Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliad

Mae Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o’n rhaglen PhD Astudiaethau Busnes.

Mae’r Adran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau (MEO) yn gartref i nifer o grwpiau a chanolfannau ymchwil ac mae’n ymgymryd ag ymchwil mewn tri maes eang:

  1. Astudiaethau’r Sefydliad
  2. Cysylltiadau Cyflogaeth
  3. Rheoli Sector Cyhoeddus

Yn ogystal â hyrwyddo ymchwil o ansawdd rhyngwladol, nod yr adran yw i ddarparu addysg a arweinir gan ymchwil o ansawdd rhagorol ac i ddarparu amgylchedd cefnogol ar gyfer datblygu ymchwilwyr academaidd ac addysgwyr. Mae gan ein hymchwilwyr broffil cryf iawn o ran cyhoeddi, cynghori ac ymgynghori, gan ddarparu adroddiadau a chyngor ar gyfer amrywiaeth eang o gleientiaid corfforaethol ac eraill. Mae defnyddwyr ymchwil MEO diweddar yn cynnwys:

  1. Y Sefydliad Llafur Rhyngwladol
  2. Cyngres yr Undebau Llafur
  3. Y Comisiwn Ewropeaidd
  4. Ffederasiwn Gweithwyr Trafnidiaeth Rhyngwladol
  5. Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu
  6. Llywodraeth Cymru
  7. Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog

Mae’r llwybr Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliad yn cael ei gydnabod gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae’r llwybr yn cwmpas ystod lawn o arbenigedd, ond mae’r meysydd canlynol yn arbennig o gryf:

  • Cysylltiadau Cyflogaeth
  • Astudiaethau Sefydliadol (safbwyntiau rhyngddisgyblaethol yn enwedig)
  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Astudiaethau Rheoli Beirniadol
  • Gwella’r Sector Cyhoeddus
  • Entrepreneuriaeth.

Mae’r rhaglen ar gyfer y rhai hynny sy’n dymunol archwilio maes mewn cysylltiad â Rheoli, y Sefydliad a Chyflogaeth yn fwy manwl, ond yn bwysicaf i’r rhai sydd am ymgymryd â chymhwyster ffurfiol mewn ymchwil. Bydd y rhaglen PhD yn eich paratoi naill ai am yrfa fel ysgolhaig academaidd blaenllaw neu i ragori mewn busnes proffesiynol neu wneud penderfyniadau polisi cyhoeddus uwch. Ar hyd y ffordd cewch eich annog i gyhoeddi, cyn cwblhau traethawd arloesol sy’n cyfrannu at ddadl academaidd yn eich maes o ddewis. Byddwn yn cynnig lle i chi ar ein rhaglen PhD oherwydd ein bod yn credu bod gennych chi’r dalent, y cefndir a’r fenter i gwblhau’r rhaglen a bodloni’r nodau hyn.

Nodweddion unigryw

  • Efallai y bydd cyfleoedd addysgu ar gael, yn dibynnu ar ofynion yr adran.  Mae hyn yn cael ei adolygu o flwyddyn i flwyddyn.
  • Mae'r adran yn rhedeg cyfres seminar sy’n denu siaradwyr gwadd o amgylch y byd.  Hefyd mae academyddion rhyngwladol yn ymweld yn rheolaidd.  Mae’r ymwelwyr hyn yn rhoi mynediad rheolaidd i fyfyrwyr PhD at academyddion blaenllaw o amgylch y byd.
  • Mae nifer o brosiectau ymchwil yr adran wedi cael effaith uniongyrchol ar benderfyniadau a wnaed gan sefydliadau’r sector preifat, ffederasiynau cyflogwyr, cyrff undeb llafur, ac asiantaethau’r llywodraeth.  Mae’r ymchwil hwn a arweinir gan effaith yn adlewyrchu’r cysylltiadau cryf sydd gan aelodau’r adran gyda chyflogwyr a chyrff rheoleiddio lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

PhD Programme Office, Cardiff Business School

Administrative contact

Mae enw da’r Adran MEO yn amlwg drwy ei lwyddiant wrth ennill grantiau ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Ymddiriedolaeth Leverhulme a ffynonellau sefydledig eraill o gyllid.  Mae ein gwaith ymchwil yn cynnwys cydweithio parhaus gyda grwpiau ymchwil eraill ym Mhrifysgol Caerdydd mewn cymdeithaseg a chynllunio rhanbarthol a dinesig.  Mae nifer o gyfnodolion rhyngwladol mawr yn cael eu golygu gan aelodau o'r Adran gan gynnwys Organisation, British Journal of Management, the Journal of Management Studies and Work, Employment and Society.

Goruchwylwyr

Mae rhestr o’r staff academaidd sy’n gallu darparu goruchwyliaeth i’w gael ar wefan Ysgol Busnes Caerdydd.

Bydd y rhaglen PhD yn eich paratoi naill ai am yrfa fel ysgolhaig academaidd blaenllaw neu i ragori mewn busnes proffesiynol neu wneud penderfyniadau polisi cyhoeddus uwch.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Astudiaethau Busnes.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig