Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd dysgu israddedig

Mae'r ffi y byddwch yn ei thalu yn cwmpasu'r holl ffioedd dysgu, costau hanfodol y cwrs, cofrestru ac arholiadau.

Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn ddibynnol ar eich statws ffioedd:

Os nad ydych yn siŵr pa statws sy’n berthnasol i chi ('cartref, 'ynysoedd', neu 'dramor'), edrychwch ar ein tudalen statws ffioedd.

Talu ffioedd dysgu

Gallwch dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych chi yn bersonol (cyfanswm ffi ag eithrio grantiau neu nawdd) drwy gael benthyciad ffioedd dysgu (myfyrwyr cymwys o’r DU ac UE yn unig), sy'n ad-daladwy wedi i chi gwblhau'ch cwrs neu drwy'r opsiynau talu rydym yn eu cynnig.

Cyllid

Mae arian ar gael i fyfyrwyr cymwys tuag at gost ffioedd dysgu, yn dibynnu ar ble rydych yn byw cyn dechrau astudio'ch cwrs. Ewch i'n tudalennau benthyciadau a grantiau am ragor o wybodaeth.

Hepgor ffi i geisiwyr lloches

Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig hepgor ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion sy’n geiswyr lloches ac sy'n gwneud cais i'r Brifysgol. Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i geiswyr lloches.

Cynllun ffioedd a mynediad

O dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae’n ofynnol i ni ddatblygu cynllun ffioedd a mynediad bob blwyddyn a buddsoddi cyfran o’r incwm ffioedd israddedig ar waith cynllun ffioedd a mynediad.