Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd

Mae ein gwaith ymchwil pwrpasol, yn y byd go iawn sy’n arwain yn rhyngwladol ym maes y gwyddorau cymdeithasol, yn ganolog i gyflawni ein dyheadau Gwerth Cyhoeddus.

Dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi creu cymuned ymchwil gryf a chynaliadwy sy’n galluogi’r gyfadran i ffynnu wrth wneud cyfraniadau nodedig a phwysig i’w disgyblaethau a thu hwnt.

Rydym wedi croesawu Datganiad San Francisco ar Ymchwil yn weithredol fel cyfle i symud i tu hwnt i safleoedd mewn cyfnodolion a metrigau i ystyried astudiaethau ymchwil yn ôl eu rhinweddau, a’u hystyried mewn perthynas ag effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Egwyddorion a diben

Ers 2014, mae £15m o arian ymchwil gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), y llywodraeth a diwydiant, wedi ein galluogi i hyrwyddo set graidd o egwyddorion sy’n sylfaenol i ymchwil Gwerth Cyhoeddus, gan gynnwys cyd-greu gwybodaeth; datblygu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol; diwylliant ymchwil colegol; ac ymgysylltu cynhwysol.

Mae'r egwyddorion hyn yn cyfrannu at ein henw da hirsefydlog fel canolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer ymchwil busnes a rheolaeth, a ddangosir trwy waith ein cydweithwyr o ddydd i ddydd a hefyd gan ansawdd ein cyflwyniad i Fframwaith Ardderchog Ymchwil 2014, a arweiniodd atom yn cyrraedd y safle gyntaf ar y cyd ar gyfer amgylchedd ymchwil a'r chweched ar gyfer ansawdd ymchwil, allan o 101 o ysgolion busnes y DU.

Ein dyhead Gwerth Cyhoeddus

Ers 2015, mae ein gwaith ymchwil wedi cael ei lywio gan ein huchelgais Gwerth Cyhoeddus – i greu datblygiad economaidd cynaliadwy ochr yn ochr â gwella cymdeithas a’r amgylchedd.

Mae'r egwyddorion hyn yn cyfrannu at ein henw da hirsefydlog fel canolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer ymchwil ym meysydd busnes a rheoli. Dangosir hyn drwy waith ein cydweithwyr o ddydd i ddydd yn ogystal ag ansawdd ein cyflwyniad ar gyfer Fframwaith Rhagorol Ymchwil 2021, a arweiniodd at gyflawni'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil, gan adlewyrchu ein diwylliant colegol, cynhwysol a chyfranogol.

Heriau mawr

Mae ein strategaeth yn blaenoriaethu gwaith ymchwil y gellir ei weithredu sydd yn feirniadol, yn heriol, wedi'i hysbysu'n ddamcaniaethol ac wedi'i ategu gan chwilfrydedd deallusol. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn canolbwyntio ar bum her fawr flaenllaw:

Mae’r heriau mawr hyn yn gymhleth. Ni ellir mynd i’r afael â nhw ar eu pennau eu hunain na’u hystyried drwy lens un disgyblaeth. Felly, rydym wedi addasu ein strwythurau presennol i hwyluso gwaith ymchwil ar y cyd, cyd-gynhyrchu effaith a chyd-greu gwybodaeth.

Rydym yn cefnogi’r gyfadran i ddatblygu arbenigedd a mewnwelediadau disgyblaeth-benodol, yn ogystal â chymryd rhan mewn ymchwil gydweithredol fel aelodau o gymunedau, canolfannau, grwpiau ac unedau amlddisgyblaethol.

Rydym hefyd wedi gwneud penodiadau ymgysylltu strategol yn yr Ysgol ac yn cynnal cyfleoedd rhwydweithio yn y gyfadran yn rheolaidd gyda'n cymuned o bartneriaid a chydweithredwyr. Ymhlith y rhain y mae:

Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn yn cefnogi ac yn arwain ein strategaeth a'n penderfyniadau, fel y gallwn gynnal ac ymestyn ein diwylliant ymchwil, mynd i'r afael â heriau mawr a sicrhau effaith economaidd a chymdeithasol i gymunedau Cymru a'r byd.