Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd israddedig ac ôl-raddedig sy’n cyfuno’r lefelau uchaf o ysgolheictod traddodiadol gydag agweddau arloesol at ein diddordebau craidd mewn iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.
Mae'r Ysgol wedi dod ymhlith y pum ysgol orau ar gyfer effaith a phŵer ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021), yr asesiad diweddaraf o ymchwil ar draws y DU.