Ymchwil
Rydym yn ymrwymedig i ymchwil a lywir gan ddamcaniaeth gyda ffocws clir ar bolisi. Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol, yn arloesol ac yn cael effaith.
Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac yn cynnwys:
- Cymrawd o'r Academi Brydeinig
- Academydd o'r Academi Gwyddorau Cymdeithasol
- Enillydd Gwobr Cyflawniad Oes y Gymdeithas Gymdeithasegol Brydeinig
- Cymrawd Academi Amaethyddiaeth a Choedwigaeth Frenhinol Sweden
- Cymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Croesawn amryw o ymwelwyr a siaradwyr rhyngwladol, Yn y gorffennol mae'r rhain wedi cynnwys: Yr Athro Michael Burawoy; Yr Athro Randall Collins; Syr Michael Marmot; Madeleine Bunting; a'r Athro Danny Dorling.
Cyrhaeddodd ein hymchwil mewn Addysg a Chymdeithaseg y 5ed a 3ydd safle, yn y drefn honno, yn asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU 2014. Rydym yn falch bod 100% o’n hamgylchedd ymchwil mewn Addysg wedi’i raddio’n ffafriol i gynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf o ran bywiogrwydd a’i chynaliadwyedd. Cafodd 80% o’n hymchwil mewn Cymdeithaseg ei raddio fel ‘nodedig’ am ei effaith o ran ehangder ac arwyddocâd.
Grantiau a chydweithrediadau
Mae ein cydweithrediadau'n amrywio o bartneriaethau gyda phrifysgolion blaenllaw ac asiantaethau rhyngwladol ledled y byd, i weithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr lleol.
Er 2008, mae'r Ysgol wedi sicrhau grantiau ymchwil gyda chyfanswm o dros £38 miliwn. Ein hadran ni sy'n sicrhau'r grantiau allanol uchaf fesul pen o unrhyw adran Gwyddorau Cymdeithasol yn y wlad.
Rydym yn bartneriaid yn What Works Centre for Crime Reduction y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Rydym yn cynnal Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol., Hefyd rydym yn arwain DECIPHER (y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd).