Cyrsiau Rhagarweiniol neu Gyrsiau Sylfaen
Mae amryw o gyrsiau rhagarweiniol ar gael i fyfyrwyr sydd heb gael y canlyniadau angenrheidiol i lwyddo yn eu pynciau Lefel A neu AS i ymuno â blwyddyn gyntaf cynllun gradd.
Y Flwyddyn Ragarweiniol mewn Gwyddoniaeth
Mae’r rhaglen Blwyddyn Ragarweiniol yn cynnwys modiwlau yn y Biowyddorau, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg. Bydd y modiwlau penodol a astudir yn dibynnu ar eich cefndir academaidd ac ar ofynion eich dewis o bwnc gradd, a chytunir ar y rhain drwy drafod gyda’r staff wrth i chi gofrestru.
Ar ôl cwblhau eich blwyddyn ragarweiniol yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i flwyddyn gyntaf eich dewis o raglen gradd. Fodd bynnag, ni chewch drosglwyddo o raglenni blwyddyn ragarweiniol eraill i Ddeintyddiaeth a Meddygaeth. Os cewch eich derbyn ar un o raglenni gradd y Biowyddorau, cewch y cyfle i newid eich gradd o fewn yr un rhaglen os bydd eich diddordebau'n newid e.e. o BSc Gwyddorau Biolegol i BSc Gwyddorau Biofeddygol. Gallech hefyd gael y cyfle i drosglwyddo i un o'r pedwar pwnc gradd Meistr sydd gennym gan ddibynnu ar eich perfformiad academaidd yn gyffredinol ym mlynyddoedd 2 a 3 eich cwrs BSc.
Mae Ysgolion Meddygaeth a Deintyddiaeth yn cynnig rhaglenni Blwyddyn Sylfaen. Addysgir y myfyrwyr ochr yn ochr â’r rhai sydd wedi ymrestru ar y Flwyddyn Ragarweiniol yn y Gwyddorau. Mae’r Ysgol Peirianneg yn cynnig rhaglen Flwyddyn Sylfaen sydd ar wahân.
Anelir y Flwyddyn Ragarweiniol Rhan Amser mewn Gwyddoniaeth i'r rhai sydd yn methu ag ymrwymo i astudio’n llawn amser ar hyn o bryd, ond yn dymuno dilyn gradd mewn Gwyddoniaeth, Meddygaeth neu Ddeintyddiaeth yn y dyfodol. Mae gan fyfyrwyr hyd at dair blynedd i gwblhau rhaglen Blwyddyn Ragarweiniol yn rhan amser. Addysgir y modiwlau gwyddoniaeth a mathemateg yn ystod y dydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ymholiadau ynghylch cael eich derbyn
Os ydych yn cyflwyno cais i wneud rhaglen radd sy’n cynnwys Blwyddyn Ragarweiniol neu Sylfaen, dylech wneud cais drwy UCAS. Rhaid i chi fodloni’r Tiwtor Derbyn priodol eich bod yn gymwys i ddilyn rhaglen radd. Nid yw’r Flwyddyn Ragarweiniol yn llwybr fel rheol i fyfyrwyr sydd wedi methu â sicrhau’r graddau angenrheidiol yn eu pynciau Safon Uwch.
Ar gyfer manylion am ofynion mynediad i’ch rhaglen astudio ddewisol, cysylltwch â’r tiwtor derbyn berthnasol- gallwch weld gwybodaeth cysylltu ar dudalennau’r Ysgol academaidd berthnasol.
Cysylltu
Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol ynglŷn â'r Flwyddyn Ragarweiniol mewn Gwyddoniaeth, cysylltwch â:
Blwyddyn Sylfaen Peirianneg
Mae'r Ysgol Peirianneg yn cynnig rhaglen Blwyddyn Sylfaen sydd wedi'i chynllunio i roi digon o'r wybodaeth sylfaenol angenrheidiol i'r myfyrwyr iddyn nhw allu ymdopi â chynllun gradd mewn peirianneg. Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn cynnwys yr agweddau ar fathemateg, ffiseg a thechnoleg gwybodaeth sy'n berthnasol i beirianneg.
Cysylltu
Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol ynghylch Blwyddyn Sylfaen Peirianneg, cysylltwch â: