Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifeg a Chyllid

Mae Cyfrifeg a Chyllid yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o’n rhaglen PhD Astudiaethau Busnes.

Mae gan Adran Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd enw da byd-eang sefydledig ac sy’n cynyddu am gynnal ymchwil empirig a damcaniaethol o ansawdd uchel mewn cyfrifeg a chyllid a meysydd cysylltiedig.

Rydym yn cynnig ystod lawn o arbenigedd, ond mae’r meysydd canlynol yn arbennig o gryf:

  • Safbwyntiau Rhyngddisgyblaethol ar Gyfrifeg
  • Cyfrifeg rheoli a rheolaeth
  • Datblygiad hanesyddol cyfrifeg
  • Adrodd ariannol a chyfathrebu busnes
  • Proffesiynau a Phroffesiynoli
  • Cyfrifeg, archwilio a chyllid mewn economïau sy’n datblygu, yn enwedig Tsieina
  • Cyfrifeg yn y sector cyhoeddus
  • Prisio asedau
  • Cyllid corfforaethol
  • Cyllid empirig
  • Econometreg ariannol
  • Cyllid rhyngwladol
  • Lywodraethu corfforaethol.

Rydym yn galluogi myfyrwyr i:

  • Feithrin gwybodaeth dda o ddulliau ymchwil damcaniaethol ac empirig mewn cyfrifeg a chyllid
  • Meithrin hyfforddiant manwl i gynnal ymchwil cyfrifeg a chyllid ar yr ansawdd rhyngwladol uchaf
  • Datblygu sgiliau beirniadol a dadansoddol, sydd nid yn unig yn ddefnyddiol ar gyfer gwaith academaidd pellach, ond hefyd yn ddeniadol i gwmnïau ymgynghoriaeth a sefydliadau ariannol.

Sgiliau a ddatblygwyd

  • Syntheseiddio a gwerthuso gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn feirniadol yn eu llwybrau o ddewis
  • Defnyddio dulliau ymchwil uwch tebyg i’r rhai a ddefnyddir mewn gwaith cyhoeddedig cyfoes mewn lleoliadau ymchwil penodol
  • Defnyddio technoleg gwybodaeth a phecynnau meddalwedd perthnasol i gasglu, rheoli a dadansoddi data meintiol ac ansoddol
  • Rhyngweithio'n gadarnhaol gyda chydweithwyr academaidd, gan gydnabod heriau neu gyfyngiadau ar eu gwaith a’u ffordd o feddwl
  • Dangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
  • Datblygu'r gallu i weithio'n annibynnol a threfnu a negodi cydweithrediadau ymchwil
  • Cynllunio effeithiol o ran tasgau a roddir, mewn grwpiau neu'n unigol.

Nodweddion unigryw

  • Enw da sefydledig sy’n datblygu’n gyflym am gynnal ymchwil empirig a damcaniaethol o ansawdd uchel mewn cyfrifeg a chyllid
  • Nifer uchel o ysgolheigion rhyngwladol cydnabyddedig
  • Amgylchedd lle caiff myfyrwyr eu hannog i gyflawni eu llawn botensial fel ymchwilwyr.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

PhD Programme Office, Cardiff Business School

Administrative contact

Mae ein arbenigeddau ymchwil yn cynnwys:

  • Strwythur cyfalaf
  • Polisi difidend
  • Deilliadau a marchnadoedd arian parod
  • Traws-restru
  • M&A
  • IPOs
  • Llywodraethu corfforaethol
  • Iawndal rheolaethol
  • Prisio asedau
  • Effeithlonrwydd y farchnad
  • Cyllid Ymddygiadol
  • Cyfryngu ariannol
  • Buddsoddiadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol
  • Mesur a rheoli risg ariannol
  • Trethiant
  • Cyfrifeg yn y sector cyhoeddus
  • Cyfrifeg rheoli
  • Archwilio
  • Newid cyfrifo yn Tsieina

Goruchwylwyr

Mae rhestr o’r staff academaidd sy’n gallu darparu goruchwyliaeth i’w gael ar wefan Ysgol Busnes Caerdydd.

Adnoddau a Chyfleusterau

  • Cynigir goruchwyliaeth PhD gan ysgolheigion adnabyddus yn ryngwladol gyda chyhoeddiadau yn y cyfnodolion cyfrifeg ac ariannol gorau, gan gynnwys Journal of Finance, Journal of Corporate Finance, Journal of Banking and Finance a’r Accounting Organisations and Society.
  • Bydd gan fyfyrwyr fynediad at amrywiaeth eang o gronfeydd data, gan gynnwys WRDS (CRISP, COMPUSTAT), DataStream, Thomson One Banker, Thomson Reuters EIKON a Bloomberg.
  • Mae gan yr Is-adran Cyfrifeg a Chyllid ddiwylliant ymchwil cryf, gan gynnwys cynadleddau a seminarau ymchwil rheolaidd ac anogir myfyrwyr PhD i gyflwyno a chymryd rhan yn y ddadl academaidd.

Bydd y rhaglen PhD yn eich paratoi naill ai am yrfa fel ysgolhaig academaidd blaenllaw neu i ragori mewn busnes proffesiynol neu wneud penderfyniadau polisi cyhoeddus uwch.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Astudiaethau Busnes.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig