Gwyddor Gymdeithasol (BSc)
- Maes pwnc: Y Gwyddorau Cymdeithasol
- Côd UCAS: L301
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Blwyddyn dramor neu ar leoliad
Ehangwch eich gorwelion; manteisiwch ar y cyfle i astudio dramor neu ar leoliad proffesiynol gyda blwyddyn ryngosod ddewisol.
Wedi’i arwain gan ymchwil
Datblygwch eich sgiliau ymchwil gyda chefnogaeth staff sy’n weithredol ym myd ymchwil; rhowch eich sgiliau ar waith mewn prosiect traethawd hir.
Sbectrwm y Gwyddorau Cymdeithasol
Astudiwch ar raglen sy’n unigryw yn y DU, ac yn integreiddio seicoleg â'r gwyddorau cymdeithasol a dulliau ymchwil.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Ewch ar leoliad gwaith gyda chymorth ein rheolwr Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodol.
Mae’r rhaglen hon yn fodd i chi astudio ar draws holl faes y gwyddorau cymdeithasol Troseddeg, Addysg, Aeicoleg, Cymdeithaseg, Dadansoddeg Gymdeithasol, Polisi Cymdeithasol a meddwl y tu allan i ffiniau confensiynol y disgyblaethau.
Mae’n gyfle gwych i astudio gradd ryngddisgyblaethol, ac yn rhoi’r cyfle i chi gyfuno dulliau a damcaniaethau gwahanol feysydd i ddysgu a deall rhagor.
Bydd y rhaglen hon yn eich cyflwyno i amrywiaeth o safbwyntiau a dulliau ym maes y gwyddorau cymdeithasol. Gallwch adeiladu ar y sylfaen hon drwy ddewis modiwlau sy’n adlewyrchu eich diddordebau academaidd a gyrfaol eich hun.
O ganlyniad i hyblygrwydd unigryw’r rhaglen hon, gallwch gael blas ar sawl pwnc ar draws yr amrywiaeth helaeth o ddewisiadau sydd ar gael ar y llaw arall, cewch chi drefnu’ch astudiaethau yn ôl themâu i ystyried yr un pwnc megis rhywedd, ethnigrwydd ac anghydraddoldeb o sawl safbwynt.
Maes pwnc: Y Gwyddorau Cymdeithasol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
BBB-BCC
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
31-29 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai gwerslyfrau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol.
Os oes gennych liniadur, bydd gennych yr opsiwn o brynu meddalwedd am brisiau gostyngedig.
Bydd myfyrwyr sy'n dewis astudio dramor am semester yn eu hail flwyddyn yn parhau i dalu ffioedd dysgu i Brifysgol Caerdydd a bydd angen iddynt hefyd dalu am gostau teithio, llety a chostau cysylltiedig eraill.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnoch i astudio ar y rhaglen hon. Byddai defnydd o liniadur yn fanteisiol gan fod llawer o'r gwaith darllen ar gael yn electronig a chaiff y rhan fwyaf o'r asesiadau eu paratoi ar feddalwedd prosesu geiriau safonol.
Beth fydd y Brifysgol yn ei ddarparu:
Cyfrifiaduron ar rwydwaith gyda gofod priodol i ffeiliau a'r holl feddalwedd angenrheidiol. Mynediad at ddarllen hanfodol a chefndir ar gyfer pob modiwl ac amrywiaeth eang o gyfnodolion ac adnoddau ar-lein eraill. Byddwch hefyd yn cael defnyddio pecynnau meddalwedd arbenigol fel bo'n briodol. Bydd holl ddogfennau'r cwrs ar gael ar-lein (drwy'r VLE) a chaiff copïau caled o ddogfennau hanfodol eu darparu ar gais.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd y flwyddyn, gan gynnwys traethawd hir 40 credyd ym mlwyddyn tri. Mae pob blwyddyn yn cynnwys nifer o fodiwlau dewisol sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch sgiliau. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio pum modiwl craidd 20-credyd ym Mlwyddyn Un. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno i syniadau allweddol ac ymchwil mewn Gwyddor Gymdeithasol ac i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi yn y brifysgol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis un modiwl 20-credyd ychwanegol o'r rhai sydd ar gael yn yr Ysgol i gyflawni'r 120 o gredydau sydd eu hangen arnoch i gwblhau Blwyddyn Un.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cyfarfod â'ch tiwtor personol fydd yn eich helpu i bontio i addysg uwch a'ch cefnogi drwy gydol eich cyfnod gyda ni.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Y gwyddorau cymdeithasol a materion cymdeithasol | SI0275 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol | SI0280 | 20 Credydau |
Syniadau allweddol yn y gwyddorau cymdeithasol | SI0281 | 20 Credydau |
Dod yn Wyddonydd Cymdeithasol | SI0420 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Addysg | SI0279 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol a Chyhoeddus | SI0282 | 20 Credydau |
Sylfeini Troseddeg Gyfoes | SI0284 | 20 Credydau |
Celwyddau, Celwyddau Damned, ac Ystadegau | SI0286 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Gymdeithaseg | SI0291 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Seicoleg ar gyfer y Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol | SI0800 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn astudio un modiwl craidd 20-credyd mewn dulliau ymchwil cymdeithasol ac yn dewis eich pum modiwl 20-credyd arall o ddetholiad ar draws y gwyddorau cymdeithasol. Mae modiwl lleoliad sy’n arwain at gredydau hefyd ar gael.
Byddwch yn adeiladu ar eich dealltwriaeth o ddulliau a damcaniaethau craidd yn y gwyddorau cymdeithasol a chewch ddewis defnyddio eich dewisiadau modiwl i greu llwybr arbenigol fydd yn datblygu'n ganolbwynt eich astudiaethau. Os yw'n well gennych, gallwch ddewis cyfuniad mwy rhyngddisgyblaethol. Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu i ddewis modiwlau a fydd yn cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.
Yn ystod y flwyddyn hon byddwch hefyd yn cael cyfle i ystyried trosglwyddo i raglen pedair blynedd, gan dreulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol neu’n astudio dramor, gan ddychwelyd i Gaerdydd i gwblhau eich astudiaethau yn y bedwaredd flwyddyn.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dulliau Ymchwil Cymdeithasol | SI0297 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Bydd eich blwyddyn olaf yn cryfhau eich gwybodaeth ac yn gadael i chi barhau i archwilio pynciau sy'n cyd-fynd orau gyda'ch dyheadau gyrfa. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect traethawd hir 40-credyd, gan gynllunio, cynnal a chofnodi prosiect ymchwil graddfa fach dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Gellir cymryd yr 80 credyd sy'n weddill o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol ar draws yr Ysgol.
Wrth ddewis eich modiwlau blwyddyn tri, dylech ystyried beth fyddai'n fwyaf priodol ar sail eich dewisiadau ym mlwyddyn dau. Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu gyda hyn.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, byddwch yn dysgu gan ysgolheigion sy'n dylanwadu ar ddyfodol eu meysydd. Mae ein cyrsiau yn adlewyrchu syniadau craidd eu disgyblaethau a hefyd ymchwil, theorïau a dadleuon cyfoes.
Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, astudio annibynnol a dysgu hunangyfeiriedig sy'n tynnu defnydd o adnoddau ar-lein, gwaith unigol a thasgau grŵp. Yn gyffredinol, mae darlithoedd yn rhoi trosolwg o'r pwnc perthnasol, gan gyflwyno cysyniadau neu ymchwil allweddol, ac amlygu materion neu ddadleuon cyfoes. Mae nifer cynyddol o ddarlithoedd yn cael eu recordio erbyn hyn. Yn wahanol i ddarlithoedd, mae seminarau yn rhoi cyfle i chi drafod darlleniadau, ymchwil neu bynciau penodol yn fanwl. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfnerthu eich dealltwriaeth a chael adborth ar eich dysgu unigol. Mae seminarau hefyd yn eich galluogi i hogi'ch sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a chydweithio wrth i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a thasgau eraill.
Wrth i wyddor gymdeithasol ddatblygu mewn ymateb i'r byd cymdeithasol, bydd ein cwricwlwm yn newid hefyd. Mae gan ein myfyrwyr rôl bwysig yn y datblygiadau hyn, gyda'r Panel Myfyrwyr-Staff yn cael eu holi am newidiadau pwysig a phob myfyriwr yn cwblhau gwerthusiadau o fodiwlau ac arolwg myfyrwyr blynyddol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Mae'r tiwtoriaid ar gael i drafod cynnydd a darparu cyngor ac arweiniad ar eich astudiaethau academaidd. Mae Hyb y Myfyrwyr, sydd yn Adeilad Morgannwg, hefyd ar agor bob dydd a gall roi cyngor ar sut i gael mynediad at wasanaethau prifysgol.
Mae pob modiwl o fewn y cwrs yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd (VLE) - Bwrdd Du - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth sy'n ymwneud â thasgau asesu gan gynnwys, er enghraifft, meini prawf asesu, dolenni i gyn-bapurau. (pan fo hynny'n berthnasol), a chanllawiau ar gyfer cyflwyno asesiadau.
Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau; bydd goruchwylydd fydd yn cwrdd â chi yn rheolaidd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer y traethawd hir.
Sut caf fy asesu?
All modules are assessed by at least two different assessment tasks. Typical assessment formats include individual and group assignments, coursework, presentations and exams. We take care to ensure that all degree schemes include a range of different assessment types and that deadlines are spread throughout the academic year.
Feedback is provided on assessments and other learning in order to provide students with the opportunity to reflect on their current or recent level of attainment. It can be provided individually or to groups. It can take many forms. It is responsive to the developmental expectations of our programmes and disciplines.
The range of feedback includes one-to-one individual feedback; generic feedback; peer feedback; informal feedback; self-evaluation to submit along with the assessment.
Academic staff and peers can use a variety of methods to deliver these types of feedback: written feedback; annotation of a text; oral feedback; seminar discussion.
Formative Feedback
Formative feedback is feedback that does not contribute to progression or degree classification decisions. The goal of formative feedback is to improve your understanding and learning before you complete your summative assessment. More specifically, formative feedback helps you to:
- identify your strengths and weaknesses and target areas that need work;
- help staff to support you and address the problems identified with targeted strategies for improvement.
Formative feedback is routinely provided in seminars as seminar work often contributes to the module assessment. In addition, all modules include a specific formative assessment that is designed to help you prepare for the subsequent summative assessment.
Summative Feedback
Summative feedback is feedback that contributes to progression or degree classification decisions. The goal of summative assessment is to indicate how well you have succeeded in meeting the intended learning outcomes of a Module and will enable you to identify action required (feed forward) in order to improve in future assessments.
All feedback on coursework is provided electronically to ensure it is readily accessible and easy to read. Verbal feedback is provided for presentations but written feedback will also be provided where the presentation makes a significant contribution to the module mark.
Feedback on exams is usually provided as written feedback for the whole class but you are also able to discuss your individual exam paper and the mark it was awarded with the module convenor.
All marks and feedback are made with reference to the module specific marking criteria.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dealltwriaeth o'r syniadau, damcaniaethau a chysyniadau allweddol a ddefnyddir mewn gwyddorau cymdeithasol a'u perthynas â themâu, damcaniaethau a chanfyddiadau disgyblaethau cysylltiedig.
- Dealltwriaeth o'r prif ddulliau ymchwil a ddefnyddir yn y gwyddorau cymdeithasol a'r materion athronyddol sy'n llywio eu cymhwysiad a'u defnydd mewn lleoliadau ymchwil.
- Dealltwriaeth feirniadol a manwl o ymchwil a theori mewn is-feysydd dethol o wyddorau cymdeithasol a pherthnasedd y gwaith hwn i ddadleuon, materion neu broblemau cymdeithasol cyfoes.
- Dealltwriaeth o rôl tystiolaeth empeiraidd wrth greu a chyfyngu ar theori, a sut mae theori yn arwain dulliau casglu a dehongli data empirig.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Cynnal gwerthusiad beirniadol o wybodaeth, ysgolheictod ac ymchwil bresennol mewn gwyddorau cymdeithasol a defnyddio'r wybodaeth hon i ddod i farn gytbwys ynghylch rhinweddau a pherthnasedd hawliadau cystadleuol a safbwyntiau damcaniaethol.
- Cynnal gwerthusiad beirniadol o'r defnydd o dystiolaeth mewn disgyblaethau gwyddorau cymdeithasol a dadleuon polisi, gan dynnu ar hyfforddiant dulliau eang a gwybodaeth bwnc-benodol
- Defnyddio gwybodaeth a sgiliau i ddeall ac egluro ffenomenau cymdeithasol sydd o ddiddordeb i wyddorau cymdeithasol a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon i gwestiynau newydd neu newydd.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dylunio a defnyddio ystod o offerynnau casglu data sydd eu hangen i archwilio a deall y byd cymdeithasol
- Gwerthuso, cydosod a dehongli data sylfaenol ac eilaidd a gynhyrchir drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau ac offer a meddalwedd arbenigol lle bo angen
- Gweithio ar y cyd ac ar eich pen eich hun ar brosiectau sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu i ddatrys problemau a gwreiddioldeb wrth feddwl drwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd
- Sgiliau academaidd a phersonol fel meddwl beirniadol, ysgrifennu, cyflwyniadau llafar, datrys problemau, gwaith grŵp, rheoli amser, a defnyddio technoleg gwybodaeth.
- Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau llafar, posteri a thraethawd hir
- Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau llafar, posteri a thraethodau hir
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau proffesiynol, gan eich annog i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r brifysgol o'r diwrnod cyntaf. Mae ein rhaglenni gradd yn cynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi ar raddio.
Mae troi damcaniaeth yn gamau ymarferol a darparu profiad o fyd gwaith yn agweddau pwysig ar ein cynlluniau gradd ac yn helpu i baratoi ein graddedigion at fywyd ar ôl addysg uwch.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyrfaol pwrpasol i'n myfyrwyr ar bob cam astudio ac ar ôl iddynt raddio. Mae ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn darparu ystod wedi'i theilwra o ddigwyddiadau gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein graddedigion wedi dilyn amrywiaeth o yrfaoedd mewn cyfiawnder troseddol, addysg a chynllunio'r cwricwlwm, ymchwil, plismona, proffesiynau cyfreithiol, gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gweinyddu a rheoli.
Gyrfaoedd graddedigion
- Social worker
- Business management
- Police officer
- Teacher
- Human resources
- Therapist
Lleoliadau
Mae nifer o gyfleoedd i fynd ar leoliad neu astudio dramor yn rhan o'r Rhaglen hon. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddewis modiwl dewisol sy'n cynnwys lleoliad gwaith ym mlwyddyn dau. Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr yr opsiwn o astudio dramor neu dreulio blwyddyn ar leoliad ym mlwyddyn 3, gan ymestyn eu hastudiaethau i raglen pedair blynedd. Bydd y broses ymgeisio ar gyfer treulio blwyddyn dramor neu ar leoliad yn digwydd ar ddechrau ail flwyddyn eich astudiaethau. Gall y cyfleoedd hyn fod yn amodol Gall y cyfleoedd hyn fod yn amodol yn rhannol ar gyflawni rhai canlyniadau academaidd gofynnol mewn modiwlau eraill.
Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Reolwr Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodol sy'n gallu cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau swydd a thechnegau cyfweliad ar gael hefyd.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.