Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth (BA)
- Meysydd pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth , Athroniaeth
- Côd UCAS: VQ53
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Treuliwch semester dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd mewn bywyd a dysg.
Wedi'i deilwra i chi
Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.
Profiad yn y diwydiant
Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.
Dysgu gan y gorau
Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion Athroniaeth, ysgolheigion llenyddol ac awduron byd-enwog.
Yn y radd hon sy’n ysgogi’r meddwl, gallwch gyfuno’ch diddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Saesneg gyda’ch angerdd am archwilio rhai o gwestiynau sylfaenol bodoli.
Sut dylem fyw ein bywydau? Beth ddylem ni ei gredu? Sut dylem fynd ati i geisio ateb y cwestiynau hyn? Sut gallwn ni hyd yn oed feddwl amdanynt? Mae Athroniaeth yn ymchwilio i'r materion dwys hyn.
Gan mai dyma’r ddisgyblaeth academaidd hynaf, mae Athroniaeth wedi datblygu ystod drawiadol o gysyniadau a thechnegau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau cymhleth. Rydym yn eich arfogi i ddadansoddi ac adeiladu cadwyni cymhleth o resymu drosoch eich hun, gan ddatblygu a mireinio eich sgiliau meddwl i ystyried posau athronyddol byd-eang ein hoes.
Yn llenyddiaeth Saesneg, rydym yn cynnig mynediad at yr holl rychwant cronolegol, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Ni chyfyngir ein cwricwlwm i’r gair printiedig: gan ein bod yn ymddiddori yn y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd, mae ein haddysgu’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Mae hyn yn eich galluogi i lunio eich gradd sy’n gweddu i chi, gan ddewis llwybr traddodiadol o nifer o gyfnodau a genres neu gymysgedd mwy deinamig sy'n cyfuno astudiaeth lenyddol gyda dadansoddiad o ffurfiau diwylliannol eraill.
Rydym yn cynnig rhaglen heriol a hyblyg o fodiwlau, ac yn ategu hynny ag awyrgylch cyfeillgar a pherthynas ragorol rhwng y staff a’r myfyrwyr. A nhwythau’n arbenigwyr yn eu meysydd, mae ein darlithwyr i gyd yn ymchwilwyr gweithgar, gan rannu’r syniadau diweddaraf gan gynnwys eu hymchwil flaengar eu hunain. Mae ein Book Talk Caerdydd, Arbrawf Barddoniaeth Caerdydd, Caffi Athroniaeth a'r Ŵyl Athroniaeth flynyddol yn cynnig mwy o gyfleoedd i archwilio themâu cyfoes a materion byd-eang gyda'r cyhoedd ehangach.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Maes pwnc: Athroniaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o’r modiwlau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn o'ch gradd, gan gymryd 60 credyd ym mhob disgyblaeth o ystod o fodiwlau craidd a dewisol.
Mae blwyddyn un yn cynnig sylfaen ar gyfer astudio ac fe’i cynlluniwyd i roi i chi’r sgiliau i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg o’ch pynciau i allu gwneud dewisiadau gwybodus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Critical Reading and Critical Writing | SE2146 | 20 Credydau |
Mind, Thought and Reality | SE4101 | 20 Credydau |
Moral and Political Philosophy | SE4103 | 20 Credydau |
Critical Thinking | SE4107 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Drama: Stage and Page | SE2139 | 20 Credydau |
Star-cross'd Lovers: the Politics of Desire | SE2140 | 20 Credydau |
Transforming Visions: Text and Image | SE2142 | 20 Credydau |
Creative Reading | SE2144 | 20 Credydau |
Creative Writing | SE2145 | 20 Credydau |
Transgressive Bodies in Medieval Literature | SE2147 | 20 Credydau |
Ways of Reading | SE2148 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Rydych yn cymryd 60 credyd ym mhob disgyblaeth, gan ddewis o ystod eang o fodiwlau sy'n amrywio o ran genre, cyfnod ac elfennau beirniadol/diwylliannol.
Mewn Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn dewis o ystod o fodiwlau sy'n amrywio o ran thema, genre, cyfnod a daearyddiaeth. Byddwch yn darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol, yn ogystal â pharhau i ddatblygu eich methodolegau beirniadol a'ch gwybodaeth am y pwnc.
Mae modiwlau athroniaeth yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o ddadleuon craidd prif feysydd ymholiadau a dadleuon athronyddol.
Blwyddyn tri
Rydych yn cymryd 60 credyd ym mhob disgyblaeth, gan ddewis o nifer fawr o fodiwlau sy'n amrywio o ran genre, cyfnod ac elfennau beirniadol/diwylliannol.
Gyda Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn dewis o blith ystod mwy arbenigol o fodiwlau sy'n ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai sy'n llai cyfarwydd i chi.
Ar y radd Athroniaeth, mae pob modiwl yn adlewyrchu gweithgareddau ymchwil diweddaraf ein staff, gan adeiladu ar y themâu a astudiwyd yn flaenorol. Byddwch yn archwilio meysydd a thestunau y mae arweinwyr eich modiwlau yn eu hehangu.
Cewch gyfle hefyd i ymgymryd ag ymchwil mewn pwnc o'ch dewis yn y naill ddisgyblaeth neu'r llall drwy'r modiwl traethawd hir dewisol.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtoriala.
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.
Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i reoli gwaith dilyn graddedigion.
Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i reoli gwaith dilyn graddedigion.
Gan edrych ar Raddedigion 2017 fel ein hesiampl ddiweddaraf, mae graddedigion o'r Ysgol wedi mynd ymlaen i swyddi ym meysydd addysg, marchnata, cyhoeddi, cysylltiadau cyhoeddus, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, a'r sector elusennol.
Yn ystod eich gradd gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.