Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg (BSc)
- Meysydd pwnc: Rheoli busnes, Cymraeg
- Côd UCAS: NQ26
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Dysgu gan y gorau
Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.
Dilynwch eich llwybr eich hun
Y rhyddid i bersonoli eich gradd; cewch arbenigo neu gyfuno marchnata, adnoddau dynol, rheoli rhyngwladol, logisteg a gweithrediadau.
Cymuned lewyrchus
Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.
Cymraeg ymarferol
Codwch eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.
Nodwyd am ragoriaeth
Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).
Mae’r BSc Rheolaeth Busnes a'r Gymraeg yn gwrs arloesol a modern, wedi'i ddylunio i gyfuno prif elfennau'r radd Rheoli Busnes gydag astudio’r Gymraeg a'i diwylliant, gan baratoi i chi gyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru.
Drwy astudio’r elfen Rheolaeth Busnes byddwch yn datblygu gwybodaeth drylwyr o’r prif ddisgyblaethau sy’n berthnasol i reoli a busnes, ynghyd â gwerthfawrogiad o’r gwahanol feysydd swyddogaethol sy’n rhan o sefydliadau busnes. Felly, byddwch yn datblygu craidd gadarn o wybodaeth ym maes rheoli busnes a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar sylfeini cryf i arbenigo mewn meysydd sy’n ennyn eich diddordeb ac sy’n adlewyrchu eich dyheadau gyrfa. Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel yn yr iaith ei hun yn ogystal â datblygu dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd cyfle i chi arbenigo drwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o feysydd sy’n arbennig o berthnasol i fusnes a rheoli, gan gynnwys cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, cymdeithaseg iaith, sosioieithyddiaeth, technoleg iaith, a chyfieithu proffesiynol, yn ogystal â phynciau llenyddol, ieithyddol a diwylliannol.
Ceir nifer o synergeddau rhwng dwy elfen y radd, megis rôl y Gymraeg yn y gweithle modern, ei lle mewn economi ddigidol, a rôl marchnata yn ei hyrwyddo, i enwi ond ychydig. Mae galw mawr am raddedigion sydd â sgiliau lefel uchel mewn rheoli busnes yn ogystal â’r Gymraeg. Caerdydd yw prifddinas gwleidyddiaeth, busnes a chyfryngau Cymru, a bydd y rhaglen yn gallu manteisio ar y cysylltiadau agos sydd gan y ddwy Ysgol â diwydiant.
Yn gyffredinol, mae'r rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn busnes gyda'r gallu i weithio'n ddwyieithog ar lefel uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Achrediadau
Maes pwnc: Rheoli busnes
Maes pwnc: Cymraeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Rhaid cynnwys Iaith Gyntaf Gymraeg. Nid yw myfyrwyr Cymraeg ail iaith yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid bod gennych chi sgiliau iaith Gymraeg amlwg hefyd.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM in a BTEC mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Busnes. Rhaid cynnwys Iaith Gyntaf Gymraeg. Nid yw myfyrwyr Cymraeg ail iaith yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon.
Lefel T
Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Na, nid oes costau ychwanegol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Cyflwynir y rhaglen drwy amrywiaeth o fodiwlau craidd a dewisol sy'n cynnwys darlithoedd a gaiff eu haddysgu wedi’u cefnogi â seminarau a mathau eraill o addysgu grwpiau bach ac astudio dan arweiniad. Ym mhob blwyddyn, mae gofyn i fyfyrwyr gymryd cyfwerth â chwe modiwl 20 credyd, pedwar ‘Rheolaeth Busnes’ a dau ‘Cymraeg’. Yn yr ail flwyddyn a’r blynyddoedd olaf, mae myfyrwyr yn dechrau arbenigo drwy astudio nifer o fodiwlau dewisol.
Bydd yr elfen ‘Cymraeg’ yn cael ei haddysgu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae'r flwyddyn gyntaf yn rhoi sail gadarn ym mhynciau rheoli a busnes, ynghyd â 2 fodiwl yn y Gymraeg sy’n rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau ym meysydd iaith a llenyddiaeth.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Gyfrifeg | BS1503 | 20 Credydau |
Rheolaeth: Theori a Thystiolaeth | BS1511 | 20 Credydau |
Pobl mewn sefydliadau | BS1529 | 20 Credydau |
Technoleg a'r Oes Ddigidol | BS1532 | 10 Credydau |
Egwyddorion Marchnata a Strategaeth | BS1630 | 10 Credydau |
Iaith ac Ystyr | CY1600 | 20 Credydau |
Awdur, Testun a Darllenydd | CY1601 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar y sylfaen a ddatblygwyd yn y flwyddyn gyntaf, gyda myfyrwyr yn canolbwyntio ar fodiwlau rheoli busnes craidd, tra bo’r cynnwys Cymraeg yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth eang o ddatblygiad yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Heriau mewn rheoli ac arwain sefydliadau | BS2002 | 20 Credydau |
Rhagoriaeth mewn Rheoli Gweithrediadau | BS2003 | 20 Credydau |
Marchnata a Strategaeth | BS2540 | 20 Credydau |
Rheoli Pobl | BS2542 | 20 Credydau |
Yr Iaith ar Waith | CY2205 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym a'i Gyfnod | CY2290 | 20 Credydau |
Llenyddiaeth Plant | CY2310 | 20 Credydau |
Theori a Beirniadaeth Lenyddol | CY2330 | 20 Credydau |
Ysgrifennu Creadigol | CY2360 | 20 Credydau |
Bywydau Llên | CY2425 | 20 Credydau |
Tafodieitheg | CY2450 | 20 Credydau |
Enwau'r Cymry: Lleoedd, Pobl a Pholisi | CY2460 | 20 Credydau |
Sosioieithyddiaeth | CY2530 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Mae'r flwyddyn olaf yn ymestyn cynnwys busnes a rheoli'r radd gyda 1 modiwl craidd a 2 fodiwl dewisol, tra bod y cynnwys Cymraeg yn cynnig nifer o fodiwlau dewisol, gan gynnwys sawl un a fydd â pherthnasedd uniongyrchol i feysydd cyflogaeth penodol, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rheolaeth Strategol | BS3543 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae cyfadran a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes, yn dod â'r gwersi a ddysgwyd o'u hymchwil ddiweddaraf i'r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn cyfoes.
Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.
Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.
Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Fel rheol, eich tiwtor personol sy'n ysgrifennu tystlythyrau ar gyfer ceisiadau am swydd, felly dylech roi gwybod i'ch tiwtor personol am sut rydych chi'n dod ymlaen. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.
I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Caiff y modiwlau a addysgir o fewn y rhaglen oll eu hasesu trwy un neu ragor o'r asesiadau ar y cwrs canlynol;
- Traethodau
- Gwaith cwrs ysgrifenedig arall (gan gynnwys aseiniadau creadigol ac adroddiadau amrywiol, e.e. ar brofiad gwaith
- Arholiadau paratoad ac arholiadau dibaratoad ffurfiol
- Profion dosbarth (ysgrifenedig a/neu drwy gyfrifiadur)
- Cyflwyniadau grŵp a rhai unigol
- Cofnodion dysgu
- Cyflwyniadau llafar
- Traethawd hir/prosiect
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dealltwriaeth o'r agweddau mewnol ar strwythur, llywodraethu, swyddogaethau a phrosesau sefydliadau.
- Gwerthfawrogiad o'r rhyngweithio deinamig rhwng sefydliadau a’r amgylchedd busnes cymdeithasol ac economaidd y maent yn gweithredu ynddo.
- Gwybodaeth am brosesau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer rheoli sefydliadau amrywiol yn effeithiol a chyfrifol.
- Gwerthfawrogiad o ba mor bwysig yw hi bod sefydliadau yn deall ar yn rheoli eu marchnadoedd.
- Dealltwriaeth o sut mae pobl yn rhyngweithio o fewn sefydliadau a sut y gellir eu harwain, eu rheoli a'u datblygu.
- Gwybodaeth am wahanol systemau a phrosesau ar gyfer rheoli gweithrediadau o fewn sefydliadau a rhwng sefydliadau.
- Ymwybyddiaeth o'r polisïau a’r strategaethau priodol i fodloni buddiannau rhanddeiliaid, rheoli risg a chyflawni cymaint o amcanion strategol ag sy’n bosibl.
- Gwerthfawrogiad o sut y gall sefydliadau greu gwelliant cymdeithasol yn ogystal â gwelliant economaidd.
- Dealltwriaeth o gysyniadau allweddol a dulliau damcaniaethol sydd wedi’u datblygu ac sy’n datblygu yn y Gymraeg.
- Y gallu i ddadansoddi sut y crëir ystyron drwy iaith a grym affeithiol iaith
- Deall a gallu disgrifio strwythur ieithyddol y Gymraeg.
- Y gallu i ddadansoddi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymdeithas gyfoes, gan gynnwys cymunedau daearyddol, cymdeithasol, gwaith a digidol amrywiol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu beirniadol i ddadansoddi, gwerthuso a chyfosod gwybodaeth.
- Y gallu i ddatrys problemau.
- Cymhwysedd wrth arddangos dadleuon beirniadol gwybodus a chytbwys.
- Y gallu i gymhwyso damcaniaethau a dulliau arfer perthnasol.
- Y gallu i fyfyrio ar ddysgu o'r gweithle dwyieithog a’i werthuso.
- Y gallu i gynhyrchu a dadansoddi testunau ysgrifenedig a llafar o wahanol fathau (a allai gynnwys ysgrifennu creadigol).
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Sgiliau Rheoli Pobl.
- Y gallu i ddefnyddio ymchwil i fabwysiadu ymagwedd yn seiliedig ar dystiolaeth o ran rheoli.
- Craffter masnachol.
- Arloesedd, creadigrwydd a menter.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Hunan-reoli effeithiol a thueddiad i ddatblygu'n bersonol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy amrywiaeth o gyfryngau, ac i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
- Y gallu i ddefnyddio sgiliau cydweithio a gweithio'n effeithiol mewn gydag eraill.
- Y gallu i ysgrifennu a siarad Cymraeg sy'n briodol ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae'r rhaglen radd busnes yn cynnig ystod eang o sgiliau a gaiff eu cymeradwyo gan lawer o gyflogwyr yn sector breifat a'r sector gyhoeddus.
Mae galw clir am raddedigion rheoli busnes sy'n gallu gweithio'n ddwyieithog. Byddai’r radd hon yn ffordd o ddiwallu'r angen hwn drwy eich galluogi i ddatblygu sgiliau Cymraeg o'r radd flaenaf, yn ogystal â meithrin dealltwriaeth o'r gweithle mewn ysgol busnes uchel ei pharch. Mae’r modiwlau Cymraeg yn gyfle i chi ganolbwyntio ar eich sgiliau ieithyddol. Byddai’r rheiny sy’n ennill y radd hon yn arbennig o ddeniadol i gyflogwyr yng Nghymru yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus sy'n chwilio am weithwyr cymwys mewn gweithle dwyieithog.
Mae nifer o wefannau recriwtio a disgrifiadau swydd yn nodi'r Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol, neu sgil sydd o fantais ganfyddadwy. Mae'r swyddi hyn fel arfer yn gofyn am sgiliau iaith o safon uwch na rhuglder neu ddwyieithrwydd sylfaenol.
Yn ogystal â gwasanaeth gyrfaoedd canolog y brifysgol, mae ein myfyrwyr yn elwa o'r gwasanaeth Gyrfaoedd a Lleoliadau ar y campws sy'n eu helpu i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd gwaith a chael mynediad at hyfforddiant, canllawiau a chyngor sy'n benodol i'r diwydiant busnes.
Lleoliadau
Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd ennill profiad gwaith yn ystod eich astudiaethau. Mae Rheolwr Lleoliadau penodol yr Ysgol Busnes yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan Ymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol yr Ysgol Busnes.
Mae’r modiwl craidd, Yr Iaith ar Waith, ym Mlwyddyn 2 yn cynnwys cyfnod byr (20 awr) o brofiad gwaith cyfrwng Cymraeg wedi’i warantu.
Yn benodol, mae’r rhaglen yn gyfle i gael profiad gwaith mewn amgylchedd busnes proffesiynol ac yn eich galluogi i roi’r wybodaeth a geir yn nwy flynedd gyntaf y cwrs gradd ar waith mewn lleoliad gwaith proffesiynol penodol. Lle bo’n bosibl, bydd y lleoliad drwy gyfrwng yn Gymraeg neu’n gofyn am sgiliau dwyieithog.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.