Ysgol Busnes Caerdydd
Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.
Rydym yn 2il ymhlith 108 o Ysgolion Busnes yn y DU am bŵer ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf.
Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.