Ewch i’r prif gynnwys

Hanes (BA)

  • Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
  • Côd UCAS: V100
  • Derbyniad nesaf: Medi 2023
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Astudiwch gydag angerdd

Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Sofietaidd a Japan.

star

Traethawd hir gyda gwahaniaeth

Dilynwch bwnc sy'n sbarduno eich chwilfrydedd; cewch wella sgiliau niferus gyda chyflwyniad ac elfen ysgrifenedig.

book

Dysgu gan arbenigwyr

Cewch elwa o addysgu a chefnogaeth gan staff ymchwil-weithredol.

briefcase

Gweithdai gyrfaoedd rhyngweithiol

Cyfle i hogi eich sgiliau gyrfa a chael cipolwg gwerthfawr ar rolau a sectorau sy'n addas i chi.

Mae ein cyrsiau'n cwmpasu hanes cymdeithasau mewn rhannau amrywiol o'r byd, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, yr Almaen, Rwsia, Dwyrain Ewrop, Ffrainc, Prydain, Cymru, India a Tsieina.

O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, rydym yn eich annog i 'wneud hanes' drosoch eich hunan, gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, i asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Cewch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau sy'n adlewyrchu syniadau diweddaraf y ddisgyblaeth, wedi'u haddysgu gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.

Rydym wedi cael enw da ers tro o ran ein haddysgu, ymchwil a hyd a lled daearyddol a chronolegol yr Hanes yr ydym yn ei astudio. Ond yn fwy na hyn ��� rydym yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol.

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried BTECs mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddolwr perthnasol. 

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2023. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2023 i ddangos y newidiadau.

Mae BA Hanes yn rhaglen gradd tair blynedd. Byddwch yn astudio modiwlau gwerth 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae’n modiwlau blwyddyn o hyd yn gynnyrch dylunio trwyadl ac ail-werthuso parhaus. Mae staff academaidd, myfyrwyr ac arbenigwyr allanol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cynlluniau gradd yn bodloni safonau ansawdd yn eu disgyblaethau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Ym Mlwyddyn Un byddwch yn archwilio themâu a syniadau hanesyddol allweddol nad ydych efallai wedi dod ar eu traws wrth wneud Safon Uwch drwy fodiwlau dewisol ar Hanes canoloesol, modern cynnar a modern, yn ogystal â'r cyfle i ddilyn modiwlau mewn Archaeoleg, Hanes yr Henfyd neu Grefydd sy'n archwilio cyfnodau hirach. Byddwch chi’n astudio ar gyfer 120 credyd i gyd.

Mae’r holl fyfyrwyr Hanes anrhydedd sengl blwyddyn gyntaf yn astudio dau fodiwl gorfodol sy’n cyflwyno fframweithiau gwahanol i chi sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r nifer o ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra’n darparu hyfforddiant i chi yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig. Addysgir y modiwlau craidd hyn drwy ystod o astudiaethau achos o wahanol gyfnodau cronolegol, ac fe'u cynlluniwyd i'ch helpu i ddeall pam mae haneswyr yn anghytuno yn ogystal â natur y dystiolaeth a ddefnyddir ganddynt.

Blwyddyn dau

Rydych yn astudio ar gyfer 120 credyd gan gynnwys dau fodiwl gorfodol, ac mae un ohonynt yn cynnwys cyfnod o astudio annibynnol - a addysgir drwy oruchwyliaeth unigol gyda staff academaidd.

Gallwch ddewis o ystod eang o fodiwlau thematig ac arbenigol sy'n archwilio pynciau a gwledydd yn fanylach o'r diplomyddiaeth ganoloesol neu heresi, i gyrsiau ar ryfel cartref Lloegr, hanes yr Unol Daleithiau neu Ewrop yr ugeinfed ganrif. Yn eich ail flwyddyn, mae’r pwyslais yn symud ymhellach tuag at gwaith seminar, gyda goruchwyliaeth unigol ar gyfer traethodau estynedig.

Mae modiwl craidd Dulliau Trafod Hanes yn cynnwys darlithoedd wythnosol wedi'u hategu gan seminarau bob pythefnos mewn grwpiau bach, tra bod yr ail yn cael ei addysgu drwy oruchwyliaeth unigol gyda staff academaidd.

Blwyddyn tri

Rydych yn astudio 120 o gredydau, ac yn parhau i ddatblygu ac ymestyn eich sgiliau a'ch gwybodaeth hanesyddol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ysgrifennu traethawd hir sy'n gysylltiedig â’r maes sydd i o ddiddordeb i chi, a chewch eich cefnogi gan oruchwyliaeth unigol gyda chynghorydd academaidd. Mae'r traethawd hir yn gyfle ichi ennill profiad ymchwil a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ymchwilio i broblem hanesyddol a chyflwyno eich canfyddiadau mewn astudiaeth gydlynol, ddadansoddol a beirniadol, sef y sgiliau fydd yn eich galluogi i weithio’n broffesiynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
DissertationHS180130 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn eich galluogi chi i ddatblygu mewn amgylchedd dysgu o ansawdd uchel, a gefnogir gan ddull o ennill gwybodaeth a sgiliau lle mae'r ffocws ar y myfyriwr.

Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, teithiau maes a sesiynau tiwtorial un i un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y ddarlith, mewn grwpiau bach.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Maen nhw’n cynnig cyfle buddiol i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen sy’n gysylltiedig â phwnc, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes.

Addysgu yn Gymraeg

Mae’r adran yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amodol ar argaeledd staff, mae’r addysgu trwy gyfrwng yn y Gymraeg mewn seminarau ar gael mewn rhai neu’r cyfan o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a thri. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir (Archwilio Dadleuon Hanesyddol) a thraethodau estynedig, a gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth drwy waith ysgrifenedig ffurfiannol, trafodaeth seminar, adborth ysgrifenedig ar draethodau, tiwtorialau traethawd, a sesiynau goruchwylio Archwilio Dadl Hanesyddol a Traethawd Hir (sy’n cynnwys adborth ysgrifenedig a llafar ar lyfryddiaethau, cynlluniau ymchwil, a phenodau drafft).

Sut caf fy asesu?

Bydd modiwlau yn cael eu hasesu drwy wahanol ddulliau, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, adroddiadau ysgrifenedig, beirniadu ffynonellau, adolygiadau beirniadol, arholiadau, profion dosbarth a chyflwyniadau llafar.

Mae gwaith cwrs ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig ar gyfer dibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol.  Bydd asesiadau, gan gynnwys gwaith cwrs, arholiadau a chyflwyniadau llafar, yn profi'r gwahanol sgiliau y byddwch wedi'u dysgu. 

Mae dilyniant yn cael ei adeiladu i mewn i’r asesu, o ran y modd y byddwch chi’n gwneud tasgau tywys llai o faint ym Mlwyddyn Un, yn ogystal â thraethodau ffurfiannol ym Mlynyddoedd Dau a Thri. Mae dilyniant hefyd yn amlwg yn y pwyslais cynyddol ar waith hirach, annibynnol, gan arwain at draethawd hir 10,000 o eiriau ym Mlwyddyn Tri.  Mae modiwlau’r flwyddyn olaf hefyd yn gofyn am ymgysylltiad dyfnach â dulliau annibynnol o weithio, ynghyd â mwy o alw am drin nifer fwy o dasgau ac eitemau llyfryddiaeth yn feirniadol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae’r radd hon yn datblygu amrywiaeth o sgiliau deallusol: meddwl yn feirniadol, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon seiliedig ar dystiolaeth, a chyflwyno barn yn effeithiol yn ysgrifenedig ac mewn trafodaethau. Hefyd, byddwch yn ennill sgiliau ymarferol fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol, a rheoli amser. Mae ein graddau’n canolbwyntio’n bendant ar ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i lawer gyrfa.

Yn gyffredinol mae’r modd hwn o feithrin sgiliau a dealltwriaeth ddeallusol yn flaengar. Wrth i chi fynd drwy eich gradd byddwn yn codi ein disgwyliadau o ran dyfnder ac ehangder yn eich astudiaethau. Yn fras:

  • Mae Blwyddyn Un yn eich cyflwyno i amrywiaeth ac ystod o ddulliau a ddefnyddir mewn hanes.
  • Mae Blwyddyn Dau yn rhoi hyfforddiant penodol i chi ar ddadansoddi cysyniadau, damcaniaethau a dulliau a ddefnyddir gan haneswyr yn feirniadol.
  • Mae’r Flwyddyn Olaf yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau hyn drwy ymgysylltu’n systematig gyda ffynonellau cynradd yn eich modiwlau a chwestiynu’r rhain ac wrth gynhyrchu Traethawd Hir sy’n seiliedig ar ymchwil gwreiddiol.

Fe’ch annogir i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eich dysgu eich hun ac am gyflwyno eich canfyddiadau. Ni allwn ddysgu ar eich rhan, ond eich cyfrifoldeb ni yw eich helpu i ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau tiwtorial, ac i’ch helpu i ddod yn ddysgwyr annibynnol. Erbyn diwedd y radd, byddwch wedi meithrin sylfaen gadarn yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd enwog Marc Bloch unwaith fel 'crefft yr hanesydd'.

Gwybodaeth arall

Mae'r radd yn cael ei haddysgu gan dîm, dan oruchwyliaeth Cynullydd y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, gwaith unigol a grŵp, tiwtorialau un i un, a dysgu hunan-gyfeiriedig. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid academaidd. Mae’r dulliau addysgu hyn yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu dulliau o feddwl yn feirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys adnoddau dysgu digidol.

Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich cefnogi i ddatblygu eich syniadau, sgiliau a chymwyseddau. Rydym yn defnyddio ystod eang o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, beirniadaeth o ffynonellau, adolygiadau beirniadol, archwiliadau, profion ar-lein, posteri, cyflwyniadau llafar a chyflwyniadau grwpiau. Mae dilyniant yn cael ei adeiladu i mewn i’r asesu, o ran y modd y byddwch chi’n gwneud tasgau tywys llai o faint ym mlwyddyn un, yn ogystal â gwaith ffurfiannol ym mlynyddoedd dau a thri. Yn rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth. Mae dilyniant hefyd yn amlwg yn y pwyslais cynyddol ar waith hirach, annibynnol, gan arwain at draethawd hir 10,000 o eiriau yn eich blwyddyn olaf.

Addysgu yn yr Iaith Gymraeg

Rydym yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amodol ar argaeledd staff, mae’r addysgu trwy gyfrwng yn y Gymraeg mewn seminarau ar gael mewn rhai neu’r cyfan o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a phedwar. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir a thraethodau estynedig, a gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2016/17, roedd yr arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch yn dangos bod 97% o’n graddedigion a oedd ar gael i weithio mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio. Mae graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn ystod eang o swyddi proffesiynol cysylltiedig neu mewn meysydd eraill. Mae sectorau cyflogaeth poblogaidd yn cynnwys cyllid, cyhoeddi, y gyfraith, newyddiaduraeth, hysbysebu a marchnata, diwylliant a threftadaeth, addysg, y llywodraeth a sectorau proffesiynol eraill. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr rhyngwladol honedig.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r Brifysgol o'r diwrnod cyntaf, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi ar ôl graddio, ac mae gan yr Ysgol Swyddog Lleoliadau Gwaith pwrpasol sy'n eich cefnogi gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor a'r tu allan i'r tymor.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Newyddiadurwr darlledu
  • Cyfreithiwr
  • Swyddog gweithredol hysbysebu
  • Athro
  • Hanesydd

Lleoliadau

Mae gan yr ysgol Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sy’n cefnogi myfyrwyr gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 28% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.