Ysgoloriaethau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Dyma'r ysgoloriaethau sydd ar gael i chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ysgoloriaeth Betty Campbell
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer eleni wedi cau
Swm: hyd at £1,000
Mae’r ysgoloriaeth yn agored i bob myfyriwr sy’n astudio 20 credyd neu ragor drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae croeso i bob myfyriwr wneud cais ac rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y myfyrwyr canlynol:
- Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
- o gefndir incwm isel
- cyntaf yn y teulu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl
Mwy o wybodaeth am Ysgoloriaeth Betty Campbell.
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Gallwch wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol pan fyddwch yn ymuno â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ar wefan Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gellir dod o hyd i beth wmbredd o wybodaeth gan gynnwys manylion ar sut i ymuno, y dyddiadau cau ar gyfer pob ysgoloriaeth a chanllawiau ar sut i ymgeisio.
Prif Ysgoloriaeth
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer eleni wedi cau
Swm: £3,000 dros 3 blynedd
Gallwch ymgeisio os ydych yn astudio o leiaf 66% o'ch cwrs (80 credyd) bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ysgoloriaeth Cymhelliant
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer eleni wedi cau
Swm: £1,500 dros 3 blynedd (£500 y flwyddyn)
Gallwch ymgeisio os ydych yn astudio o leiaf 33% o'ch cwrs (80 credyd) bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ysgoloriaeth Meddygaeth
Mae'r dyddiad cau bellach wedi bod ar gyfer ceisiadau 2024
Swm: £2,500 dros 5 mlynedd (£500 y flwyddyn)
Gallwch ymgeisio os ydych yn:
- bwriadu ymgeisio am gyrsiau Meddygaeth mewn prifysgol yng Nghymru
- astudio o leiaf 33% o'ch cwrs (neu 40 credyd y flwyddyn) drwy gyfrwng y Gymraeg
Ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ymuno, dod o hyd i ddyddiadau cau ar gyfer pob ysgoloriaeth ac ymgeisio.
Ysgoloriaeth Astudio'n Gymraeg Prifysgol Caerdydd
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer eleni wedi cau
Swm: hyd at £500 y flwyddyn
Mae ysgoloriaeth ar gael gan y brifysgol os ydych yn dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am bob 20 credyd rydych chi'n eu hastudio yn Gymraeg bob blwyddyn, byddwch yn derbyn £250, ac am bob 40 credyd rydych chi'n eu hastudio yn Gymraeg bob blwyddyn, byddwch yn derbyn £500. Y mwyaf y gallech ei gael yw £500.
I wneud cais am yr ysgoloriaeth hon, cwblhewch y ffurflen gais Astudio yn Gymraeg a'i hanfon at Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y brifysgol, Elliw Iwan.
Nodyn: Os ydych eisoes yn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg, Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg, neu Ysgoloriaeth Meddygaeth/Meddygon Yfory, nid ydych yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Astudio'n Gymraeg y brifysgol