Llys Senghennydd
- Pris: O £129.92 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £5196.80)
- Ar gael ar gyfer: israddedigion, Ôl-raddedigion
- Myfyrwyr: 610
Cyfleusterau allweddol
WiFi
Cyfleusterau ar gyfer nam ar y clyw
Ystafell golchi dillad
Hunanarlwyo,
Arlwyo rhannol
En-suite
Dyma neuadd breswyl fawr gydag opsiynau hunanarlwyo neu arlwyo’n rhannol. Mae'n agos i gampws Parc Cathays, Undeb y Myfyrwyr a Ganol y Ddinas ac hefyd yn gyfleus i fyfyrwyr sy’n astudio Mathemateg, Peirianneg, Ffiseg a Seryddiaeth neu Gyfrifiadureg.
Mae llety arlwyo rhannol yn cynnwys pryd poeth o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio yn ystod gwyliau/gwyliau banc) yn un o fwytai’r Brifysgol. Fel arfer gweinir prydau rhwng 13:00 a 18:30 a gallwch chi ddewis naill ai Bwyty Adeilad Julian Hodge neu Fwyty Trevithick yn Adeiladau’r Frenhines.
Gofodau byw
Flatiau â chegin a rennir ar gyfer 5 o fyfyrwyr
Parcio
Dim parcio o fewn tair milltir, oni bai eich bod yn defnyddio lle parcio cyhoeddus dynodedig
Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer
- Myfyrwyr anabl
- Byw'n dawel (Israddedig)
- Siaradwyr a dysgwyr Cymraeg