Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ymchwil yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Mae’r effaith y mae ein hymchwil wedi’i chael y tu allan i gyd-destun y Brifysgol yn dangos ein bod yn credu yng ngwerth cyhoeddus y dyniaethau.

Ein nod yw sicrhau bod ein hymchwil o fewn cyrraedd cynulleidfaoedd allanol amrywiol, ac rydym yn cynllunio gweithgareddau ymgysylltu sy’n ceisio gwella ei chyrhaeddiad a’i heffeithiolrwydd er mwyn cyfoethogi cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Uchafbwyntiau

Gan droi ei chanfyddiadau'n adnoddau a hyfforddiant ymarferol, mae’r Athro Wray wedi gwella arfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, teuluoedd, elusennau a chartrefi gofal yn y DU, UDA, Awstralia a Seland Newydd, gan wella yn y pen draw fywydau pobl â dementia drwy’r gallu i gyfathrebu’n well.

Gall cyfathrebu gwael achosi dryswch, rhwystredigaeth, straen a’r duedd i ymgilio nid yn unig yn y bobl sy'n byw gyda dementia, ond hefyd y rheiny o’u cwmpas. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae bron i 10 miliwn o achosion newydd o ddementia ar draws y byd bob blwyddyn. Gan y rhagwelir y bydd cyfanswm nifer y bobl â dementia yn cynyddu 250% yn ystod y 30 mlynedd nesaf, mae cefnogi cleifion, gofalwyr a theuluoedd drwy gydol yr heriau cyfathrebu cysylltiedig yn hynod bwysig.

Ieithydd yw’r Athro Wray y deilliodd ei gwaith ar gyfathrebu â phobl sydd â dementia o’i harbenigedd ym maes iaith fformiwläig - llinynnau parod o eiriau yr ymddengys ein bod yn eu prosesu’n gyflymach na’r disgwyl a chyda llai o ymdrech. Enghreifftiau amlwg yw “gwela i di nes ymlaen”, “beth rwyt ti’n meddwl rwyt ti'n ei wneud?”, a “gofala ble rwyt ti'n mynd”.

Dyma a ddywedodd yr Athro Wray, “Roedd gen i ddiddordeb yn y llinynnau hyn o eiriau amser maith yn ôl ac ysgrifennais lawer o bapurau a llyfrau yn ceisio deall y rhesymau cymdeithasol a gwybyddol sy’n esbonio pam rydyn ni’n eu defnyddio.

“Pan fyddwn ni’n prosesu iaith, yn aml mae perygl o orlwytho ein hunain wrth inni geisio rheoli syniadau, adnabod ac adalw geiriau a strwythurau, yn ogystal ag ymgorffori ac adfer y goblygiadau cynnil sy’n sail i'r geiriau. Mae iaith fformiwläig yn rhoi llwybrau byr inni fynegi negeseuon cyffredin, felly rydyn ni’n defnyddio llai o bŵer prosesu.” Mae’n disgrifio hyn fel yr hyn sy’n cyfateb yn ieithyddol i ddefnyddio pot o saws wrth goginio yn hytrach na gwneud y saws o’r dechrau un.

Ymchwilio i’r heriau o ran cyfathrebu sydd gan bobl â dementia

Ar ôl i'r Athro Wray gyhoeddi ei llyfr llwyddiannus ar iaith fformiwläig yn 2002, tynnwyd ei sylw gan gydweithiwr yn UDA at iaith pobl â chlefyd Alzheimer, sy'n cynnwys llawer iawn o iaith fformiwläig.

“Ni chefais i fy synnu gan hyn. Difrod i'r ymennydd sy'n amharu ar allu rhywun i brosesu sy’n achosi clefyd Alzheimer. Felly mae'n eithaf amlwg y bydd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio mwy o iaith fformiwläig i gadw eu hiaith yn rhugl,” meddai.

Fodd bynnag, sylweddolodd yr Athro Wray yn gyflym nad pobl â dementia yn unig a oedd yn defnyddio’r math hwn o iaith. Yn sgîl sgyrsiau rhwng pobl â dementia a'u teuluoedd a’u gofalwyr, daeth i’r amlwg bod y rheiny nad oedd ganddyn nhw ddementia hefyd yn defnyddio iaith fwy fformiwläig na’r arfer.

“Ac wedyn dyma fi’n meddwl, pam hynny felly? Does dim amharu ar eu gallu i brosesu, felly mae'n rhaid bod rheswm arall.”

Yn rhan o'i hymchwiliad, bu’r Athro Wray yn darllen ar draws llawer o wahanol ddisgyblaethau, gan gynnwys niwroleg, nyrsio, seicoleg gymdeithasol, geneteg ac ieithyddiaeth.

“Yn y bôn, roeddwn i'n ymchwilio i'r hyn sy'n digwydd i gyd-destun cymdeithasol cyfan cyfathrebu pan fydd nam gwybyddol ar rywun. Yn achos pob un sy’n cymryd rhan yn y sgwrs, mae'n rhaid ichi ofyn: “Beth yw'r sefyllfa y mae ynddi? Beth mae'n ceisio ei gyflawni? Beth yw'r heriau o ran cyflawni hyn?”

Dangosodd ei hymchwil, pan fydd namau ar y cof a’r gallu i brosesu a ysgogir gan ddementia yn tanseilio gallu person i olrhain cyd-destun y sgwrs, bydd y person ei hun, yn ogystal â'r bobl o'u cwmpas, yn dechrau gwneud newidiadau llawn bwriadau da yn eu harferion cyfathrebu. Fodd bynnag, mae'r newidiadau hyn yn amharu ar ddeinameg arferol cyfathrebu ac felly hwyrach y bydd canlyniadau anfwriadol yn sgîl y rhain. Hwyrach mai’r canlyniad fydd achosion o ddiffyg cyfathrebu sylweddol a chwalu perthynas, ac mae hyn yn golygu bod pobl â dementia a'u gofalwyr a'u teuluoedd yn teimlo'n ddryslyd, yn rhwystredig, yn euog a bod y sefyllfa rywsut yn drech na nhw.

“Dechreuais i sylweddoli nad oedd llawer o'r cyngor ar sut i gyfathrebu â phobl â dementia yn hollol anghywir, ond heb fod yn arbennig o ddefnyddiol chwaith,” meddai. “Yn fy ngwaith rwy wedi ceisio taflu goleuni ar y rhesymau pam ei bod yn bosibl na fyddai rhai ymyriadau yr ymddengys, ar y lefel arwynebol, eu bod yn helpu yn gwneud hynny mewn giwrionedd.”

Er mwyn rhannu ei chanfyddiadau gyda chynulleidfa eang, cynhyrchodd yr Athro Wray nifer o ffilmiau animeiddio. Mae'r ffilmiau hyn yn esbonio beth yw diben cyfathrebu, a pham mae hyn yn mynd yn arbennig o heriol pan fydd gan rywun ddementia. Maen nhw’n dangos pwysigrwydd dysgu cydymdeimlo yn ffordd o ailddyfalu'r bwriad y tu ôl i'r hyn y mae rhywun yn ei ddweud. Maen nhw hefyd yn annog ymdeimlad o chwilfrydedd ynghylch dod o hyd i'r ffordd orau o gyfathrebu'n effeithiol â rhywun penodol ar achlysur penodol.

alt text
David Hallangen oedd wedi creu’r ffilmiau animeiddio a Syr Tony Robinson (un o lysgenhadon Cymdeithas Alzheimer) oedd yn trosleisio.

Defnyddio'r ffilmiau animeiddio wrth hyfforddi

Yn dilyn yr animeiddiad cyntaf, cysylltodd aelodau o deuluoedd ac ymarferwyr iechyd ledled y byd â’r Athro Wray. Gofynnodd sefydliadau ym maes gofalwyr proffesiynol a allen nhw ddefnyddio ei ffilmiau animeiddio yn eu hyfforddiant. O ganlyniad, mae’r ffilmiau bellach yn rhan o gyrsiau hyfforddi ar gyfer gofalwyr teuluol a gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig yn y DU, UDA, Awstralia a Seland Newydd, ac mae nifer o sefydliadau yn eu defnyddio at y ddau ddiben.

Arweiniodd y ffilm gyntaf hefyd at lawer o wahoddiadau i roi sgyrsiau i staff a rheolwyr mewn cartrefi gofal, yn ogystal â’r cyfle i siarad mewn dwy gynhadledd flynyddol gan Sunrise Senior Living, darparwr gofal preswyl a dementia o bwys yn y Deyrnas Unedig. Ar ben hyn, rhoddodd gyflwyniadau a gweithdai hyfforddi ar gyfer darparwr gofal o bwys yn Awstralia, Wesley Mission Queensland a threialon nhw’r ail ffilm animeiddio cyn iddi gael ei chwblhau.

Roedd allgymorth Wesley Mission Queensland i ffoaduriaid hefyd wedi ysbrydoli’r drydedd ffilm sy’n canolbwyntio ar ofalwyr a chleientiaid sy’n siarad ail iaith. Yn y cyd-destun hwn, mae gwaith yr Athro Wray wedi cyfrannu at y drafodaeth sensitif ynghylch defnyddio gweithwyr sy’n fewnfudwyr ym maes gofal dementia, a sut i ofalu am siaradwyr ieithoedd eraill sy’n byw gyda dementia.

Mewn arolwg adborth o’r sawl a gymerodd ran mewn digwyddiad hyfforddi yn 2017, canfu 97% o'r ymatebwyr fod yr ymchwil yn werthfawr a dywedodd y sawl yno y bydden nhw’n addasu eu hymddygiad i newid eu hiaith ac i fod yn wyliadwrus am achosion posibl o ddiffyg cyfathrebu sylweddol, gan gynnwys: “defnyddio ymadroddion i roi gwybod i’r cleient neu’r teulu eich bod yn deall”, “ateb y cwestiynau na chawson nhw eu gofyn”, a “bod yn ymwybodol o bryderon sydd gan y cleient neu’r teulu ond nad ydyn nhw’n eu dweud.”

Canllawiau ar ganlyniadau gwell

Yn dilyn cyhoeddi llawer o bapurau ymchwil ar y pwnc, mae ymchwil yr Athro Wray wedi arwain at ddau lyfr. Enillodd y cyntaf, The Dynamics of Dementia Communication, a gyhoeddwyd yn 2020, wobr cystadleuaeth llyfrau 2021 Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL) a daeth yn ail yng nghystadleuaeth llyfrau Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol yr Unol Daleithiau yn 2022.

Yr ail lyfr, a gyhoeddwyd yn 2021, yw Why Dementia Makes Communication Difficult: A Guide to Better Outcomes. Canllaw lleyg ar ei hymchwil yw’r llyfr. Mae'n cynnig atebion ymarferol i bobl â dementia, eu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol yn ogystal â phobl sy’n dod ar draws dementia o bryd i’w gilydd yn sgîl eu gwaith neu o ganlyniad i gymdeithasu.

Pobl

Yr Athro Alison Wray

Yr Athro Alison Wray

Professor (Research)

Email
wraya@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4762

Newyddion cysylltiedig

Alison Wray Newyddion

Dathliad dwbl i ymchwilydd ym maes dementia

Mae ei llyfr diweddaraf yn cynnig atebion ymarferol bob dydd i oresgyn anawsterau o ran cyfathrebu

Carer looking after woman Newyddion

Gwella bywydau pobl sydd â dementia

Mae arbenigwr ym maes heriau cyfathrebu a achosir gan ddementia yn defnyddio ei gwaith ymchwil i lywio arferion hyfforddiant i ofalwyr a theuluoedd.

A young man helping an older man Newyddion

Helpu gofalwyr dementia i wneud synnwyr o’u profiadau

Mae ffilm animeiddio newydd a phwerus newydd gan Brifysgol Caerdydd ac a drosleisiwyd gan Syr Tony Robinson wedi amlygu’r anawsterau cyfathrebu y mae pobl â dementia yn eu hwynebu. Y nod yw helpu gofalwyr i ddeall yn well a chefnogi pobl sydd â’r cyflwr.

Rhagor o wybodaeth

Word of mouth - Mae’r Athro Wray yn sôn am ei gwaith ar raglen Word of Mouth ar BBC Radio 4

Reading between the lines - darlith hanner awr ar rôl cyd-destun cyfathrebu â phobl sydd â dementia

The importance of communication - erthygl yn Medical News Today

Partneriaid

Datgloi darluniau hanesyddol trwy archifau digidol

Datgloi darluniau hanesyddol trwy archifau digidol

Opening up great collections means sharing whole genres with new audiences.

Gweld Dahl drwy lens Gymreig

Gweld Dahl drwy lens Gymreig

Stori o waith allgymorth annisgwyl yn trawsnewid ymgysylltu a chyfranogi llenyddol cenedlaethol.

Newid arferion curadurol a chanfyddiadau'r cyhoedd o filwriaeth, rhyw a chreadigedd

Newid arferion curadurol a chanfyddiadau'r cyhoedd o filwriaeth, rhyw a chreadigedd

Mae gwaith ymchwil yr Athro Holly Furneaux ar Ryfel y Crimea wedi herio canfyddiadau presennol o filwriaeth, gan gwestiynu’r prif naratif o’r milwr anemosiynol.

Past highlights

Illustration by Eleanor Vere Boyle

Gwerth y Fictoriaid: rhannu darluniau’r 19fed ganrif.

Defnyddio metadata wedi’i seilio ar ymchwil i ddiddanu cynulleidfa fodern o filiynau o bobl.

Scientists in lab

Dylanwadu ar y drafodaeth ymchwil geneteg.

Diffinio biofoeseg newydd sy’n addo datrysiadau byd go iawn i broblemau’r byd go iawn.

Whizz kids Lola's story

Gwella addysg a chefnogaeth HIV/Aids drwy ysgrifennu comics.

Gweithdai mewn arlunio comics yn yr Academi Whizzkids United yn KwaZulu-Natal, De'r Affrig.