysgol Caerdydd a bydd angen iddynt hefyd dalu am gostau teithio, llety a chostau cysylltiedig eraill.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnoch i astudio ar y rhaglen hon. Byddai defnydd o liniadur yn fanteisiol gan fod llawer o'r gwaith darllen ar gael yn electronig a chaiff y rhan fwyaf o'r asesiadau eu paratoi ar feddalwedd prosesu geiriau safonol.

Beth fydd y Brifysgol yn ei ddarparu:

Cyfrifiaduron ar rwydwaith gyda gofod priodol i ffeiliau a'r holl feddalwedd angenrheidiol. Mynediad at ddarllen hanfodol a chefndir ar gyfer pob modiwl ac amrywiaeth eang o gyfnodolion ac adnoddau ar-lein eraill. Byddwch hefyd yn cael defnyddio pecynnau meddalwedd arbenigol fel bo'n briodol. Bydd holl ddogfennau'r cwrs ar gael ar-lein (drwy'r VLE) a chaiff copïau caled o ddogfennau hanfodol eu darparu ar gais.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd y flwyddyn, gan gynnwys traethawd hir 40 credyd ym mlwyddyn tri. Mae pob blwyddyn yn cynnwys nifer o fodiwlau dewisol sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch sgiliau. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio pum modiwl craidd 20-credyd ym Mlwyddyn Un. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno i syniadau ac ymchwil allweddol mewn Cymdeithaseg ac i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi yn y brifysgol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis un modiwl 20-credyd ychwanegol o'r rhai sydd ar gael yn yr Ysgol i gyflawni'r 120 o gredydau sydd eu hangen arnoch i gwblhau Blwyddyn Un.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cyfarfod â'ch tiwtor personol fydd yn eich helpu i bontio i addysg uwch a'ch cefnogi drwy gydol eich cyfnod gyda ni.

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau byddwch yn astudio tri modiwl craidd 20-credyd. Bydd y modiwlau craidd hyn yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau cyfoes, theori gymdeithasol a dulliau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn dewis tri modiwl dewisol 20-credyd o ddetholiad ar draws y gwyddorau cymdeithasol. Mae modiwl lleoliad sy’n arwain at gredydau hefyd ar gael. Bydd eich tiwtor personol ar gael i'ch helpu chi i ddewis modiwlau a fydd yn cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn hon byddwch hefyd yn cael cyfle i ystyried trosglwyddo i raglen pedair blynedd, gan dreulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol neu’n astudio dramor, gan ddychwelyd i Gaerdydd i gwblhau eich astudiaethau yn y bedwaredd flwyddyn.

Blwyddyn tri

Bydd eich blwyddyn olaf yn cryfhau eich gwybodaeth ac yn gadael i chi barhau i archwilio pynciau sy'n cyd-fynd orau gyda'ch dyheadau gyrfa neu diddordebau.

Hefyd, bydd gennych chi'r opsiwn o ymgymryd â phrosiect traethawd hir 40-credyd, gan gynllunio, cynnal a chofnodi prosiect ymchwil graddfa fach dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, byddwch yn dysgu gan ysgolheigion sy'n dylanwadu ar ddyfodol eu meysydd. Mae ein cyrsiau yn adlewyrchu syniadau craidd eu disgyblaethau a hefyd ymchwil, theorïau a dadleuon cyfoes.

Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, astudio annibynnol a dysgu hunangyfeiriedig sy'n tynnu defnydd o adnoddau ar-lein, gwaith unigol a thasgau grŵp. Yn gyffredinol, mae darlithoedd yn rhoi trosolwg o'r pwnc perthnasol, gan gyflwyno cysyniadau neu ymchwil allweddol, ac amlygu materion neu ddadleuon cyfoes. Mae nifer cynyddol o ddarlithoedd yn cael eu recordio erbyn hyn. Yn wahanol i ddarlithoedd, mae seminarau yn rhoi cyfle i chi drafod darlleniadau, ymchwil neu bynciau penodol yn fanwl. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfnerthu eich dealltwriaeth a chael adborth ar eich dysgu unigol. Mae seminarau hefyd yn eich galluogi i hogi'ch sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a chydweithio wrth i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a thasgau eraill.

Wrth i wyddor gymdeithasol ddatblygu mewn ymateb i'r byd cymdeithasol, bydd ein cwricwlwm yn newid hefyd. Mae gan ein myfyrwyr rôl bwysig yn y datblygiadau hyn, gyda'r Panel Myfyrwyr-Staff yn cael eu holi am newidiadau pwysig a phob myfyriwr yn cwblhau gwerthusiadau o fodiwlau ac arolwg myfyrwyr blynyddol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Mae'r tiwtoriaid ar gael i drafod cynnydd a darparu cyngor ac arweiniad ar eich astudiaethau academaidd. Mae Hyb y Myfyrwyr, sydd yn Adeilad Morgannwg, hefyd ar agor bob dydd a gall roi cyngor ar sut i gael mynediad at wasanaethau prifysgol.

Mae pob modiwl o fewn y cwrs yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd (VLE) - Bwrdd Du - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth sy'n ymwneud â thasgau asesu gan gynnwys, er enghraifft, meini prawf asesu, dolenni i gyn-bapurau. (pan fo hynny'n berthnasol), a chanllawiau ar gyfer cyflwyno asesiadau.

Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau; bydd goruchwylydd fydd yn cwrdd â chi yn rheolaidd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer y traethawd hir.

Sut caf fy asesu?

All modules are assessed by at least two different assessment tasks. Typical assessment formats include individual and group assignments, coursework, presentations and exams. We take care to ensure that all degree schemes include a range of different assessment types and that deadlines are spread throughout the academic year.

Feedback is provided on assessments and other learning in order to provide students with the opportunity to reflect on their current or recent level of attainment.  It can be provided individually or to groups.  It can take many forms.  It is responsive to the developmental expectations of our programmes and disciplines.

The range of feedback includes one-to-one individual feedback; generic feedback; peer feedback; informal feedback; self-evaluation to submit along with the assessment.

Academic staff and peers can use a variety of methods to deliver these types of feedback: written feedback; annotation of a text; oral feedback; seminar discussion.

Formative Feedback

Formative feedback is feedback that does not contribute to progression or degree classification decisions.  The goal of formative feedback is to improve your understanding and learning before you complete your summative assessment. More specifically, formative feedback helps you to:

  • identify your strengths and weaknesses and target areas that need work;
  • help staff to support you and address the problems identified with targeted strategies for improvement.

Formative feedback is routinely provided in seminars as seminar work often contributes to the module assessment. In addition, all modules include a specific formative assessment that is designed to help you prepare for the subsequent summative assessment.

Summative Feedback

Summative feedback is feedback that contributes to progression or degree classification decisions.  The goal of summative assessment is to indicate how well you have succeeded in meeting the intended learning outcomes of a Module and will enable you to identify action required (feed forward) in order to improve in future assessments.

All feedback on coursework is provided electronically to ensure it is readily accessible and easy to read. Verbal feedback is provided for presentations but written feedback will also be provided where the presentation makes a significant contribution to the module mark.

Feedback on exams is usually provided as written feedback for the whole class but you are also able to discuss your individual exam paper and the mark it was awarded with the module convenor.

All marks and feedback are made with reference to the module specific marking criteria.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth o'r syniadau, damcaniaethau a chysyniadau allweddol a ddefnyddir mewn cymdeithaseg a'u perthynas â themâu, damcaniaethau a chanfyddiadau disgyblaethau cysylltiedig.
  • Dealltwriaeth o'r prif ddulliau ymchwil a ddefnyddir yn y gwyddorau cymdeithasol a'r materion athronyddol sy'n llywio eu cymhwysiad a'u defnydd mewn lleoliadau ymchwil.
  • Dealltwriaeth feirniadol a manwl o ymchwil a theori mewn is-feysydd dethol cymdeithaseg a pherthnasedd y gwaith hwn i ddadleuon, materion neu broblemau cymdeithasol cyfoes.
  • Dealltwriaeth o rôl tystiolaeth empeiraidd wrth greu a chyfyngu ar theori, a sut mae theori yn arwain dulliau casglu a dehongli data empirig.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Cynnal gwerthusiad beirniadol o wybodaeth, ysgolheictod ac ymchwil bresennol mewn cymdeithaseg a defnyddio'r wybodaeth hon i ddod i farn gytbwys ynghylch rhinweddau a pherthnasedd honiadau cystadleuol a safbwyntiau damcaniaethol.
  • Cynnal gwerthusiad beirniadol o'r defnydd o dystiolaeth mewn disgyblaethau gwyddorau cymdeithasol a dadleuon polisi, gan dynnu ar hyfforddiant dulliau eang a gwybodaeth bwnc-benodol
  • Defnyddio gwybodaeth a sgiliau i ddeall ac egluro ffenomenau cymdeithasol sydd o ddiddordeb i gymdeithaseg a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon i gwestiynau newydd neu newydd.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dylunio a defnyddio ystod o offerynnau casglu data sydd eu hangen i archwilio a deall y byd cymdeithasol
  • Gwerthuso, cydosod a dehongli data sylfaenol ac eilaidd a gynhyrchir drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau ac offer a meddalwedd arbenigol lle bo angen
  • Gweithio ar y cyd ac ar eich pen eich hun ar brosiectau sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i ddatrys problemau a gwreiddioldeb wrth feddwl drwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd
  • Sgiliau academaidd a phersonol fel meddwl beirniadol, ysgrifennu, cyflwyniadau llafar, datrys problemau, gwaith grŵp, rheoli amser, a defnyddio technoleg gwybodaeth.
  • Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau llafar, posteri a thraethawd hir
  • Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau llafar, posteri a thraethodau hir

Beth yw deilliannau dysgu'r cwrs/rhaglen?

The Learning outcomes for this Programme describe what you will be able to do as a result of your study at Cardiff University. They will help you to understand what is expected of you and academic staff will focus on precisely what they want you to achieve within each Module. 

Knowledge & Understanding:

Students completing the Programme will demonstrate:

  • An understanding of the key ideas, theories and concepts used in sociology and their relationship to themes, theories and findings from cognate disciplines.
  • An understanding of the main research methods used within the social sciences and the philosophical issues that inform their application and use in research settings.
  • A critical and in-depth understanding of research and theory in selected sub-fields of sociology and the relevance of this work to contemporary social debates, issues or problems.
  • An understanding of the role empirical evidence plays in the creation and constraint of theory, and how theory guides the collection and interpretation of empirical data.

Intellectual Skills:

Students completing the Programme will be able to:

  • Critically evaluate existing knowledge, scholarship and research in sociology and use this knowledge to reach a balanced judgement about the merits and relevance of competing claims and theoretical perspectives.
  • Critically evaluate the use of evidence in social science disciplines and policy debates, drawing on both broad methods training and subject specific knowledge
  • Utilise knowledge and skills to understand and explain social phenomena of interest to sociology and apply this understanding to new or novel questions.

Professional Practical Skills:

Students completing the Programme will be able to:

  • Design and use a range of data collection instruments needed to explore and understand the social world
  • Critically evaluate, synthesise and interpret primary and secondary data generated using different methods, using specialist software where necessary
  • Work both collaboratively and individually on theoretically informed and empirically-grounded projects that draw on appropriate and relevant research evidence

Transferable/Key Skills:

Students completing the Programme will demonstrate:

  • The capacity for problem-solving and originality in thinking by using knowledge and skills to tackle familiar and unfamiliar problems
  • Academic and personal skills such as critical thinking, writing, oral presentations, problem solving, group work, time-management, and the use of information technology.
  • The ability to communicate complex information in a variety of formats including reports, oral presentations, posters and dissertation

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau proffesiynol, gan eich annog i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r brifysgol o'r diwrnod cyntaf. Mae ein rhaglenni gradd yn cynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi ar raddio.

Mae troi damcaniaeth yn gamau ymarferol a darparu profiad o fyd gwaith yn agweddau pwysig ar ein cynlluniau gradd ac yn helpu i baratoi ein graddedigion at fywyd ar ôl addysg uwch.

Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyrfaol pwrpasol i'n myfyrwyr ar bob cam astudio ac ar ôl iddynt raddio. Mae ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn darparu ystod wedi'i theilwra o ddigwyddiadau gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein graddedigion wedi dilyn amrywiaeth o yrfaoedd mewn cyfiawnder troseddol, addysg a chynllunio'r cwricwlwm, ymchwil, plismona, proffesiynau cyfreithiol, gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gweinyddu a rheoli.

Lleoliadau

Mae nifer o gyfleoedd i fynd ar leoliad neu astudio dramor yn rhan o'r Rhaglen hon. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddewis modiwl dewisol sy'n cynnwys lleoliad gwaith ym mlwyddyn dau. Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr yr opsiwn o astudio dramor neu dreulio blwyddyn ar leoliad ym mlwyddyn 3, gan ymestyn eu hastudiaethau i raglen pedair blynedd. Bydd y broses ymgeisio ar gyfer treulio blwyddyn dramor neu ar leoliad yn digwydd ar ddechrau ail flwyddyn eich astudiaethau. Gall y cyfleoedd hyn fod yn amodol Gall y cyfleoedd hyn fod yn amodol yn rhannol ar gyflawni rhai canlyniadau academaidd gofynnol mewn modiwlau eraill.

Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Reolwr Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodol sy'n gallu cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau swydd a thechnegau cyfweliad ar gael hefyd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.