Trochi yn niwylliant Cymraeg Caerdydd
Mae'r Gymraeg yn ffynnu yng Nghaerdydd ac mae hi wrth galon y brifysgol. Mae cymuned fywiog o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn astudio a byw yn y ddinas.
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o ddinas fodern, fywiog, amlieithog ac amlddiwylliannol. Mae llawer o ieithoedd i'w clywed yma, a phob un yn rhan o natur groesawgar Caerdydd.
Credwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy'n byw yma.
Cymdeithasu a diwylliant

Mae yma gymdeithasau Cymraeg ble medrwch ddod i adnabod myfyrwyr Cymraeg eraill. Bydd modiwl Dinesydd Caerdydd hefyd yn gyfle i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill.
Byddwch yn clywed rhaglenni a cherddoriaeth Gymraeg ar Xpress Radio y myfyrwyr. Yn Gair Rhydd, papur newydd y myfyrwyr, byddwch yn darllen erthyglau Cymraeg yn adran Taf-Od.
Mae bywyd nos Caerdydd heb ei ail. Cewch ddawnsio neu wylio bandiau yng Nglwb Ifor Bach. Profwch ŵyl unigryw Tafwyl yng Nghastell Caerdydd bob mis Mehefin.
Cewch ymgeisio hefyd i fyw yn un o'r dewisiadau llety i fyfyrwyr Cymraeg.
Eich hawliau Cymraeg

Fel priddinas ryngwladol mae Caerdydd yn unigryw. Hi yw canolfan llywodraeth a democratiaeth Cymru.
Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol ac mae gennych hawl i:
- dderbyn gwasanaethau Cymraeg
- astudio a byw bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg
Pwrpas Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd yw cysylltu holl weithgareddau Cymraeg y brifysgol er mwyn cynnig profiad unigryw i'n holl fyfyrwyr dwyieithog.
Mae hawliau myfyrwyr Cymraeg hefyd yn cael eu cynrychioli gan:
- Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
- Swyddog Iaith Gymraeg Undeb y Myfyrwyr