Rheoli Adnoddau Dynol (MSc)
- Hyd: 1 year
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Datblygwch sgiliau Adnoddau Dynol proffesiynol gan ein harbenigwyr academaidd ac ymarfer ar y rhaglen hon sydd ag achrediad CIPD.
Encil: rheoli
Cyfle i gymryd rhan mewn encil tri diwrnod ar reoli, gan roi eich sgiliau negodi a datrys gwrthdaro ar waith.
Deall Diwydiant
Cyfleoedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf o ymchwil ac ymarfer Adnoddau Dynol gan siaradwyr busnes proffil uchel ac ymweliadau gan gwmnïau.
Newid busnes er gwell
Cyfle i fynd i'r afael â her fusnes gyfoes yn eich Prosiect Rheoli Adnoddau Dynol.
Astudio hyblyg: opsiynau
Gallwch ddewis gweithio ac astudio'n rhan-amser.
Mae denu’r math cywir o bobl a meithrin eu doniau yn hanfodol i lwyddiant pob sefydliad ac yn ffynhonnell allweddol o fantais gystadleuol. Fodd bynnag, mewn diwylliant sy’n gwerthfawrogi ac yn gwobrwyo meddylfryd ‘byw i weithio’, mae cydbwysedd a lles yn bethau sydd yn gynyddol o dan fygythiad.
Mae’n rhaid i hyn newid.
Gall gweithwyr proffesiynol hynod fedrus a gwybodus Adnoddau Dynol, sy’n gallu cwestiynu, gwerthuso’n feirniadol a gwneud dyfarniadau effeithiol, fod yn gyfrifol am y newid yma.
Newid y byd yw ein busnes ni.
Mae ein cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn canolbwyntio ar y gwahaniaethau y gallwch chi eu gwneud i sefydliad a’u cyflogwyr. Byddwch yn datblygu’r hyder, y wybodaeth a’r sgiliau i gwestiynu, gwerthuso a gwneud dyfarniadau effeithiol ar strategaethau ac arferion sy’n cyflawni effaith a sicrhau gwerth.
Bydd ein tîm o arbenigwyr academaidd ac ymarfer yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel gweithiwr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol, gan ddatblygu eich sgiliau dadansoddi beirniadol, trafod a’ch sgiliau datrys problemau a gwrthdaro. Byddant yn defnyddio ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol i ddangos sut mae ymarferwyr Adnoddau Dynol yn llywio ac yn dylanwadu ar broses recriwtio, diwylliant gweithio a pherfformiad sefydliad.

“Ar ôl gweithio fel cyfrifydd am yn agos at 20 mlynedd, roedd hi’n bryd newid gyrfa. Penderfynais ailhyfforddi i fod yn weithiwr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol a meddwl y byddai’r cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn fy helpu i gyflawni’r newid mewn cyfeiriad yma. Fe wnes i wir fwynhau’r her o fynd i’r afael â phwnc cwbl newydd. Roedd yn wych defnyddio fy ymennydd eto a mynd nôl ati i ddysgu. Roeddwn i wrth fy modd gyda rhan ysgrifennu traethawd hir y cwrs; dewis pwnc roeddwn i’n angerddol iawn amdano a chynnal ymchwil yn ei gylch o’r dechrau hyd at y diwedd.”
Ble byddwch yn astudio
Ysgol Busnes Caerdydd
Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.
Meini prawf derbyn
Candidates will normally have a minimum 2:1 degree (GPA 3.0/4.0) at undergraduate level in business, social sciences, humanities, law or other relevant subjects, from an approved institution or the international equivalent.
Non-graduates with approved professional qualifications or work experience may also be considered.
Applicants whose first language is not English are required to obtain a minimum IELTS score of 7.0 with a minimum of 6.0 in each category (or an equivalent English language qualification).
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Addysgir y rhaglen o fis Medi i fis Mehefin ac mae'n rhoi sylfaen drylwyr i chi ym mhob agwedd o Reoli Adnoddau Dynol.
Byddwch yn astudio wyth modiwl gorfodol ac yn cwblhau prosiect.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Cynigir y rhaglen ar sail amser llawn dros flwyddyn academaidd. Byddwch yn cymryd wyth modiwl, ac mae pob un ohonynt yn werth 15 credyd.
Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at y prosiect. Diben y prosiect yw rhoi cyfle i chi brofi pa mor berthnasol yw'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y methodolegau a'r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwlau a addysgir mewn darn o ymchwil annibynnol er budd goruchwyliaeth academaidd unigol.
Bydd yn eich cyflwyno i fethodoleg ymchwil, dadansoddi syniadau'n systematig, problemau casglu data a chyflwyno syniadau mewn ffordd glir. Mae hefyd yn gofyn am fyfyrio ar y goblygiadau ar gyfer ymarfer proffesiynol o safbwynt datblygiad proffesiynol moesegol, proffesiynol a pharhaus.
Yn ystod y rhaglen byddwch yn datblygu sgiliau astudio, sgiliau effeithiolrwydd personol a sgiliau Adnoddau Dynol penodol ac yn ysgrifennu cyfrifon myfyriol yn manylu ar sut y caiff y sgiliau hyn eu defnyddio a'u datblygu. Defnyddir y myfyrdod i'ch helpu i nodi cysylltiadau rhwng y gwahanol fodiwlau a datblygu'r ystod o sgiliau sydd eu hangen i weithredu'n llwyddiannus mewn rôl Adnoddau Dynol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
The Management of Human Resources | BST221 | 15 credydau |
Employment Relations | BST222 | 15 credydau |
Reward Management | BST223 | 15 credydau |
Contemporary Issues in HR Research | BST224 | 15 credydau |
Leadership, Work and Organization | BST225 | 15 credydau |
Employment Law | BST226 | 15 credydau |
The Practice of HR in the Modern Workplace | BST227 | 15 credydau |
HRM, Context and Strategy | BST231 | 15 credydau |
The Human Resource Management Project | BST228 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae ein cyfadran sydd o fri rhyngwladol yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil ddiweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn.
Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.
Dulliau Addysgu
Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).
Mewn darlith, bydd y darlithydd yn bennaf yn rhoi trosolwg o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl (yn ogystal â chyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a bod yn fyfyriol). Yna mewn dosbarthiadau a gweithdai, cewch gyfle i ymarfer technegau, trafod syniadau, cymhwyso cysyniadau a chyfnerthu eich dealltwriaeth yn y pwnc.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r dulliau asesu'n amrywio o fodiwl i fodiwl ond, ar draws cynllun y radd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau unigol ac mewn grŵp.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.
Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os cewch unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.
I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hyb Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn rheolaidd. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth ysgrifenedig cyffredinol.
Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl pob cyfnod arholi a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.
Wrth weithio ar eich traethawd hir/prosiect, mae disgwyl i chi gyfarfod â’ch goruchwylydd yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd a thrafod unrhyw gwestiynau. Bydd eich goruchwylydd yn gallu rhoi adborth i chi ar eich cynllun ymchwil ac ar ddrafftiau o’ch gwaith wrth i chi weithio arnynt.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:
- Ddeall pynciau cymhleth gyda hyder.
- Gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth.
- Cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol.
- Adnabod a defnyddio data perthnasol.
- Datblygu sgiliau ymchwil ymarferol.
- Cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno; i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes;
- Gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
- Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
- Defnyddio rhaglenni TG a phecynnau meddalwedd safonol, lle bo hynny'n briodol
- Cymryd cyfrifoldeb dros eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £12,200 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £24,200 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.
Yn ogystal â dysgu o ymchwil arloesol gan aelodau ein cyfadran, byddwch yn gweithio tuag at ennill cymhwyster proffesiynol lefel 7 Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, sy’n gymhwyster gofynnol gan lawer o gyflogwyr ar gyfer swyddi rheoli Adnoddau Dynol yn y DU.
Byddwch hefyd yn elwa ar wybodaeth ac arbenigedd ein Tîm Gwella Gyrfaoedd. Maent yn barod ac yn aros i ganfod digwyddiadau a chyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.
Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i yrfaoedd Adnoddau Dynol llwyddiannus mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys busnesau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae nifer o fyfyrwyr hefyd wedi dilyn dysgu pellach drwy ymgymryd â gradd ymchwil ar ôl cwblhau eu gradd meistr.
Cyflogwyr graddedigion
- Whitbread
- Capita HR Solutions
- Pantechnicon
- Associate British Ports
- Cartrefi Cymru Co-operative
- Tîm y Cipolygon Ymddygiadol
- Focus Enterprise Hub
- Prifysgol Caerdydd
Gyrfaoedd ein graddedigion
- Rheolwr Adnoddau Dynol
- Cynghorydd Adnoddau Dynol
- Cynorthwy-ydd Adnoddau Dynol
- Gweinyddwr Systemau Adnoddau Dynol
- Cydgysylltydd Adnoddau Dynol
- Cydgysylltydd Recriwtio
- Rheolwr Gwobrwyo
- Cydlynydd Hybiau Menter
Cyflogwyr graddedigion

“Fe gefais i fy Nghymrodoriaeth Siartredig o fewn chwe blynedd o gwblhau’r MSc HRM yn Ysgol Busnes Caerdydd. Gwnaeth y rhaglen fy ngalluogi i symud fy ngyrfa yn ei blaen yn gyflym i lefel strategol fwy neu lai, tra hefyd yn cynnig llwyfan i barhau â fy natblygiad proffesiynol trwy’r broses uwchraddio CIPD!”
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.