Gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn cael effaith wirioneddol ar draws sawl maes, gan fynd i'r afael â heriau byd-eang mawr, gan geisio darparu atebion newydd sydd ag effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol fawr. Mae ein gwaith yn cael ei ategu gan arloesi, cydweithredu a chynaliadwyedd, i ddarparu'r platfform i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain yn rhyngwladol.
Uchafbwyntiau effaith
Uchafbwyntiau ymchwil

Astudiaeth afon 30 mlynedd yn canfod argyfwng difodiant sydd heb ei ystyried
Mae newid byd-eang yn achosi i rywogaethau dŵr croyw ddiflannu ddwywaith yn gyflymach nag mewn unrhyw ecosystem arall, ac mae gwaith ymchwil newydd, sydd wedi bod yn astudio afonydd a nentydd Cymru ers dros 30 mlynedd, wedi canfod bod nifer o infertebratau arbenigol yn diflannu.

Dychwelyd rhywogaethau eryr coll i Gymru
Gallai ymchwil a gynhelir yng Nghymru arwain at ddychweliad rhywogaethau eryr coll i’n cefn gwlad, gan ddod â manteision cadwraeth ac economaidd.
Ymgysylltu â'r cyhoedd

Un o flaenoriaethau allweddol Ysgol y Biowyddorau yw ymgysylltu ac allgymorth cymunedol. Rydym wedi ymrwymo i rannu ein hymchwil i annog y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd ar gyfer ymchwil ym maes biowyddorau.